Patrymau Gwlad (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Patrymau Gwlad (testun cyfansawdd)

gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol)

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Patrymau Gwlad
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Thomas Jacob Thomas (Sarnicol)
ar Wicipedia

Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader




PATRYMAU GWLAD



GAN



SARNICOL




LLYFRAU PAWB

DINBYCH

Argraffiad Cyntaf - Hydref 1943



Argraffwyd gan Wasg Gee, Dinbych



Cesglais y gwlân, yn ddu a gwyn,
Rhwng drain a drysi ciliau gwlad,
A dysgais y patrymau hyn
Wrth dân o fawn ym mwth fy nhad;
A difyr dasg fu troi i'r gwŷdd
I'w gweu yn hamdden hwyr y dydd.


O bryd i bryd argraffodd y Western Mail amryw o'r darnau hyn, a thalu amdanynt yn anrhydeddus.
Diolch am ganiatâd i'w cynnwys yma.


S.

Y DRINGWR

BAUN hyglod aur binaglau,
Di-geiniog dy fyd gynnau,
Dringaist i'r lan o'r llan i'r llys,
Wr hoffus, wrth y rhaffau.

CARIO'I BRAWD

EBE'R Dyn: Gennyt ti mae'r baich tryma'n y fro.
Na, syr, medd yr Eneth, fy mrawd ydy' o.


DE MORTUIS

O'R myrdd a luniodd plant
Ein byd o anwireddau,
Mae naw deg o bob cant
Ar gerrig beddau.


MWY EI GWERTH AM EI GWRTHOD

RHO iddi'n rhwydd, a'th ged ni bydd ond gwael;
Gwrthod, a threnga'r feinir am ei chael.


CAMGYMERIAD

DRWY gymryd gwidw, fe wnaeth Sam
Un camgymeriad erchyll;
Mewn twlc o dy mae'n tynnu ei swch
Yn sŵn yr hwch a'r perchyll.


Y BACH O AUR

 BACH O aur i'w enwair aeth rhyw ŵr
Mewn gobaith dalfa fawr i lan y dŵr;
Ond, fe ddychwelodd o'i anturiaeth ffôl
A basged wag, a'i fach o aur ar ôl.

MAC A MOSES

Bu Mac a Moses am ryw hyd
Yn ceisio cadw siop ynghyd;
Wrth gyson wylio'r naill y llall
Tynged y ddau fu mynd yn ddall.


Y PENLLÂD

CAS genny' gnaf sy'n clebran
Am garu'r byd yn gyfan;
Onid penllâd y cread crwn
I hwn yw-ef ei hunan?


AR YNYS IÂ

(I Wleidyddwr)

Er ffrindiau sy'n ei adael o
Gan hedeg ymaith mewn ynfydrwydd
I'r Chwith neu'r Dde, fel adar to,
A'u hwyneb adref o'r enbydrwydd;

Saif wrtho'i hun ar ynys iâ
A'r poethder yn ei chyflym doddi;
Ydy' o ar ddiflannu? Na,
Rhy heini fydd er hyn i'w foddi.

Y PRIF DDIRGELWCH

O'r holl ddewis-bethau a welwch
Dynes deg yw'r prif ddirgelwch;
Syllwch arni, mawr ei ffrom,
Byddwch ddall, mil mwy ei siom.

YN Y FFYNHONNAU

Y Wraig Dew:
MAE'N gostus, ond mae 'mhwysau i lawr
I'r hanner o fewn mis.
Ei Gŵr Tenau:
Aros fis eto, pleser mawr
Fydd genny' dalu'r pris.


CHWARDD!

OD oes it hen ewythr pur gefnog yn bod,
A'i oedran, a'i iechyd lled frau'n dy ddiddori,
I ddatod llinynnau ei galon a'i god
Gofala am chwerthin ar derfyn ei stori;
Gall na bydd y peth yn dy wneud yn rhy chwannog
I chwerthin, ond chwardd, mae'r hen ŵr yn ariannog.


LOES HEN GYMRO

TRI llymaf peth Siôn Adda:
Dant ffwlbert yn y ddalfa,
Gwynt o'r dwyrain du yn dod,
A thafod chwimwth Efa.

CANU GWREIDDIOL

TYNNAL beirdd ein bro un adeg
Eu hysbrydiaeth oll ymron
Nid o anian, ond Gramadeg
Mawr Syr John.

Pe rhagwelsai'r Marchog hynny
Buasai'i groen i gyd yn ddrain,
Rhoisai'i gampwaith dysg i fyny
A rhoi siawns i'r beirddion brynu
Ei Ganiadau cain;

Ac ni chawsai weld yn nychu.
Lawer cymhleth gân,
Heb wlith awen yn ei gwlychu,
Swp o wreiddiau wedi sychu:
Stwff at ddechrau tân.

RHODRES

PAN ddelo i "gwmni parchus"
Hen Gymro uniaith ofnus,
Ni thrônt, er medru iaith eu gwlad,
I'w siarad yn gysurus.

Ond pan ddêl Sais neu Saesnes
I gwrdd o "Gymry cynnes,"
Troi i'r Iaith Fain mae rhain yn rhwydd
O reidrwydd rhemp eu rhodres.

BARN YMWELYDD

Ti weli
Fod hwn, sy fel yr holl gapeli
O'r môr i'r Mardy
Yn debyg i garchardy—
Ond yn dywyllach
A llawer hyllach.

DEWIN Y DYDD

GOFALA am lên
I'w gyd-ddinasyddion,
A thry bethau hen
O hyd yn newyddion.

Ddewinol sgrifennydd,
Y swynwr y sydd
A'i golofnau ysblennydd
Yn dal pynciau'r dydd.

O dir pell ororau
I galon y plwy
Bob dydd dwg drysorau—
Er ceiniog neu ddwy.

Ei hudlath arweiniol
A'n tywys o hyd
Ar lwybyr mwy breiniol.
Drwy dryblith y byd.

YR YMWARED

Y GŴR dan driniaeth lem
A wyneb—lasai;
Mor druan oedd ei drem
A phe buasai

Yn cael ei ddal yn dynn
A'i raddol flingo,
A hithau yn ddi—gryn
Yn blasu ei ing o.

Parhâi ei wraig i'w drin
Heb daw, heb derfyn,
Didostur ydoedd min
Ei hanfad erfyn.

Yn ddiymadferth troes
Dwy lath o ddyndod,
Chwe throedfedd lawn o loes,
Naw scôr o gryndod.

Ond ar y dduaf awr
Fe ddaeth ymwared
I dorri megis gwawr—
Llygoden ar y llawr
O dwll y pared!

WRTH Y DRWS

"Pwy wyt ti?" medd Pedr,
A'r drws yn cil—agor,
"Caradog o Lundain,
Nofelydd—a rhagor."


Paham 'r wyt ti'n galw?"
"'Rwyf am gael trig oesol.
Lle ni bydd un Cymro
A'i gastiau anfoesol."

"Lle ni bydd un Cymro!
Mae yma filiynau,
Tyrd, gwrando am ennyd
Ar sain eu telynau;

"Adweini di'r cywair?"
"Fy mhobl emynyddol,
Mae hi'n Gapel Seion
Fan yma'n dragwyddol!"

"A thi'n un ohonynt!"
"Gwir, ond pe trigiannwn
Yng nghanol y gethern
Ai'r nefoedd yn annwn."

A throes ar ei sawdl
Heb un gair ymhellach,
A ffoi dan dalgwympo
I lawr strim-stram-strellach.

A chlybu'r nefolion
Bell atsain daranllyd,
Sŵn croeso Caradog
I'w loches frwmstanllyd.


YR HEN GEILIOG GWYNT

FE rydodd ar ei golyn,
Ac er i wyntoedd dig
O'r gogledd sgytio'i bolyn,
I'r de y pwyntia'i big:
Ofer yw bloedd tymhestlocdd mawr,
Aderyn hen, i'w droi yn awr.

ASTUDIO'R BEIRNIAD

On yw d'uchelgais farddol yn ymestyn
At gyhoedd ogoniannau cadair dderw,
Ni wiw it boeni gormod gyda'r Testun,
Geill hynny d'arwain i brofiadau chwerw;
Ni waeth b'le rhed yr awen yn ei rhysedd
O chedwi'r Beirniad fyth ar flaen dy fysedd.

Bydd ambell un yn ferwawg o gyfaredd,
A'r llall yn drwm gan athronyddol ddawn,
Ond erys arall feirniad, drwy drugaredd,
A'i bleidlais dros y bryddest eglur iawn;
F'allai, er hyny, 'n hoff o'r odlau dwbwl;
Astudia'r Beirniad, mae o'n werth y cwbwl.

Y mae Hwn-Yma'n dilyn yr hen ffasiwn
A dotio ar dinc telynau aur y nef;
Ond am Hwn-Acw, y mae'n gryn demtasiwn
I gablu tipyn bach i'w foddio ef;
Waeth p'un ai rhegi 'rwyt ai dweud dy bader,
Cofia mai'r Beirniad ydyw Pwnc y Gadair.


Y BARDD A'I WAITH

"O'i ddarllen drwyddo
Ni chei fy Ngwaith yn rhywbeth melys-dlws
A gwacsaw, buasai'r cyfryw'n dy dramgwyddo;
Hyd hyn mae wedi llwyddo
I gadw y blaidd oddi wrth fy nrws."
"F'allai dy fod," sylwai'i gydymaith swrth o.
"Yn bygwth adrodd dy betheuach wrtho."

DIWYGIO EIN DIWYGWYR

MAE'N gwlad o hyd yn heigio o ddiwygwyr
Mewn crefydd a gwleidyddiaeth, moes ac iaith,
Mae ganddynt, un ac oll, eu brwd edmygwyr
I groch utganu eu diwygiadol waith;
Ond gwêl y doeth o'r diwedd mai hymbygwyr
Ydynt gan mwyaf, er y moli maith
Sydd arnynt; mynnwn amgen goleuadau
Na hud-lewyrnod gwelw ein diwygiadau.


MWY NA THÂL

Er ei helpu i aredig,
Hau, a chasglu'r ŷd,
Nid efo a fu'n garedig
Wrthyf, eto i gyd.
Do, fe'i helpais, er na syniais
Fod ei gof mor sâl;
Ond, os rhoed im well, derbyniais
Fwy na thâl.

YSGUBWR Y STRYD

HEN wladwr yw, erioed ni fagodd tref
Wron o'i osgo batriarchaidd ef.

Ei lygad gwyl a ddengys las y wawr
A dyr yn araf dros y Frenni Fawr.

Os nad fel Dewi'n ddyfrwr, ar ei fron
Ymdonna barf wir deilwng o Fab Non.

Er lludded llwch yr heol hyd y dydd,
Mae arlliw haidd Sir Benfro ar ei rudd.

O chloffir ef gan iaith nas medr ei thrin,
Mae iaith fonheddig Dyfed ar ei fin.

Lle gwelir ei ysgubell ef, o hyd.
Bydd darn o fro Siôn Gymro ar y stryd.

Urddasol ŵr, wyneba'r glaw a'r gwynt
Fel un o hen broffwydi Cymru gynt.

Gwna yntau'i ran, heb honni'r dwyfol dân,
A'i ddawn ysgubol i greu Cymru lân.

Y GWR DIOG

GORWEDDAIS am flynyddoedd mawr
Drwy deg a garw,
Ac nid wy'n mynd i godi 'n awr,
Dim, 'tawn i' marw.

SŴN WYTH, TALU NAW

WYTH geiniog y dydd oedd am ddyrnu
Cyn gwasgu o'r dyrnwyr am fwy,
A Siôn, wedi tipyn o chwyrnu,
A roes naw, gyda holl feistri'r plwy,
Gan ddisgwyl i diwn rownd y ffustiau
Gyflymu, a chwyddo heb hoe,
Ond och, 'nôl tystiolaeth ei glustiau,
'Doedd ragor rhwng heddiw a ddoe;
A sylw Siôn Pwt oedd, wrth wrando gerllaw:
Sŵn wyth, talu naw.
Pe buasai Siôn Pwt heddiw'n byw yn y byd,
Câi reswm dros wneud yr un sylw o hyd.

TRI BEDDARGRAFF

I


Isod mae'r Peintiwr Tai a'r bloeddiwr croch
A fynnai beintio'r byd i gyd yn goch;
O'i uchder syfrdan syrthiodd, gnaf anhydyn,
Pan roes yr ysgol ffordd o dano'n sydyn.

II


Benito fostfawr, a fu'n brentis iddo,
Sydd yma wrth ei ystlys wedi ei briddo;
Daeth terfyn ar ei ffrost, a'i gwrs addysgol,
Ac yntau'n ceisio dal i fyny'r ysgol.

III


Wrth draed y ddau y gorffwys y Ci Bach
Melyn, danheddog, o Ddwyreiniol ach.

Y CYNTAF I SYRTHIO

HANES pob gwlad
A dystia'n glir
Mai'r cynta'n y gad
I syrthio yw'r Gwir.

CEILIOG YN CANU YN Y NOS

O TAW, aderyn ffôl,
Mae traean nos yn aros eto'n ôl;
Arswydlawn yw dy sŵn
Pan gwyd yn gymysg ag adiadau'r cŵn.
I gorddi fy nychymyg.
A llunio im gur a gwae, a thranc anhymig.

Dy gryglais oer o'r glwyd
A yrr ias erch drwy'r gwyll, ai ellyll rwyd?
Beth bynnag wyd, och, taw
Hyd oni welir ar y bryniau draw
Y cyfddydd egwan ar adenydd llwydion,
Hyd hynny gad im dramwy tir breuddwydion.

Ond, ofer ymbil, wedi pob seithug dro
Dy unig ateb swrth yw: Go-c-o-go!
Wel, gwna dy waetha'n awr,
Od aeth fy nghwsg ar ffo,
Rhof derfyn ar dy drwst pan dyr y wawr;
Ac wrth fwrdd cinio fory, bach a mawr
A ddathla gyda gorfoleddus gri
Dy dranc anhymig di.


CWMTYDU

(Ar ol araith gan un o'i blant)

ALLTUD y dref, os ydy'
Dy hen Gymraeg yn rhydu,
Mae'n bryd, a'i chael yn dywydd teg,
It hedeg i Gwmtydu;

Y fan i bawb a fynno
Gymraeg sy lân a chryno;
Y graig uwchben, a'r gragen gron,
A'r don a'i sieryd yno.

Mil gwell na'r gwin, a phigion
Bordydd y pendefigion
Yw arlwy Ffred, cyfrannydd fllwch
Crai degwch Ceredigion.

Mor gryf mae'r iaith yn bydio!
Iaith Môn a Mynwy'n cydio,
Iaith yr Hen Sir, a'r Rhondda "he'd".
O enau Ffred sy'n ffrydio.

I'r fan dos, O gysgadur,
Mae gŵr y gaib a'r bladur
Yn dysgu iaith ei wlad o hyd
O'i grud heb un geiriadur.


CHWARE TEG I IOLO

FE ganodd lawer cywydd
Yn gelfydd ac yn gain
Gan adael mai Ap Gwilym
O'i rym a fu'n creu'r rhain.
Er cynddrwg ei anfadwaith
'Roedd ganwaith gwell nag un
A gymerth gywydd Iolo
A'i hawlio iddo'i hun.

WIL A'I GOD

E FARW Wil, cefnoca'r fro—a gadael
Y god a oedd ganddo,
A daeth bagad yma, do,
O'i dylwyth i gyd-wylo.

Ar ei elor oer wylant—ac ar fin
Gro'i fedd ocheneidiant,
Ond, rhwng dyfnion gŵynion gant
Ei goden a lygadant.

I elw ei rym Wil a rodd—a'i hir oes
Ddi—wraig a gysegrodd
I'w ddilyn, ac addolodd
Y garn o aur a grynhôdd.

Am ei god pa ymgydio!—a'i dylwyth
Yn dal i ymruthro
Ym modd y Fall am eiddo
'R enwog Wil, druan ag o!


At hyn, fel barcutanod—ar antur
A wyntia furgynnod,
Ym merw gwanc am aur y god
Daw'r anniwall dwrneiod.

O aeth mawr y tylwyth, mwy—pa lefain!
Gyrr plufwyr bras arlwy—
Annidwyll hil ofnadwy—
A'r god o aur gyda hwy.

   

O hyd 'e lŷn dylanwad—Wil a'i aur
Er eu blin ddiflaniad
Yng nghweryl ac anghariad
Chwerw ei lwyth hyd ochr y wlad.

CALENDR MEINWEN

LLWYNI i gyd oll yn gerdd,
Chwerthin haul ar y lli,
Dedwydd ddau, a dydd hwyaf
Yr haf ydoedd hi;
O wynfyd, dydd byrraf fy mywyd i mi!

Dydd llwm, a'r hen flwyddyn
Yn wyn dan ei hoed,
A'r gaeaf yn gyrru
Pob canu o'r coed;
Och, dyna'r dydd duaf, a'r hwyaf erioed!

O'i chwilio'n dra manwl—a Chalendr Meinwen.
Dirgelwch i mi ydyw Cyfrol Tynghedfen,


PLANT CYMRU HEDDIW

RHAI ag aflednais drymru
Sy'n lladd ar i'enctid Cymru,
Gan ddweud bod plant y te yn waeth
Na hil y llaeth a'r llymru.

Ofnadwy lol! cânt gyfle
I guro'r hen i rywle;
Maent o'n colegau heddiw'n dod
Ri' tywod Abertawe.

Gwyr hyddysg, aml eu graddau,
Athronwyr y llythrennau,
Yng Nghymru heddiw heidia'r rhain
Fel brain ar sofl y bryniau.

Mae gennym feirdd nodedig,
(O'r Gogledd yn enwedig)
A fflamau eu hanfarwol nwyd
A gwyd yn fendigedig.

Y cadarn a fu'n codi
Ar alwad i reoli,
Ni buasai heddiw, druan bach,
Ond corrach ym myd cewri.


EDIFEIRWCH

O FRITHYLL bach, sy'n rhoddi llam
Yng nghornant y Llethr Du,
Erfyniaf dy faddeuant am
Ddwyn einioes dy dad-cu
A phin a blygwyd genny'n gam
Yng nghrog wrth rownyn cry'.

Mae'r hen euogrwydd hwn o hyd
Uwch dim yn poeni 'mhen;
Faint gwell wyf i o'm dal ynghyd
A Bardd y Garreg Wen,
A'r Bardd â'i gerdd yn glod i gyd
I'w Enwair, ac i'w Fen?

Barbariad ieuanc o'wn, bid siŵr,
A gelyn milod mân,
Ond, wedi cyrraedd oedran gŵr,
Gwell genny', frithyll glân,
Dy weld yn chware o dan y dŵr
Na'n ffrio ar y tân.

Hir oes i ti, a lle i roi llam
Gorchfygol pan ddêl pry',
Ond gochel bob abwydyn cam
A ddelo i'r Llethr Du,
A maddau, O! maddau imi am
Ddwyn einioes dy dad-cu.


DELFRYD

'Rwy wedi laru
Ar lên y lladd, y llosgi, a'r ysgaru
A welaf yn feunyddiol
Ar wyneb—ddalen y Bloeddiadur Dyddiol;
Gwyddoch, mi wn,
Nad yn Gymraeg mae'r papur hwn.

Paham
Na chaem ryw newydd am—
Nid hil flonhegog Ffair y Gwagedd—
Ond gwyr sy'n byw'n heddychol gyda'u gwragedd?

Syniaf am newyddiadur
Sy 'mhell uwchlaw'r Bloeddiadur,
A'i holl newyddion
Mewn glân Gymraeg, er gwaethaf y snobyddion;
Papur a esyd mewn llythyren fras,
Nid pob helyntion brwnt a chas
Mewn penty ac mewn plas,
Ond pethau pêr eu sawr a phur eu blas;
Papur â'i nod
I ddangos popeth fel y dyl'sai fod
I'm bwrdd bob dydd yn dod.

Ac wele rai nodiadau mân
Yn gweddu'n gymwys i'w golofnau glân:


"Mae gennym newydd da o Dŷ'n-y-Graig:
'Does ŵr ers wythnos wedi curo'i wraig."

"Nid oes un rhith
O wir mewn stori a gaed o Bentre-chwith
Yn dweud bod Twm Siôn Segur wedi 'mgrogi;
Hoedl Twm Siôn sy'n saff,
Gormod yw ei ddiogi
I glymu'r rhaff."

Mae Wil Ben—ysgon wedi mynd ar goll
O Bentre Siswrn, ar ôl codi'r doll;
Tybir mai awel dro
A'i cipiodd o."

"Bu'n hir ar led
Sŵn o Ffair Rhos i Lansanffrêd,
Ac aeth y stori'n rhydd
O gyrrau Dyfi i Gaerdydd,
Toc fe ddeffroes y sôn
Ororau mud Eryri a Môn—
Fod Bugail ieuanc Bryn-yr-ŵyn
A'i lygad ar Fugeiles o Bentwyn.

"Weithion fe syrth y llen
Ar ramant Bugail a'i Fugeiles wen.
Bu'r ffordd i'r allor yn bur faith,
Gweler tudalen 7;
Yno fe geir i gyd
Y rhamant ar ei hyd."


Ein newyddiadur iawn
A rydd golofnau llawn
I briodasau
Bythod a phlasau,
Ac nid rhyw nodi
Yn sych y dydd priodi
A geir, ond hanes crwn y caru.

'Rwy wedi laru
Ar lên y lladd, y llosgi, a'r ysgaru.

ERYS UN RHOSYN

DROS fy hen aelwyd gwynt y môr
A gerdd yn rhydd;
Hwtia tylluan lle bu'r ddôr
Gan watwar tranc y dydd.

Drwy olion bore 'inyd yn awr
Y drain a dardd;
Cripia mieri hyd y llawr
Lle gynt y gwenai gardd.

Cyfyd er hyn un rhosyn gŵyl
I sibrwd am
Haf oriau hir o firi a hwyl,
A heuldes mynwes mam.


Y GREIGLAN DRAW

MWRLLWCH y dref, a'i thrydar cras
A'i gwychder gau a flina 'mron;
Hir dremiaf i'r gorllewin glas,
Bro gwylan deg, bro glan y don;
A hiraeth hallt yn donnau a ddaw
I'r galon drist o'r greiglan draw.

O'r dref mi af, a rhoddi ei holl
Basiannau ymerodrol hi
Am aur a phorffor mebyd coll
Ar rug ac eithin glan y lli.
A hen fwth Hon wrth don ddi-daw
I'r galon drist ar greiglan draw.

Caf glywed ger yr eigion maith
Felodi'r wlad, a'i hacen gref;
Dolennau aur yw geiriau'r iaith
I gydio'r frodir wrth y nef,
Iaith sy'n gyfaredd ar bob llaw
I'r galon drist ar greiglan draw.

Cyn daliu o'r llwch fy ngolwg wan
Yn nhawch y dref a'i blinder caeth
I fin y môr af yn y man
A'i olau drud ar hudol dracth;
O'r rhin a ddeil, a'r hoen a ddaw
I'r galon drist o'r greiglan draw!


O DAN YR ALLT

MAE heol blwyf yng nghalon gwlad
Yn dirwyn dan yr allt yng nghudd,
Tramwyfa tylwyth 'Mam a 'Nhad
Ers llawer dydd;

Lle cerddwn innau o dan y coed
Ddwy filltir flin i'r ysgol draw,
A dychwel adre'n sionc fy nhroed
Drwy'r gwynt a'r glaw.

Ar ôl galanas gaeaf maith
Ar urddas dâr a rhwysg yr onn,
Hir oeda'r gwanwyn ar ei daith
I'r ardal hon.

A'm llwyd gynefin yn tristáu
Mewn tlodi wedi disgwyl cyd,
Daw'r gwanwyn megis teyrn gan hau
Ei gyfoeth drud.

A'r huan brwd ar waun a bron
Nid oes wynwydden yn yr allt,
Na bedwen deg yr adeg hon
Heb ledu ei gwallt.

Weithion 'does heulog lain heb lu
O 'sanau'r gog a'u saffir swyn,
Na llecyn heb aderyn du
Eurllais ar lwyn.

Ni ddychwel gwanwyn ar ei dro
Na hed fy nghalon eto'n syth
I heol blwyf mewn gwledig fro
A garaf byth,

Tramwyfa tylwyth 'Mam a 'Nhad
I'r llan, i'r ysgol, neu i'r ffair,
Ac yntau'r haul yn hulio'r wlad
A'i olud aur.

****
Ac ar ôl hyn, y lana' erioed,
A'r haul a'r awel yn ei gwallt,
Mor ysgawn droed a dynn i'r oed
O dan yr allt.

Y GRAGEN WAG

I DIR gwlad o'r gwaelodion—yn degan
Y dygwyd hi weithion,
Gragen wag, organ eigion,
Digymar deg em o'r don.


Y SWP GRAWNWIN

YR haul a dywallt o'i rin—a'i loniant
I lunio'r swp grawnwin;
Faeth dihafal, foeth deufin,
Odidog wawr, dad y gwin.


GWASGAR GOLUD

Ei emrailt i'r allt a rydd
A'i gwrel i bell geyrydd;
Diemwnt i'r ffrydiau mân,
Mererid i'r môr arian.
Ymlonna Haul melynwawr
I fwrw ei lif aur i lawr
Ar blas caerog enwog ŵr,
Ac ar annedd gwerinwr.

O'R FFAU.

Dy ŵyrgam Iwybrau oll
O Ddyn, ag árlliw gwaed
A ddengys ôl dy draed
Yn dod o'r ffau drwy niwl y cynfyd coll.

Er dringo llethrau'r byd
Yn uwch, o ris i ris,
O'r greadigaeth is,
Mae'r llys a'r llaid ar d'enaid di o hyd.

Di nerthol, freiniol Ddyn,
Wyt arglwydd ar bob rhyw
O greaduriaid byw,
Ond ar y bwystfil ynot ti dy hun.

Eto, uwch mwg y gad,
Canfyddi draw ymhell
Binaglau bywyd gwell
Yng ngwawl gogoniant Gorsedd Wen dy Dad.


Y BARDD

Ni threcha llymder na thrwch holl amdo
Niwlog y dyffryn ei lygad effro,
Ond nwyd ei enaid a naid ohono;
Pwy na'i gwêl? Awen wemp yn goleuo;
Bardd a'i annedd bridd heno-megis rhith,
A thanau athrylith yn ei threulio.

TREMIO I MAES

WRTH y tân un tro eisteddwn
Yn ofidus ac yn drist,
O'r adnoddau aml a feddwn
'Doedd yn bod na chod na chist,
Na'r un ganig a gordeddwn
A roi falm i'm calon drist.

Troi a throsi llên y llonwyr
I geisio codi 'nghalon brudd,
Ymbil ar yr hen athronwyr
Am ryw hwb o nos i ddydd,
'Doedd y rhain i gyd ond honwyr,
Crach ddoctoriaid calon brudd.

Tremio i maes, a thrwy'r ystrydoedd
Rhuai'r oerwynt, curai'r glaw,
Ond canfûm beth mwy na bydoedd
Gau gysurwyr ol fan draw,
Hogyn bratiog, troednoeth ydoedd
Yn chwibanu yn y glaw.


HARDDACH YW'R CYFAN ERDDYNT

ER y wawrddydd gynt pan ffrydiai
Dafydd hoyw ei gywydd gwin,
Tecach yw rhianedd Cymru
A melysach yw eu min;
Cynnull swyn y byd
Y mae'r bardd o hyd;
Y mae'r llwybrau i gyd lle cerddo
Yn fil, mwyach, harddach erddo.

Hen fynyddoedd moel a diffaith,
Mor flodeuog ydynt mwy
Er i wanwyn yr awenau
Ddringo eu holeddau hwy;
Bwriant inni'n awr
Hudliw hwyr a gwawr;
Teg eu gwrid am weld o Gymru
Awen Ceiriog yn eu caru.

Er yr hwyrnos pan ganfyddai
Islwyn heuliau fyrdd uwchben
Yn oleudai angorfaoedd
Hwnt i ddyfnfor glas y nen;
Er i sêr y nef
Danio'i enaid ef
I'n golygon pŵl daeth pasiant
Nêr i gynnau'n aur ogoniant.


GALW Y MOR

ETO'N ôl i Geredigion
Arw ei thir mewn hiraeth af,
Y fro draw lle ffynna pigion
Gwaun a rhos, a gwenau'r haf.
A phan safwyf gynt lle sefais
Egyr gorwel ddirgel ddôr;
Mwyn yw cofio'r man y cefais
Gyntaf olwg ar y môr,
Ar y môr!

Yno yr hedaf gan hudoled.
Aur a phorffor pen y bryn,
Ha' hir-felyn, môr fioled,
Heulog wawr ar hwyliau gwyn;
Lle gwna grugieir loches dawel,
Lle gwna gwenyn gwyllt eu stôr,
Y dragywydd droeog awel
Sonia mwy am swyn y môr!
Swyn y môr!

Pan wasgaro dwylo Hefin
Flodau fyrdd o las y nef
Yno af i'm hen gynefin
Eto draw o drwst y dref.
Fwyned ydyw fin diwedydd!
Weithion fry uwch canu côr
Y mil adar, mawl ehedydd
Glywa' i mwy, a galw y môr,
Galw y môr!


DIC Y PYSGOTWR

(O Saesneg A. G. Prys-Jones)

MAE Dic yn fil hapusach
Na'r sgweier coch ei rudd,
Yn ddoethach na'r hen sgolor
Sy'n darllen nos a dydd.
Mae'r naill yn heliwr cadarn
A'r llall yn hyddysg ŵr,
Ond, Dic yr hen bysgotwr
Sy'n deall iaith y dŵr.

Mae Dic yr hen bysgotwr
 rhywbeth yn ei drem
A ddaw o wybren erwin
Ac amal awel lem.
Mae'n ddigon tlawd ei olwg
Pan ddelo adre'r hwyr,
Ond, mae'n y byd gyfrinach
Nad oes ond Dic a'i gŵyr.

Mi rown gryn swm o arian
Am gerdd a gân pan ddêl
Fin hwyr wrth lan yr afon
Ar hyd y llwybrau cêl;
A rhown yn rhwydd swm arall
Am weld a wêl efe
Rhwng drysi, hesg a phrysgwydd
Wrth ddychwel tua thre'.


Ger llynnoedd llwyd Paradwys
Tuhwnt i'r seren ddydd,
Lle mae hyfrydwch addas
Ar gyfair pawb y sydd,
Caf glywed, os teilyngaf,
A gweld, ryw ddydd a ddaw,
Dic yr hen bysgotwr
Yn canu yn y glaw.

SERCH AC ADFAIL

CYFYD gorllanw y Mai yn wyn dros gen
Y garnedd, a thyr ewyn llygaid dydd
Ar falltod chwâl y meini hanner cudd.
Cyd-eistedd dau dan gysgod draenen wen
Heddiw a blyg lle gynt y codai pen
Y castell balch; yn nhangnef y cyhûdd
Pêr eu cymundeb, rudd wrth wridog rudd,
Heb gwmwl heddiw i anurddo'u nen.

Ar sail y tyrau tal a'r muriau mawr
Bu ton ar waedlyd don yn rhuthro'n erch
A hyrddio'r godidowgrwydd gwych i lawr.
Aed Hanes heibio i'r adfail drist yn awr
A'i hofer druth; traethu cadernid serch
Diddarfod mae mudandod mab a merch.


MARW BARDD-FILWR

(R.B. 1915)

PYNCIODD yn gynnar orfoledd rhandir
Ei dadau, a chwerthin aur ei lli;
Hedodd ei wawrgan drwy bum cyfandir
A chlybu'r seithfor ei hatsain hi.

Y neb a ganfu ei bryd ysblennydd,
Ei laeswallt euraid, a'i osgo hardd,
A wybu degwch a nwyf dihenydd
Apolo ieuanc yn rhodio'r ardd.

Canodd, ac wybren ei wlad yn duo,
Er darllen ohono ei olaf awr
Ar ael y dynged o draw yn rhuo
Ei gwys yn groch i'r Alanas Fawr.

Difarwy delaid gerdd a ganodd,
Er cuddio o'r meindir ei ddeufin lân; .
Ond o'r distawrwydd sy oddi tanodd.
Mwyach ni flamia'r berffaith gân.

Cwsg yn ynys y main a'r crisial,
Hun ym mhersawr ei mynwes wen,
A'r don win-dywyll o'i ddeutu'n sisial.
A siffrwd olewydd uwch ei ben.

O lannau Helas a'i ban gopäon
Anadla enaid ei awen ef
Ar groes ei feddrod, a chwyth y chwäon
O dir arwriaeth Caerdroea dref.

Erys ei gân yn y gwydd a'r blodau
A golud melodaidd hwyr a gwawr,
Erys ym mawredd annirnad nodau
Peroriaeth gyflawn y Pencerdd Mawr.

DIWRNOD GŴYL

TYR tonnau haf yn ewyn ar y drain
A chanu yn y perthi; dros y tir
Ymdaena tegwch pêr; 'does liw na sain
Yn fefl ar burdeb y ffurfiafen glir./
Daw cerdd y gog o'r llwyn ar lethr y bryn;
Pyncia ehedydd anwel uwch fy mhen;
Gwennol a ymlid wennol dros y llyn
A fflachia fynwes ar ôl mynwes wen.

Ddoe gwyddwn am ofalon fil a mwy,
Yfory'n ddiau eraill im a ddaw,
Heddiw dan chwerthin haul anghofiaf hwy,
A natur yn ei hafiaith ar bob llaw;
Ni thraidd helbulon bywyd ataf drwy
Ragfuriau oesol ceyrydd Epynt draw.

CERDD GOBAITH

DAW pan yw drycin â'i dyrnod gadarnaf
Ar gadres y goedwig a llengoedd y lli';
Daw drwy gri hirnos, a daw pan fo duaf
A garwaf ei graen gan gymylau di-ri'.

Daw pan fo byd a fu siriol yn sorri,
A chaddug a chyni'r nos hir yn nesáu,
Daw pan fo calon y dewraf ar dorri
Mewn nych o weld llewych y wawr yn pellhau.

Chwifia'r bell anthem o riniog yr anwel,
Murmur o foroedd annirnad drwy nudd,
Chwydda'i phêr nodau o gyrrau y gorwel
Fel ped fai ddôr ar led-agor liw dydd.

Gwewyd y gerdd o swyn pob offeryn,
Miwsig y dyfroedd, a melodi'r coed,
Yn ei pheroriaeth mae cân pob aderyn
A mwynder pob cainc ar a drawyd erioed.

Cwrdd yn y gân mae gorfoledd y gwinoedd
A huliwyd gan heuliau pob haf ar ei hyd,
Ynddi fel goddaith uwch gwyll y drycinoedd,
Fflamia gobeithion y galon i gyd.

YMHOLI AM HEULWEN

DAETH im hiraeth am oror
Lon a mwyn ar lan y môr,
Gwamalwch oer gymylau
Na'u hir boen ni ŵyr y bau.
Hiraethaf am awr weithion
O ddi-grwybr dawel wybr hon.
Dyry haf i'w daear hedd
A hir-felyn orfoledd.
O am haul ar ymylon
Y glwys dir, a glas y don!

Ysig wyf dan ias y gwynt,
Hir daranau'r dwyreinwynt.
Tramwyais y trwm aeaf
Plwm oer hin, pa le mae'r haf?
Llaith yw'r niwl sy'n llwytho'r nen,
Barddu-lwyth bro ddi-heulwen.
O lawr maenol i'r mynydd
Disymud siom o hyd sydd.
Hulir swyn yr haul a'r sêr
Ar nifwl ein bro'n ofer.
Erfyniaf ar fy union
Hafan deg ar fin y don.

Af, ymholaf am heulwen.
A'i sarn aur hyd asur nen.


CARPE DIEM[1]
(Horas)

NA hola pa ryw dynged inni a rydd
Y duwiau, eu cyfrinach hwy yw hon;
Na chais gan sêr-ddewiniaid Babilon
Ei datgan iti drwy gyfrifon cudd.
P'ond gwell ei goddef, ni waeth beth a fydd?
Boed llawer gaeaf it, neu boed i don
Dy aeaf olaf hwn ymlâdd ar fron
Y greiglan yn ei gwrthwynebu y sydd,
Bydd ddoeth, anwylyd, gloywa'r cochwin, gwêl,
Nad yw edefyn oes ond byr a brau,
Nac oeda i goledd pell obeithion gau;
A ni'n chwedleua, amser ar aden gêl
A ddianc heibio; dyred i fwynhau
Heddiw, na chyfrif ar ryw ddydd a ddêl.

IEUAN BRYDYDD HIR

WIBIOG etifedd awen fyw ei wlad
A garodd dramwy drwy gyfnodau pell,
Lloffion o gynaeafau oesoedd gwell
Ydoedd ei unig olud a'i fwynhad.
Croesodd werinol drothwy tŷ ei dad,
A gwybu ffrewyll aml ystorom hell,
Ond cwmni'r anfarwolion yn ei gell
A leddfai siom, a thlodi, a thristad.

Dal gwg o draw ar blant athrylith wir
A wnai yr Esgyb Eingl, rhwysfawr eu gwedd
Yng Nghymru gynt, a throi ar grwydr o'i thir
Yn ddall i'w ddoniau, Ieuan Brydydd Hir.
Heddiw y crwydriad yn ei fro a fedd
Glod a diwyro barch, a daear bedd.

THOMAS STEPHENS
(O Ferthyr)

GADAWODD eraill graith ar lawer twyn
A chlwyf agored ar y llechwedd llwm;
Troesant yn hagrwch geinder dôl a chwm
Wrth durio mynwes gwlad am ddiflan fwyn,
Gan sbeilio brodir o'i chysefin swyn.
Ond chwiliaist ti am filwaith gwell na swm
Y cyfoeth du a ddeil y gwrêng yng nghrwm,
A'i staen yn is na'r glesni ar eu crwyn.

Treuliaist dy nerth i gloddio trysor cudd
Dan lwch yr oesoedd, henaur llên a chân;
Golud anniflan pobl i olau dydd
A ddygaist, nid er bydol elw a budd.
Erys ysblander dy athrylith lân
Pan ddarffo goddaith y ffwrneisi tân.


YR HEN YSTORI

DISTAWODD gosber gydag olaf grŵn;
Buan yr eistedd un o'r myneich mud
Wrth y bwrdd bach o fewn ei gell heb sŵn
I rusio'r plufyn ar y crasgroen drud.
Llen ar ôl len a leinw ei brysur law
Nes cyrraedd gwaelod y ddiwethaf oll;
I'w lygad ieuanc deigryn brwd a ddaw
A edrydd hiraeth am ryw gysegr coll.

Dan adfail gandryll y fynachlog fawr
Mae'r ysgrifennwr angof yn ei fedd;
Yn noddfa gwrêng a bonedd gynt, yn awr
Ni welir namyn llanc breuddwydiol wedd
Mewn meddwdod mwyn uwchben y geiriau gwin
A yf o hen ystori'r memrwn crin.

AGOR NEU GAU?

A'R bore balch â'i draed ar geyrydd byd
Trois yng ngor-hyder newydd nwyf a nerth
I ddringo, a gweld yr ysblanderau drud
A oedd yn orwel im o'r foelallt serth,
Moelallt nad oedd ond bryncyn; onid gwell
Tario'n fodlongar, a myfyrio mwy
Ar res anghyffwrdd y pinaglau pell?

Ofer y gobaith am eu cyrraedd hwy.
A gogoniannau'r dydd yn colli eu gwawr
Pell-dremia'r seren hwyr yn welw a syn,
Daw heibio awel oer i sibrwd awr
Y disgyn i gylch gorwel cul y glyn:
Cylch i ail-agor, neu dragwyddol gau?
Holaf yn ddwys yr hwyrnos sy'n nesáu.

Y FFLAM ANNIFFODD

CHWERY llwynogod ieuainc yn yr ardd,
Y wadd a deifl i'r parth dwmpathau crwm,
Ac o'r llwyn iorwg am y simnai 'nghlwm
Modryb Tylluan yn yr hwyr a chwardd.
Y ffynnon fach yng nghwr y cae a dardd
A'i phistyll arian heddiw fel y plwm;
Sang y blynyddoeedd cibddall a fu drwm

Ar fangre dirion bore byd y bardd.
Ond cwyd yr hedydd eto at borth y wawr
Gan orfoleddu uwch adfail welw y nos;
Ar furiau braen y murddyn wele yn awr-
Ogoniant hafau gynt yn fflam y rhos;
Er datod o fagwyrydd f'oes, ni'm dawr,
O phery'r gân, a'r weledigaeth dlos.

DAETH YR HAUL

DAETH yr haul â dieithr hud
Wybren hael, ddibrin olud.
Wyneb eirian y bore
Sy'n dwym dan gusan y de,
Trwy y cangau tyr cyngan
Melodi'r mil adar mân.

I'w gwledd ar glawdd aur y glyn,
Oer gynnau, heidia'r gwenyn.
Yn awr gwau hosanau'r gog
Mae Olwen y Cwm Heulog.
Llonnaf man yw'r fan a fu
Ddarn o wylltedd o'r neilltu.
Ysgwyd o'u cwsg heidiau cel
Gan rywiog win yr awel.
Tirion y modd, try'n y man
Weryd yn aur ac arian.

Miliwn o sêr melyn sydd
Yng nghyn ar eang weunydd.
Hyd ymylau llethrau llon
Drain henoed a dry'n wynion.
Heula gwyrdd fanadl eu gwallt
Aur-felyn ar y foelallt.
O deg afiaith dygyfor
Daear mwy ar dir a môr.


YMHEN YR WYTHNOS

Ein parth oedd le di-rcol
Fin nos un wythnos yn ôl;
Pob trefn yn anhrefn a wnâi
Ar aelwyd ffordd yr elai.
I'w dadwrdd taw nid ydoedd.
O'r miri mawr yma oedd!
Swniai cân ei hwian hi
Hyd aelwyd efo'i doli;
A huliai'r tŷ ag olion
Ei theganau brau o'r bron.

****
Ein parth sy gymen heno
Ym min hwyr, rhy gymen o,
Heb drwst ei cham na'i thramwy
Yn un man, na'i hwian mwy.
Aeth tincian ei theganau,
Weithian mud yw'r bwthyn mau.
Rhwng miri anghymarol
Fin nos un wythnos yn ôl
A'r awron, ba oer hiraeth,
Ba daw, Dduw, i'm byd a ddaeth!


PAN FYDDYCH HEN

(Ronsard)

PAN fyddych hen, wrth gannwyll hwyr y dydd.
Yn nyddu neu yn dirwyn ger y tân,
Bydd falch o ddweud, dan fwmial pill o'm cân,
Fe'm molai Ronsard, a mi'n deg fy ngrudd.
O glywed hyn, un llances it ni bydd
Fo'n bendrwm uwch ei gorchwyl ar wahân,
Nas cyffry'r sôn am Ronsard, gloywa'i gra'n,
A chlod anfarwol i'th enw di a rydd.

A minnau'n rhith di-esgyrn dan yr yw.
Yn gorffwys yn nistawrwydd dwfn fy nos,
Yn llwyd a chrom ar d'aelwyd byddi byw.
I gwyno'r serch a lysiaist a thi'n dlos;
Nac oeda hyd yfory, gariad, clyw,
Heddiw yw'r dydd i ddechrau casglu'r rhos.


Nodiadau[golygu]

  1. Medwch y diwrnod

Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1954, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.