Patrymau Gwlad/Chware Teg i Iolo

Oddi ar Wicidestun
Cwmtydu Patrymau Gwlad

gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol)

Wil a'i God

CHWARE TEG I IOLO

FE ganodd lawer cywydd
Yn gelfydd ac yn gain
Gan adael mai Ap Gwilym
O'i rym a fu'n creu'r rhain.
Er cynddrwg ei anfadwaith
'Roedd ganwaith gwell nag un
A gymerth gywydd Iolo
A'i hawlio iddo'i hun.

Nodiadau[golygu]