Neidio i'r cynnwys

Patrymau Gwlad/Ymhen yr Wythnos

Oddi ar Wicidestun
Daeth yr Haul Patrymau Gwlad

gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol)

Pan Fyddych Hen

YMHEN YR WYTHNOS

Ein parth oedd le di-rcol
Fin nos un wythnos yn ôl;
Pob trefn yn anhrefn a wnâi
Ar aelwyd ffordd yr elai.
I'w dadwrdd taw nid ydoedd.
O'r miri mawr yma oedd!
Swniai cân ei hwian hi
Hyd aelwyd efo'i doli;
A huliai'r tŷ ag olion
Ei theganau brau o'r bron.

****
Ein parth sy gymen heno
Ym min hwyr, rhy gymen o,
Heb drwst ei cham na'i thramwy
Yn un man, na'i hwian mwy.
Aeth tincian ei theganau,
Weithian mud yw'r bwthyn mau.
Rhwng miri anghymarol
Fin nos un wythnos yn ôl
A'r awron, ba oer hiraeth,
Ba daw, Dduw, i'm byd a ddaeth!


Nodiadau

[golygu]