Patrymau Gwlad/Diwrnod Gŵyl

Oddi ar Wicidestun
Marw Bardd-Filwr Patrymau Gwlad

gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol)

Cerdd Gobaith

DIWRNOD GŴYL

TYR tonnau haf yn ewyn ar y drain
A chanu yn y perthi; dros y tir
Ymdaena tegwch pêr; 'does liw na sain
Yn fefl ar burdeb y ffurfiafen glir./
Daw cerdd y gog o'r llwyn ar lethr y bryn;
Pyncia ehedydd anwel uwch fy mhen;
Gwennol a ymlid wennol dros y llyn
A fflachia fynwes ar ôl mynwes wen.

Ddoe gwyddwn am ofalon fil a mwy,
Yfory'n ddiau eraill im a ddaw,
Heddiw dan chwerthin haul anghofiaf hwy,
A natur yn ei hafiaith ar bob llaw;
Ni thraidd helbulon bywyd ataf drwy
Ragfuriau oesol ceyrydd Epynt draw.

Nodiadau[golygu]