Penillion Telyn Llyfrau'r Ford Gron/Hiraeth

Oddi ar Wicidestun
Gogan Penillion Telyn Llyfrau'r Ford Gron

gan Anhysbys

Gofid

Hiraeth

DWEDWCH, fawrion o wybodaeth,
O ba beth y gwnaethpwyd hiraeth
A pha ddeunydd a roed ynddo,
Na ddarfyddai wrth ei wisgo?

Derfydd aur, a derfydd arian,
Derfydd melfed, derfydd sidan,
Derfydd pob dilledyn helaeth,
Ond, er hyn, ni dderfydd hiraeth.

Hiraeth mawr a hiraeth creulon
Sy bob dydd yn torri 'nghalon,
Pan fwyf dryma'r nos yn cysgu
Fe ddaw hiraeth, ac a'm deffry.

Hiraeth, hiraeth, cilia, cilia,
Paid â phwyso mor drwm arna',
Nesa dipyn at yr erchwyn,
Gad i mi gael cysgu gronyn.

Ar lan y môr mae carreg wastad,
Lle bûm yn siarad gair â'm cariad„
O amgylch hon fe dŷf y lili,
Ac ambell gangen o rosmari.

Yn y môr y byddo'r mynydd
Sydd yn cuddio bro Meirionnydd
Na chawn unwaith olwg arni
Cyn i'm calon dirion dorri.


mae hiraeth wedi 'nghael
Rhwng fy nwyfron â'm dwy ael;
fy mron y mae yn pwyso
pe bawn yn famaeth iddo.


* * *

Mi fûm yn gweini tymor
Yn ymyl Ty'n y Coed,
A dyna'r lle difyrra'
Y bûm i ynddo erioed:
Yr adar bach yn tiwnio
A'r coed yn suo 'nghyd,—
Bu bron im dorri 'nghalon,
Ar waetha'r rhain i gyd.