Patrymau Gwlad/Calendr Meinwen

Oddi ar Wicidestun
Wil a'i God Patrymau Gwlad

gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol)

Plant Cymru Heddiw

CALENDR MEINWEN

LLWYNI i gyd oll yn gerdd,
Chwerthin haul ar y lli,
Dedwydd ddau, a dydd hwyaf
Yr haf ydoedd hi;
O wynfyd, dydd byrraf fy mywyd i mi!

Dydd llwm, a'r hen flwyddyn
Yn wyn dan ei hoed,
A'r gaeaf yn gyrru
Pob canu o'r coed;
Och, dyna'r dydd duaf, a'r hwyaf erioed!

O'i chwilio'n dra manwl—a Chalendr Meinwen.
Dirgelwch i mi ydyw Cyfrol Tynghedfen,


Nodiadau[golygu]