Patrymau Gwlad/Serch ac Adfail

Oddi ar Wicidestun
Dic y Pysgotwr Patrymau Gwlad

gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol)

Marw Bardd-Filwr

SERCH AC ADFAIL

CYFYD gorllanw y Mai yn wyn dros gen
Y garnedd, a thyr ewyn llygaid dydd
Ar falltod chwâl y meini hanner cudd.
Cyd-eistedd dau dan gysgod draenen wen
Heddiw a blyg lle gynt y codai pen
Y castell balch; yn nhangnef y cyhûdd
Pêr eu cymundeb, rudd wrth wridog rudd,
Heb gwmwl heddiw i anurddo'u nen.

Ar sail y tyrau tal a'r muriau mawr
Bu ton ar waedlyd don yn rhuthro'n erch
A hyrddio'r godidowgrwydd gwych i lawr.
Aed Hanes heibio i'r adfail drist yn awr
A'i hofer druth; traethu cadernid serch
Diddarfod mae mudandod mab a merch.


Nodiadau[golygu]