Penillion Telyn Llyfrau'r Ford Gron/Rhagair

Oddi ar Wicidestun
Penillion Telyn Llyfrau'r Ford Gron Penillion Telyn Llyfrau'r Ford Gron

gan Anhysbys

Cynnwys

RHAGAIR.

BLODAU’R meysydd ydyw'r penillion hyn. Yno, yn y meysydd, y tyfasant. Natur ei hun ydynt.

Ni ŵyr neb pwy a'u canodd. O galonnau a thros wefusau llafurwyr cefn gwlad y daethant. Ochenaid, neu ddeigryn, neu chwerthiniad, wedi ei ddal a'i rwymo, ydyw pob un ohonynt. Nid oedd na defod llys na rheol eisteddfod i gaethiwo awen y beirdd anadnabyddus hyn. Rhoes eu symlrwydd, eu didwylledd a'u hangerdd lyfnder ymadrodd a cheinder arddull iddynt na cheir ei gyffelyb ond yn anaml gan y beirdd swyddogol a'u celfyddyd ymwybodol

Y maent yn ffrwyth cenedlaethau ; ie, ganrifoedd. Llefarant wrthym am y goleuni a'r melyster oedd yn bod ar dir Cymru, ymhlith y werin, yn ystod amser oedd, yn yr ystyr swyddogol, yn ddigon du a dienaid. Llefarant ledneisrwydd a chwaeth, dewrder a llawenydd a barn.

Erbyn dydd y Ficer Prichard o Lanymddyfri, a anwyd yn 1579, yr oedd y pennill telyn wedi tyfu'n llawn, fel y dengys Cannwyll y Cymry y Ficer. Troi parodrwydd y bobl i ganu yn foddion goleuo eu hanwybodaeth o'r ysgrythurau—dyna a wnaeth ef; ac â fflam y pennill telyn y cyneuodd ei Gannwyll.

Etifedd y beirdd gwlad hyn oedd Williams Pantycelyn; hebddynt hwy ni chawsem ei gân ef na chân Ann Griffiths; a heb Williams ac Ann Griffiths ni chawsem gân Alun a Cheiriog a thelynegwyr ein dyddiau ni.