Neidio i'r cynnwys

Patrymau Gwlad/Astudio'r Beirniad

Oddi ar Wicidestun
Yr Hen Geiliog Gwynt Patrymau Gwlad

gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol)

Y Bardd a'i Waith

ASTUDIO'R BEIRNIAD

On yw d'uchelgais farddol yn ymestyn
At gyhoedd ogoniannau cadair dderw,
Ni wiw it boeni gormod gyda'r Testun,
Geill hynny d'arwain i brofiadau chwerw;
Ni waeth b'le rhed yr awen yn ei rhysedd
O chedwi'r Beirniad fyth ar flaen dy fysedd.

Bydd ambell un yn ferwawg o gyfaredd,
A'r llall yn drwm gan athronyddol ddawn,
Ond erys arall feirniad, drwy drugaredd,
A'i bleidlais dros y bryddest eglur iawn;
F'allai, er hyny, 'n hoff o'r odlau dwbwl;
Astudia'r Beirniad, mae o'n werth y cwbwl.

Y mae Hwn-Yma'n dilyn yr hen ffasiwn
A dotio ar dinc telynau aur y nef;
Ond am Hwn-Acw, y mae'n gryn demtasiwn
I gablu tipyn bach i'w foddio ef;
Waeth p'un ai rhegi 'rwyt ai dweud dy bader,
Cofia mai'r Beirniad ydyw Pwnc y Gadair.


Nodiadau

[golygu]