Patrymau Gwlad/Diwygio Ein Diwygwyr

Oddi ar Wicidestun
Y Bardd a'i Waith Patrymau Gwlad

gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol)

Mwy Na Thâl

DIWYGIO EIN DIWYGWYR

MAE'N gwlad o hyd yn heigio o ddiwygwyr
Mewn crefydd a gwleidyddiaeth, moes ac iaith,
Mae ganddynt, un ac oll, eu brwd edmygwyr
I groch utganu eu diwygiadol waith;
Ond gwêl y doeth o'r diwedd mai hymbygwyr
Ydynt gan mwyaf, er y moli maith
Sydd arnynt; mynnwn amgen goleuadau
Na hud-lewyrnod gwelw ein diwygiadau.

Nodiadau[golygu]