Pererindod Heddwch/Heddwch Fersai

Oddi ar Wicidestun
Taith yr Anialwch Pererindod Heddwch

gan George Maitland Lloyd Davies

PENNOD III

HEDDWCH FERSAI

Llythyr Arglwydd Lansdowne. Gobeithion Heddwch. Y "Fourteen Points." Y Cadoediad. Yr Etholiad Cyffredinol. Y Gynhadledd Heddwch. Newyn yr Almaen. Cyngor Lloyd George. Cwyn y Gorchfygedig. Gorfodi'r Cytundeb. Adladd yr Heddwch. Northcliffe.

LLYTHYR YR ARGLWYDD LANSDOWNE

YN y cyfamser cynhyrfwyd y byd politicaidd gan ymgais am heddwch drwy gymod yn Nhachwedd 1917 gan neb llai na'r Ardalydd Lansdowne, cyn-Weinidog Tramor Prydain. Cyhoeddodd lythyr yn y Daily Telegraph, a wrthodwyd gan y Times, ar Amcanion Rhyfel y Cynghreiriaid. Tywalltwyd ar y llythyr a'i awdur gan Wasg Northcliffe y sarhad mwyaf, gan ei ddisgrifio fel peace at any price, ac esgymunwyd yr Ardalydd "yn swyddogol," yn ôl ei ddisgrifiad ei hun, gan y Blaid Geidwadol. Datguddiwyd ymhen blynyddoedd gan ei fab fod cynnwys ei lythyr wedi ei anfon i'r Cabinet yn gyfrinachol yn Rhagfyr 1916, a bod Arglwydd Grey wedi bwriadu i Dŷ'r Arglwyddi ei drafod yn ddirgel, ond cwympodd y Llywodraeth Ryddfrydol yn fuan a daeth Llywodraeth y Glymblaid yn ei lle. Mwy na hynny, cyn i'r llythyr ymddangos yn y Wasg yr oedd Arglwydd Balfour wedi ei weled ac yn fodlon ar ei gyhoeddi. Perwyl y llythyr oedd bod y rhyfel wedi parhau yn rhy hir a bod gwareiddiad a dynoliaeth yn galw am ei ddibennu. Yr oedd hufen y ddynoliaeth yn cael ei golli, a'r dioddefaint yn lledaenu at filiynau o ddynion gwrol a difai. Yr oedd y galwadau am heddwch buddugoliaethus a thelerau caled i'w gorfodi ar y gorchfygedig yn chwarae i ddwylo'r gelynion. Credai y buasai gwerinoedd yr Almaen ac Awstria yn barod i afael ar unwaith mewn cynnig gweddol deg ac y buasai'r cynnig yn gosod pwys anwrthwynebol ar eu llywodraethau. Dywedwyd wrth eu pobl gan eu llywodraethau ein bod am eu difetha a'u gostwng, a dryllio eu hysbryd, a gorfodi math estron o lywodraeth, a'u hesgymuno o fasnach y byd. Ni ddywedwyd, efallai, y fath bethau gan ein Llywodraeth, ond yr oedd erthyglau ein Gwasg yn ei gwneud yn hawdd i Lywodraeth yr Almaen ledaenu syniadau o'r fath. Rhaid oedd darbwyllo gwerin yr Almaen o'r ofnau a'r bygythion hyn, a datgan telerau teg a chyfiawn i heddwch. Dyna oedd neges y llythyr.

Cyfododd y llythyr storm o enllib yng Ngwasg Northcliffe—y Times a'r Daily Mail a phapurau eraill, yn erbyn syniadau oedd, ynddynt eu hunain, yn rhesymol, Cristnogol a cheidwadol, gan wladweinydd o'r pwys a'r profiad mwyaf. Yr oedd ysfa'r Wasg a'r werin am waed a dial wedi meddwi'r genedl, ac nid oedd wrthglawdd yn yr eglwysi i'r diluw du. Felly plygwyd i'r storm o enllib, a pharhaodd y rhyfel am flwyddyn yn ychwaneg gyda'r canlyniad o ingoedd a newyn i filiynnau yn ddiwahaniaeth, hyd onid arweiniodd o'r diwedd i ryfel newydd.

Gwerthfawrogwyd llythyr Arglwydd Lansdowne gan wŷr cyfrifol fel C. P. Scott, golygydd y Manchester Guardian. Dywed ei fywgraffydd:

"Cymerodd Lansdowne y cam dewraf yn y rhyfel. Yr oedd ei lythyr fel araith Campbell Bannerman ar 'foddion barbareiddiwch' pan oedd pwerau llethol o deimlad y dorf yn gormesu gwŷr cyhoeddus. Yr oedd dylanwadau y rhyfel yn difoesoli ein bywyd cyhoeddus a'n Gwasg yn amlwg iawn. Ni bu enllib erioed mwy anystyriol, anrheswm erioed mor wyllt, a drwgdybiaeth erioed mor greulon."

C. P. SCOTT.

GOBEITHION HEDDWCH

Cofnododd C. P. Scott ambell ymgom â Lloyd George yn y dyddiau hynny a ddengys fel yr oedd yntau ac aelodau'r Cabinet yn cloffi rhwng dau feddwl ynghylch heddwch trwy gymod neu trwy fuddugoliaeth. Adroddai eiriau Lloyd' George wrth frecwast yn Rhagfyr 1917:

"Y mae cryn dipyn o deimlad yn y Cabinet Rhyfel i gyfeiriad heddwch —nid yw Balfour yn gwrthwynebu ac y mae Milner yn fwy tueddol i heddwch na neb. Nid yw Carson mor dreisiol o bell ag yr ymddengys, ond pan yw'n gwneud areithiau. . . . Rhaid i mi eich rhybuddio fy mod mewn tymer basiffistaidd iawn. Gwrandewais neithiwr mewn cinio i Phillip Gibbs ar ei ddychweliad o faes y rhyfel, ar ddisgrifiad mor angerddol a difrifol ar beth a olygai'r rhyfel mewn gwirionedd ag a glywais erioed. Effeithiodd yn ddwfn ar gynulleidfa o wleidyddwyr a newyddiadurwyr celyd. Pe byddai'r bobl yn gwybod y gwir, fe atelid y rhyfel yfory. Ond wrth gwrs ni wyddant ac ni allant wybod. . . . Y pethau a anfonir i'r Wasg yw darluniau dêl a phawb yn gwneuthur gwrhydri. Y mae'r peth yn ddychrynllyd a thu hwnt i'r natur ddynol ei ddioddef, a theimlaf na allaf fyned ymlaen â'r busnes gwaedlyd; buasai'n well gennyf ymddiswyddo."

Cofiaf ymgais gan nifer ohonom, Puleston ac eraill, yn Sasiwn y Methodistiaid yng Nghaernarfon yn 1917 i annog yr Eglwys i erfyn am heddwch trwy gymod. Cefais wrandawiad teg, a phasiwyd pleidlais gymedrol, er bod nifer o'r henuriaid a'r pregethwyr poblogaidd yn wrth-heddychwyr. Gresyn ydoedd meddwl bod gwleidyddwyr fel Lloyd George yn cyfaddef yn y dirgel, a Cheidwadwyr fel Arglwydd Lansdowne yn cyhoeddi o bennau'r tai, farn aeddfetach am ddrwg rhyfel ar y pryd na llais ac argyhoeddiad y Cenhadon Hedd; pe buasent wedi cadw eu ffydd a dal i gyhoeddi cyngor Crist, a gwahoddiad Duw, "Deuwch, ymresymwn ynghyd; pe byddai eich pechodau fel ysgarlad," pwy a ŵyr na buasent wedi bod yn gymorth i ffydd y Cymro cyfnewidiol a oedd yn Brif Weinidog y wlad, ac wedi arbed siom y milwyr yn yr Eglwys, a'u gwared rhag edrych bellach at y pleidiau Sosialaidd a Chomiwnyddol am sail heddwch a chyfiawnder ar y ddaear? Yn Rwsia difethwyd Llywodraeth gymedrol Kerensky oherwydd ei orfodi gan Brydain Ffrainc i barhau i ryfela os ydoedd am gael cymorth arian- nol y Cynghreiriaid. Erfyniodd arnynt liniaru tipyn ar eu "Hamcanion Rhyfel" er mwyn achub ei wlad a'i Wladwriaeth; yr oedd colliadau Rwsia eisoes yn agos i 4,000,000 0 filwyr ac ni fynasent ymladd drachefn; ond ofer a fu erfyniad Kerensky i'r Cynghreiriaid a chwympodd ei Lywodraeth ger bron Lenin a Trotsky, a addawent heddwch yn gyntaf peth i'r werin yn ei thryblith. Gwrthodwyd hefyd gais Ramsay Macdonald a Philip Snowden i fynd i Gynhadledd Sosialaidd yn Stockholm i gyfarfod arweinwyr Sosialwyr gwerinol o'r Almaen i ddechrau trafodaeth ar heddwch.

Y "FOURTEEN POINTS"

Wedi dilorni pob cais am drafod heddwch gan y Wasg fel "tric heddwch" neu "peace offensive," cyhoeddwyd yng Ngorffennaf 1918 Fourteen Points yr Arlywydd Wilson o egwyddorion heddwch teg. Dywedodd Lloyd George y diwrnod canlynol y gallasai'r Almaen "gael heddwch yfory" ar y telerau hyn. Atebwyd hyn drachefn gan y Kaiser ym Medi 1918, a ddywedodd fod yr Almaen eisoes yn barod i estyn llaw heddwch ond

"Y cymerai ddau i wneuthur heddwch, a wynebir ni gan benderfyniad ein gelynion i'n distrywio a gwrthod hawl bodolaeth i'r Almaen."

Atebwyd hyn y diwrnod canlynol gan Lloyd George mewn araith yn datgan fod yn rhaid argraffu "Buddugoliaeth" ar arian heddwch onide fe allasai golli ei werth. Ofer a fu gwahoddiad Llywodraeth Awstria i'r Pwerau gyfarfod i drafod heddwch. Yn Hydref 1918, penodwyd Canghellor newydd i'r Almaen, y Tywysog Max o Baden, Cristion o gymeriad uchel. Anfonodd yn ddi-oed at yr Arlywydd Wilson gais i drafod heddwch ar sail y 14 Pwynt. Gydag eithriad y Daily News, yr oedd yr holl Wasg ddyddiol am wrthod y cais; "ymostyngiad diamodol" oedd eu telerau, a rhybuddiwyd y wlad drachefn rhag "triciau'r Almaen" gan Churchill. Yn y cyfamser lledaenodd chwyldroadau yn Awstria, yr Almaen a Thwrci. Ym mis Tachwedd cyhoeddodd yr Arlywydd neges i'r Almaen fod y Cynghreiriaid yn fodlon ar gadoediad i wneuthur heddwch ar amodau y 14 Pwynt gydag eithriad o ryddid y moroedd, ac o'r iawndal a ddisgwylid gan y gelynion am y niwed i boblogaeth siful y Cynghreiriaid. Pwysleisiodd papurau ystyriol, fel y Manchester Guardian a'r Daily News, bwysigrwydd y 14 Pwynt. Ofnent seicoleg ryfel pumped into the minds of the multitude by the lurid incitements of a somewhat irresponsible Press. Cyfeiriwyd at Arglwydd Northcliffe gan y Daily News fel gŵr who imperils grave situations with irresponsible sensationalism, a dywedwyd mai trueni oedd fod gŵr o'r fath yn gyfrifol am bropaganda Prydain yng ngwledydd y gelyn.

O'r diwedd arwyddwyd y Cadoediad a'i delerau gan y Cadfridogion, yn wyneb protest gref cynrychiolwyr yr Almaen, yn yr un cerbyd-rheilffordd, a than yr un sarhad a chywilydd ag a brofodd cynrychiolwyr Ffrainc yn 1940 a oedd dan orfod i wynebu Hitler a swyddogion milwrol buddugoliaethus yr Almaen.

Mawr fu'r canu clychau ym Mhrydain wedi'r Cadoediad. Gwahoddwyd y Senedd i wasanaeth o ddiolchgarwch; darllenodd yr Archesgob eiriau Eseia Ixi.:

"Efe a'm hanfonodd i rwymo dolur y torcalonnus, i gyhoeddi rhyddid i'r caethion ac agoriad carchar i'r rhai a rwymwyd. Cyfodent yr hen ddiffeithleoedd a hwy a atgyweiriant y dinasoedd a ddifethwyd."

Y CADOEDIAD

Gosodwyd telerau'r Cadoediad gan y swyddogion milwrol. Hawliwyd o'r Almaen 5,000 o ynnau mawr, 30,000 o ynnau peiriant, 2,000 o awyrblanau, 5,000 o beiriannau rheilffordd; 150,000 o wagenni rheilffordd, a 5,000 o gerbydau modur, ac yn ddiweddarach lynges a llongau’r Almaen. Daliwyd y Gwarchae (blockade) mewn grym er gwaethaf taer rybudd llywodraeth newydd a gwerinol yr Almaen fod perygl newyn enbyd, a rhybudd Wilson fod Awstria a'r Almaen mewn anarchiaeth, a rhybudd y Manchester Guardian fod bwydo'r bobl yn anhepgorol i drefn a heddwch. Oherwydd prinder y peiriannau a'r wagenni rheilffordd a drosglwyddwyd i Ffrainc, anodd ydoedd i'r Almaen ddosbarthu'r bwyd a oedd eisoes yn y wlad; gwaharddwyd hwy rhag pysgota ar y môr. Sylwodd y Times, a oedd dan awdurdod Northcliffe, nad oedd gan y Cynghreiriaid unrhyw fwriad o gwbl i liniaru'r dirwasgiad a'i fod yn brif arf i sicrhau arwyddo "heddwch cyfiawn." Cyfiawnhawyd hyn gan y Wasg yn gyffredinol, a gorfoleddodd rhai o bapurau Northcliffe ym manylion y darfodedigaeth, typhus a dysentry a oedd yn ysgubo'r wlad ac yn difetha cenhedlaeth y plant a'r ieuainc. Ni laciwyd dim ar laddfa'r diniwed hyd oni dderbyniodd y Prif Weinidog, ym Mawrth 1919, bellebr oddi wrth y Cadfridog Plumer o Cologne yn hysbysu, ar ran y Fyddin Brydeinig yno, ac yn cwyno "mor ddrwg ydoedd yr effaith ar y Fyddin Brydeinig wrth weled dioddefaint gwragedd a phlant yr Almaen."

YR ETHOLIAD CYFFREDINOL

Yn y cyfamser cafwyd Etholiad Cyffredinol ym Mhrydain. Cafwyd cefnogaeth, os nad gorfodaeth, i arweinwyr y Glymblaid, gan Arglwydd Northcliffe a'i bapurau, wrth apelio at reddfau isel y dorf am fuddugoliaeth newydd yn yr etholiad, sef ar y pleidiau Rhyddfrydol a Llafur. Gwrthwynebwyd yr Arlywydd Wilson hefyd gan blaid Roosevelt, ac eraill oedd dros ddial a difetha'r Almaen. Yn ystod yr etholiad, cafwyd canmoliaeth fyddarol yng Nghaergrawnt i ymffrost Syr Eric Geddes wrth gynulleidfa barchus: We will get out of Germany all you can squeeze out of a lemon and a bit more. We will squeeze her until you can hear the pips squeak. Yn ôl y Times, yr ymgeisydd oedd yn ymrwymo i "grogi'r Cesar a gwneuthur i'r Almaen dalu" oedd yn deilwng i ennill sedd yn y Senedd; ac wedi'r etholiad dywedai'r un papur fod "pob dyn, pob plaid a ddaeth dan ymyl cysgod cwmwl Pasiffistiaeth wedi talu'r pris." Dirywiodd y Blaid Ryddfrydol enwog gynt yn y Senedd i 37 o aelodau.

Y GYNHADLEDD HEDDWCH

Cyfarfu Cynhadledd Heddwch y buddugoliaethwyr gyntaf yn Ionawr 1919, ym Mharis, dan lywyddiaeth yr Arlywydd Poincare. Ffurfiwyd Cyngor o ddeg, ond y "Pedwar Mawr" oedd Wilson, Lloyd George, Clemenceau, ac Orlando; hwy a llawer is-bwyllgor a oedd yn gwneuthur y gwaith ymarferol. Ym Mhwyl ac yn Rwsia yr oedd rhyfeloedd cartref, ac anarchiaeth yng ngwledydd y gorchfygedig. Pan areithiodd Wilson am ei gynllun o Gynghrair y Cenhedloedd, codwyd disgwyliadau uchel, ac ar Chwefror 8, cynigiwyd ffurf o gyfansoddiad y Cyfamod. Dan law y pum Gallu buddugoliaethus, yn y cyfamser, yr oedd y Pwyllgor Gweithredol.

NEWYN YR ALMAEN

Ym Mhrydain yr oedd ambell newyddiadur fel y Daily News a'r Manchester Guardian yn dal i gyhoeddi manylion am y newyn ar y Cyfandir; ond ar y cyfan anwybyddwyd y cwynion gan y Wasg. Mawrth 3, 1919, dywedodd Mr. Churchill wrth y Senedd:

"Yr ydym yn dal i orfodi'r blocád gydag ynni, ac y mae'r Almaen yn agos iawn at newyn. Dengys yr holl dystiolaeth a gefais gan swyddogion y Swyddfa Ryfel a anfonwyd dros yr Almaen (1) y prinderau mawrion a ddioddefir gan bobl yr Almaen; (2) bod perygl cwymp holl gyfundrefn gymdeithasol a chenedlaethol yr Almaen dan bwysau newyn a diffyg ymborth."

Yr un diwrnod cyhoeddodd Mr. Churchill y byddai angen gwario 440,000,000p. ar y Fyddin Brydeinig y flwyddyn honno, sef deuddeg gwaith gymaint â chyn y rhyfel, a gorfodwyd yr Almaen i gyfyngu ei byddin i gan mil o wŷr arfog. Erfyniodd yr Almaen yn daer am addewid o fwydydd, os oedd raid iddi drosglwyddo ei llongau i'r buddugoliaethwyr. Dadl y Times ar hyn ydoedd, "Os yw'r Almaen mor agos at newyn hi a ildia i'n gofynion." Yr unig brotest o bwys ydoedd protest y fyddin Brydeinig a welodd ingoedd gwragedd a phlant Cologne bob dydd. Wrth ddarllen neges y Cadfridog Plumer, dywedodd Mr. Lloyd George wrth y Cynghrair: "Foneddigion, ni ellwch ddweud bod y Cadfridog Plumer yn pro-German." O'r diwedd, ofnai'r Ffrancwyr rhag i newyn ac anarchiaeth drosglwyddo'r wlad i'r Bolshefiaid. Yn ôl y Daily News ar y pryd:

"Nid oes amheuaeth am y ffeithiau. Y mae'r amgylchiadau dychrynllyd yn yr Almaen yn hollol hysbys i Lywodraethau'r Cynghrair oddi wrth adroddiad swyddogol a benodwyd ganddynt. Y mae'r genedl yn marw o'r newyn sydd wedi ei orfodi arnynt am fisoedd wedi'r Cadoediad. Y mae'n weddol sicr bod mwy o'r boblogaeth siful wedi marw o'r canlyniadau nag a laddwyd ar feysydd y rhyfel. Mewn rhai mannau y mae 90 yn y cant o beiriannau'r rheilffordd wedi eu cymryd oddi arnynt (8 Mawrth).

O'r diwedd penderfynwyd gollwng bwydydd iddynt, ar y telerau eu bod yn talu amdanynt 11,000,000p. mewn aur, ac yn trosglwyddo llynges yr Almaen. Yn Ebrill 1919 codwyd y gwarchae hefyd ar y gwledydd niwtral, Holand, Denmarc, Sweden, Norwy ac Yswisdir, ar yr amod nad oeddynt i allforio nwyddau i'r Almaen.

Yn yr Unol Daleithiau yr oedd yr Arlywydd Wilson wedi erfyn yn daer ar iddynt gyflawni y delfrydau a'r addewidion a gyhoeddwyd fel amcanion crwsâd America wrth fyned i ryfel, ond codwyd gwrthwynebiad cryf gan yr Wrthblaid. Yn y cyfamser, cwympodd Llywodraeth Hungari dan ym- osodiad y Bolshefiaid chwyldroadol. Yn y Balcanau yr oedd Groeg yn lledaenu ei thiriogaethau ar draul ei chymdogion, yr Eidal am feddiannu Fiume, a Siapan rannau helaeth o Sina. Ofnai cynrychiolydd y Manchester Guardian ar y pryd rhag i'r Gynhadledd Heddwch

"ddiweddu mewn cytundebau nas cedwir gan neb. Y mae'r gwylwyr yma yn myned i'w gwelyau noson ar ôl noson yn glaf gan anobaith neu lid."

CYNGOR MR. LLOYD GEORGE

Ym Mawrth 1919 anfonodd Mr. Lloyd George Femorandwm Cyfrinachol i Lywodraethau'r Cynghreiriaid gyda'r rhybuddion a ganlyn:

"Chwi ellwch amddifadu'r Almaen o'i thiriogaethau, gostwng ei byddin i nifer heddgeidwaid gwlad, a'i llynges i eiddo Gallu o'r bumed radd. Er hynny, yn y diwedd, os bydd hi'n teimlo iddi gael ei thrin yn annheg yn 1919, fe geisia foddion i gael iawn gan ei gorchfygwyr. Dibynna cadwraeth heddwch ar symud achosion y dicter a fo'n cynhyrfu ysbryd gwladgarwch, cyfiawnder a thegwch nes unioni'r cam. Ni faddeuir ac nid anghofir anghyfiawnder ac ymffrost a ddangosir ar awr y fuddugoliaeth. Am y rhesymau hyn, yr wyf yn gwrthwynebu'n gryf drosglwyddo ychwaneg o'r Almaenwyr o lywodraeth yr Almaen i reolaeth rhywun arall. Y mae cynigiad Comisiwn Pwyl am inni ddodi dwy filiwn o Almaenwyr dan reolaeth pobl o grefydd wahanol, sydd heb ddangos erioed allu hunan-lywodraeth sefydlog, yn sicr, yn ôl fy marn i, o arwain yn hwyr neu yn hwyrach i ryfel yn Nwyrain Ewrop. Buaswn felly yn gosod ar flaen yr heddwch, unwaith y derbynnir ein telerau, ac yn enwedig yr iawndal, y bydd inni agor iddi farchnadoedd a nwyddau crai ('raw materials') y byd ar delerau hafal â ni ein hunain ac y gwnawn bob peth posibl i alluogi gwerin yr Almaen i godi ar ei thraed drachefn."

SIGNOR NITTI (Peaceless Europe).

Mewn canlyniad i'r datganiad dewr a phroffwydol hwn, codwyd storm ym Mhrydain dan gymhelliad papurau Northcliffe a Bottomley, ac anfonwyd pellebr wedi ei arwyddo gan 203 (fe ddywedodd y Daily Express 370) o Aelodau Seneddol y Glymblaid i wrthdystio, a galwyd y Prif Weinidog yn ôl at addewidion yr etholiad, a gwneuthur i'r Almaen dalu "holl gostau" y rhyfel. Ymhlith arwyddwyr y gwrthdystiad yr oedd gwŷr mor amlwg fel crefyddwyr â Syr Samuel Hoare a'r Major Edward Wood (Arglwydd Halifax yn awr). Cyn i'r ultimatum yma gyrraedd, yr oedd Lloyd George wedi ymuno gyda Wilson i wrthwynebu rhai o ofynion mwyaf afresymol Ffrainc a'r Eidal. Protestiai Wilson fod y 14 Pwynt yn cael eu hanwybyddu; ar un adeg galwodd am ei long-ryfel, y George Washington, i'w gludo yn ôl o'r gynhadledd i'r America. Ond yr oedd Clemenceau fel adamant gan wybod mor ansefydlog oedd safle Wilson a Lloyd George, oherwydd gwrthbleidiau eu gwledydd eu hunain.

Gorfoleddai Northcliffe yn y Times am fod neges y 203 A.S. wedi cadw Lloyd George at ei orchwyl a'i addewidion yn yr etholiad a rhag ei bolisi "ansicr ac ansefydlog." Hawliodd y Times iawndal am bob colled o bob math a phensiynau i filwyr y rhyfel oddi ar yr Almaen. Archwyd Llywodraeth Werinol yr Almaen i arwyddo'r Cytundeb Ebrill 25. Ar fin yr amser, ciliodd cynrychiolwyr yr Eidal o'r Gynhadledd fel gwrthdystiad am wrthod eu cais am Fiume, darn o Iwgo Slafia, ac o Dalmatia. Dadlennwyd ganddynt fod Cytundeb cyfrinachol y Cynghreiriaid wedi addo hyn i'r Eidal yn nechrau'r rhyfel er ei fod yn hollol groes i amcanion cyhoeddedig y rhyfel, sef amddiffyn cenhedloedd bychain. Cadwyd cynrychiolwyr yr Almaen mewn gwesty arbennig a weiren bigog o'i amgylch. Yn y Gynhadledd, Mai 7, gosodwyd hwynt i eistedd wrth fwrdd ar wahan. Dywedwyd wrthynt gan Clemenceau fod telerau'r heddwch mewn llyfr a drosglwyddwyd iddynt i'w arwyddo; ni chaniateid trafodaeth a gosodwyd 15 niwrnod o ras cyn ei arwyddo.

CWYN Y GORCHFYGEDIG

Dyma rannau o ateb y Count Brockdorf-Rantzau ar ran yr Almaen:

"Foneddigion, teimlwn gyfrifoldeb dwys y dasg aruchel o ddod â heddwch parhaol i'r byd. Nid ydym dan rith unrhyw anwybodaeth am faint ein gorchfygiad ac am ddiffyg ein gallu, Gwn fod gallu arfau'r Almaen wedi ei dorri. Gwyddom allu'r casineb a gyfarfyddwn yma, a chlywsom angerdd y gofyniad y bydd i'r buddugoliaethwyr fynnu i ni dalu fel y gorchfygedig, a chosbi y rhai a haedda eu cosbi. Hawliwyd gennym gyffesu mai nyni'n unig sydd euog o'r rhyfel. Buasai'r fath gyffes yn fy ngenau yn gelwydd. Yr ydym yn bell o ymwrthod â'n rhan am gyfrifoldeb am y rhyfel mawr ac am y ffordd y'i gweinyddwyd. Bu agwedd llywodraethau blaenorol yr Almaen yng Nghynhadledd Heddwch yr Hague, ei weithredoedd a'i wallau yn y deuddeng niwrnod trychinebus yng Ngorffennaf 1914, yn sicr yn cyfrannu i'r galanastra, ond gwadwn yn gryf fod yr Almaen, a oedd yn credu ei bod yn ymladd mewn hunan- amddiffyniad, yn euog yn unig.... Y mae'r farn gyhoeddus yng ngwledydd ein gwrthwynebwyr yn diasbedain gyda'r troseddau y dywedir i'r Almaen eu cyflawni yn ystod y rhyfel; ond yn y dull o wneuthur rhyfel nid yr Almaen yw'r unig un sydd euog. Gall nad oes esgus i anfad- waith mewn rhyfel ond fe'i gwneir yn yr ymdrech am fuddugoliaeth, ac wrth amddiffyn bodolaeth y genedl fe ollyngir nwydau sydd yn pylu cydwybod y bobloedd. Ond fe laddwyd mewn gwaed oer gannoedd o filoedd o wŷr anymladdol a drengodd er Tachwedd 11 o achos y dirwasgiad, wedi i'n gwrthwynebwyr orchfygu a sicrhau buddugoliaeth. Meddyliwch am hynny pan soniwch am euogrwydd a chosb. Ni ellir datgan mesur euogrwydd y rhai a gymerodd ran ond gan ymchwil ddiduedd ger bron llys niwtral. Erfyniwn am y fath ymchwil. Ond nid ydym yn hollol heb amddiffyn. Chwychwi eich hunain a ddaeth a chynghrair i ni, yr hawl a sicrhawyd gan y Cytundeb, gan egwyddorion yr heddwch. Yn yr amser rhwng Hydref 5 a Thachwedd 5, gwrth-dyngodd Llywodraethau y Cynghreiriaid heddwch o drais ac ysgrifennwyd 'Heddwch Cyfiawnder' ar eu baneri. Ar Hydref 5 cynigiodd Llywodraeth yr Almaen egwyddorion Arlywydd yr America fel sail heddwch, a Tachwedd 5 datganodd Mr. Lansing fod Pwerau y Cynghreiniaid yn cytuno ar y sail hwn, gyda dau cyfnewidiad. Daeth egwyddorion yr Arlywydd Wilson felly yn ymrwymol i'r ddwyblaid i'r rhyfel-chwychwi a ninnau a'n Cynghreiriaid. Cyrhaeddir nod Cynghrair y Cenhedloedd yn unig i'r rhai sydd ag ewyllys da trwy ager ei byrth yn llydan, ac yna yn unig y sicrheir nad ofer a fu marwolaeth y rhai a gwympodd. Y mae'r heddwch na ellir ei amddiffyn yn enw cyfiawnder ger bron y byd yn galw am wrthwynebiadau newydd. Ni all neb ei arwyddo gyda chydwybod dda oherwydd na ellir ei gyflawni."

Canmolwyd y telerau heddwch gan y Wasg a chan arweinwyr crefyddol a gwleidyddol yn y wlad hon, oddigerth ambell un fel Philip Snowden, A.S., a ddywedodd ar y pryd:

"Dylasai'r Cytundeb foddhau gwylliaid, Imperialwyr a militarwyr. Dyrnod angeuol yw i'r rhai a ddisgwyliodd i ddiwedd y rhyfel ddod â heddwch. Nid Cytundeb Heddwch mohono ond datganiad newydd o ryfel. Bradwriaeth yw o weriniaeth ac o'r rhai a gwympodd yn y rhyfel. Datguddia wir amcanion y Cynghreiriaid."

Ofnai'r Daily News ein bod "yn lladd yr ŵydd ac yn disgwyl am yr wyau aur" gan ein bod yn hawlio arian a llongau'r Almaen, traean o'i glo, a thair ran o bedair o'i haearn, a'u gosod dan orfod i gymryd nwyddau Ffrainc yn ddi-doll, ond i oddef i Ffrainc godi unrhyw doll. Gosodwyd 2,000,000 o Almaenwyr dan iau Pwyl a 3,000,000 o Awstriaid dan Tsieco-Slofacia.

Cododd adwaith mawr yn yr Unol Daleithiau, a galwyd gan Ryddfrydwyr yno am i'r America wrthod arwyddo'r Cytundeb a Chyfamod Cynghrair y Cenhedloedd ar y tir ei fod yn troseddu'r egwyddorion a gyhoeddwyd yn ei henw ac yn safoni trosedd a cham gwrth-ryddfrydol.

Gwrthdystiwyd hefyd yn naturiol gan bapurau Sosialaidd a gwerinol yr Almaen, megis Vorwarts:

"Y mae heddwch o'r fath yn ceisio difodi ein cenedl nid ag arfau ond gan gaethwasiaeth economaidd fwystfilaidd."

Yn enwedig gwrthdystiwyd yn erbyn cyflwyno i Ffrainc 140,000 o wartheg godro tra cedd miliynau o'r plant yn newynu. Yn ôl y Manchester Guardian ar y pryd:

"Ni all gweithiwr wneud diwrnod o waith ar y bwyd a dderbyn. Y mae'r darfodedigaeth a chlefydau o'r fath yn cynyddu'n arswydus. Y mae'r plant mewn cyflwr truenus. Y mae llawer o'r babanod a aned yn y blynyddoedd diwethaf heb brofi llaeth erioed."

GORFODI'R CYTUNDEB

Mai 14 cyfarfu'r Prif Gyngor Economaidd, dan lywyddiaeth yr Arglwydd Robert Cecil, a chyhoeddwyd ganddo fod yr holl drefniant yn barod i orfodi'r dirwasgiad manylaf os byddai i'r Almaen wrthod arwyddo'r Cytundeb Heddwch. Gwrthododd Clemenceau liniaru dim ar y telerau, er bod Lloyd George yn awyddus i ildio i rai o erfyniadau'r Almaen. Anfonwyd llongau awyr dros yr Almaen; paratowyd y Llynges; daliwyd y llongau bwyd rhag hwylio i'r Almaen. Cynghorwyd Senedd yr Almaen gan y cynrychiolwyr i beidio ag arwyddo'r cytundeb fel yr oedd; ond penderfynwyd gan y mwyafrif ei dderbyn gan fod y werin newynog yn galw am heddwch ar unrhyw delerau. Cwympodd y Llywodraeth a chariwyd o'r diwedd fesur i arwyddo'r Cytundeb gan 237 pleidlais yn erbyn 138, a chan wrthod cydnabod y frawddeg a ddywedai mai'r Almaen yn unig oedd yn gyfrifol am y rhyfel. Rhybuddiwyd hwynt y byddai'r byddinoedd yn symud trannoeth onid arwyddid y Cytundeb yn ddi-oed. Neges olaf Llywodraeth yr Almaen, Mehefin 24, ydoedd:

"Yn ildio i rym gorlethol, ond heb roddi i fyny ein hargyhoeddiad o anghyfiawnder digyffelyb telerau'r heddwch, datgana Llywodraeth Werinol yr Almaen ei bod yn barod i arwyddo'r telerau heddwch a orfodir gan Lywodraethau'r Cynghreiriaid."

Nid heb ymdrech gan Lloyd George a Wilson am ryw fath ar gyfiawnder a thrugaredd yr arwyddwyd y Cytundeb, ond treisiwyd hwynt gan ysbryd y dorf a'r Wasg i dderbyn polisi dial Clemenceau. Yn wir, fe ddywedodd y gwladweinydd a'r Ffrancwr M. Painleve y gwirionedd sylfaenol mewn braw- ddeg wrth gyfaill o Sais:

"Ni a wyddom, chwi a minnau, fel dynion diwylliedig, na all Ffrainc ymadfer o'r rhyfel nes iddi faddau i'r Almaen, ond y mae hyn yn wirion- edd rhy anodd heddiw i werin Ffrainc."

(Bywyd C. P. Scott).

Ni ddisgwylid i anffyddiaeth gwerin Ffrainc ddatgan ffydd sylfaenol crefydd Crist, ond gofid yw meddwl nad ddatgan- wyd ef gan Eglwysi Crist ym Mhrydain. Fel yn hanes rhyfel De Affrica, yr oedd Cadfridogion fel Kitchener yn fwy mawrfrydig na'r Wasg neu'r werin neu'r Eglwys. Dywedodd y Prif Gadfridog Haig fod "heddwch o gymod" yn anhepgorol. Tystiai Prif Gadfridog arall, Syr Ian Hamilton, Llywydd y Lleng Brydeinig, wrth ddadorchuddio colofnau i'r bechgyn, mai "tric twrne" oedd cytuno i'r 14 Pwynt yn y Cadoediad a'u bradychu yn y Cytundeb Heddwch. "Fersai andwyol," meddai, "yr un gair ynddo i ddatgan tiriondeb Lloegr; i ddangos bod eich bechgyn chwi a fu farw yn amgenach na'r Ymherodron hynny; yr un arwydd, sydd mor gyffredin ymhlith bechgyn ysgol, o'r gorchfygwr yn estyn ei law."

Ym mywgraffiad C. P. Scott, golygydd y Manchester Guardian, fe ddisgrifir yn fanwl hanes cyfrinachol y gŵr a'r cyfaill cywir hwnnw i "achub enaid Lloyd George" rhag cael ei foddi gan ddilyw torf a Gwasg baganaidd; eithr wedi iddo ymollwng i dderbyn cymorth Northcliffe a hwylio ar nwydau'r Wasg yn yr etholiad, ni ellid osgoi'r Niagra. Yn ôl y Cyrnol House, dirprwywr arbennig yr Unol Daleithiau, yr oedd y sefyllfa yn anobeithiol wedi'r etholiadau:

"Collais ers talm bob gobaith am gael yr heddwch y mae'r byd yn ei ddeisyfu. Y cwestiwn yn awr yw cael y gorau a allwn neu ynteu atal y peiriant a mentro tryblith. Gwnaed y drwg yn yr etholiadau yn America ac yn Lloegr. Nerthwyd y pwerau adweithiol yn y fath fodd nes rhoddi rhwystrau ar ein llwybr ym mhob troad.

C. P. SCOTT.

Gwrthdystiwyd yn ofer gan J. M. Keynes, cynrychiolydd swyddogol Trysorlys Prydain yn Fersai, yn erbyn rhaib annynol a ffol y mesurau economaidd:

"Ffaith anghyffredin ydoedd mai problem sylfaenol economaidd, Ewrop yn newynu ac yn andwyo ger bron ein llygaid, oedd yr un cwestiwn nad oedd modd deffro diddordeb y 'Pedwar Mawr' iddo. . Am y polisi o ostwng yr Almaen i gaethwasiaeth am genhedlaeth, o ddiraddio miliynau o fywydau dynol, ac o amddifadu cenedl gyfan o hapusrwydd, dylasai hyn fod yn wrthun ac yn ffiaidd, hyd yn oed pe byddai'n bosibl, a phe bai iddo ein cyfoethogi ninnau, a phe na byddai iddo hau dirywiad holl fywyd gwareiddiedig Ewrop.

"Fe'i pregethir gan rai yn enw Cyfiawnder." Yn nigwyddiadau mawrion hanes dyn, ac yn natblygiad cymhleth tynged cenhedloedd, nid yw cyf- iawnder yn beth mor syml. A phe byddai, nid awdurdodir cenhedloedd gan na chrefydd na moesau naturiol i ymweled â phlant eu gelynion gamwri eu rhieni a'u llywodraethwyr.

"Yr iawndal ydoedd prif-wibdaith y Pedwar Mawr i faes economaidd, a phenderfynwyd ef fel problem diwinyddiaeth, gwleidyddiaeth, ystrywiau etholiadau, ac o bob safbwynt ond dyfodol Gwladwriaethau yr oedd eu tynged yn eu dwylo . . . Ni bydd i ddynion drengi'n dawel bob amser, canys y mae newyn, sydd yn dod â difaterwch ac anobaith i rai, yn gyrru tymherau eraill i ansefydlogrwydd nerfus ac i wallgofrwydd anobaith. Ac fe all y rhain yn eu cyfyngder ddymchwel gweddillion trefn a boddi gwareiddiad ei hun yn eu hymdrech orffwyllog i ddigoni angen gorlethol yr unigolyn. Dyna'r perygl a ddylasai grynhoi ynghyd ein holl adnoddau, a'n gwroldeb a'n delfrydau.

(Economic Consequences of the Peace: Tachwedd 1919).

ADLADD YR HEDDWCH

Nid hir y bu'r buddugoliaethwyr heb brofi gwirionedd yr ychydig o broffwydi economaidd a gwleidyddol nas boddwyd gan ddilyw dial y Wasg a'r dorf. Yn wir yr oedd yr anarchiaeth economaidd a moesol yn achos, nid yn unig i ddiffodd gobeithion ac amcanion y Gwerin Lywodraethau newydd yn Awstria a'r Almaen, ond i ddatblygu Comiwnyddiaeth a Ffasgaeth eithafol. Ymledodd ysbryd trais yn agos ac ymhell -yn Iwerddon agos fel yn America. "Sylweddolais," meddai C. P. Scott, "fod holl bolisi y 14 Pwynt wedi eu gollwng yn llwyr gydag ymoddef eu hawdur.

Nid hir y bu'r canlyniadau gwleidyddol ac economaidd heb ddisgyn ar Gymru. Difodwyd ymron yr hen Ryddfrydiaeth a fu mor uchel ei delfryd ac mor llwyr ei buddugoliaeth yn 1906 yn yr adweithiad i Ryfel De Affrica. Erbyn 1921 disgynnodd canlyniadau'r heddwch drud ar gymoedd y De. Tynnwyd nawdd a rheolaeth y Llywodraeth o'r pyllau glo a gadwodd elw uchel a chyflog o gyfartaledd 5p yn yr wythnos i'r glowyr; disgynnodd yr elw a'r cyflog yn ebrwydd. Y canlyniad oedd y streic fawr ofer yn 1921 i geisio osgoi'r cwymp anocheladwy a esgorodd ar ddeunaw mlynedd o golled a thlodi ac anghyflogaeth anghyffelyb, a'r ecsodus o 400,000 o waed ifanc y De i Loegr. Amhosibl hefyd ydoedd cysoni dial ac iawndal y buddugoliaethwyr, a gorfodi'r Almaen i drosglwyddo ugain miliwn o dunelli o lo yn flynyddol i Ffrainc a'r Eidal, heb i hynny ddifetha prif farchnadoedd pyllau glo y Rhondda. Mewn amser, dechreuwyd cyfaddef hyn gan rai o brif benaethiaid byd masnach ei hun. Dyma eiriau Mr. Reginald McKenna, Llywydd y Midland Bank:

"Ni a gollwn fwy yn ein gwlad gan fodolaeth 2,000,000 o wŷr di-waith nag a dderbyniwn gan werth iawndal yr Almaen mewn deng mlynedd ar hugain. Pan welwn y pethau hyn dechreuwn amau ai er lles i'r Deyrnas Unedig y bydd talu'r iawndal, ac os telir a allai droi yn felltith yn hytrach na bendith? Am y rhan sydd yn ddyledus i ni, nid wyf yn gobeithio y telir ef, ond pe byddai yn fy ngallu mi a'i difodwn."

(Commercial Club, Chicago, 1922).

Dywedodd yr un gŵr mewn man arall ein bod

"yn dechrau gweled yng nghynnydd ein hanghyflogaeth bod maddau i'r gelyn, nid yn unig yn Gristnogaeth dda, ond yn fusnes da yn y diwedd."

Erbyn 1925 yr oedd cyflwr truenus y glowyr yn bygwth cynnwrf drachefn am fod y cyflogwyr yn ceisio gorfodi gostyngiad pellach yn y cyflogau bychain. Penodwyd gan y Llywodraeth Comisiwn Ymchwil, dan lywyddiaeth yr economydd enwog, Syr Josiah Stamp. Wrth iddo groesholi Syr Evan Williams, llywydd Cyflogwyr y Pyllau Glo, am sail ei obaith i'r diwydiant wella wrth ostwng y cyflogau, atebwyd iddo: "Hyn yn syml; y mae costau cynhyrchu yn llai ac oriau gweithio yn hwy yn yr Almaen." Yna, meddai Syr Josiah Stamp, "Onid ydych yn gorfodi'r Almaen drwy rym politicaidd i weithio oriau hir?" (25 Gorffennaf 1925).

Wrth geisio osgoi canlyniadau polisi'r dial a'r iawndal ar weithwyr truain y pyllau glo, cwblhawyd difethiant y Rhondda gan helynt ofer a hir yn 1926, a bygythiwyd sylfeini'r Wladwriaeth gan y Streic Gyffredinol a achoswyd gan gydymdeimlad â'r glowyr. Er hyn oll, nid aeth y meddygon at wreiddyn y drwg, sef anghyfiawnder ac anfoesoldeb sylfaenoi Heddwch Fersai. Rhybuddiwyd y byd yn wir gan y bancwyr cydwladol yn 1926, a chan athrawon Prifysgol Columbia mewn datganiad pwysig. Aeth yr enwog Syr George Paish, cyn-Gynghorydd y Trysorlys, yma ac acw drwy'r wlad i geisio deffro'r cyhoedd i ganlyniadau arswydus yr iawndal a'r dyledion:

"Yr oeddym yn haeru heddiw y dylasai'r Almaen werthu swm anferth o nwyddau er mwyn yr iawndal, ond yr effaith oedd gostwng pris y nwyddau hynny. Nid oedd ein gwladweinwyr yn dweud dim amdano; eto yr oedd yn gwneuthur difrod anferth i ni i gyd. Rhaid oedd dringo o'r sefyllfa y'n gosodwyd ynddi gan y rhyfel a pholisi'r gwladweinwyr, onid ê byddai newyn, a chyfyngder mawr a chwyldroad."

(Rhagfyr 1927).

Dangosais i Syr George Paish bamffled a ysgrifennais beth amser yn gynt dan yr enw "Reparations and Industrial Ruin" i geisio galw sylw at y canlyniadau economaidd yn Ne Cymru, yr achosion moesol a gwleidyddol yn Heddwch Fersai i helyntion Ewrop. Dywedodd yntau ei fod wedi digalonni wrth geisio deffro'r cyhoedd i'r peryglon hyn, a gofynnodd a welwn ryw fodd i berswadio esgob neu wlad- weinydd i astudio'r mater ac i argyhoeddi'r bobl o'u perygl? Anfonais y pamffled at berchenogion y pyllau glo a adwaenwn, ac at esgobion a chlerigwyr a allasai oleuo'r eglwys; ond yr oedd helynt cyfnewidiad y Llyfr Gweddi Cyffredin yn llenwi meddwl yr eglwys ar y pryd. Ysgrifennais at Mr. Lloyd George a chefais wahoddiad i drafod y mater gydag ef; dywedodd fod ganddo feddwl uchel o Syr George Paish, ac er ei fod yn cael ei alw yn "hen Jeremeia," yr oedd Jeremeia yn wir broffwyd. Yna dywedodd ei fod yntau o blaid difodi dyled yr Almaen ond i'r America faddau i ni! Gofynnais iddo, onid oedd maddeuant yn ofyniad anhepgorol yn y byd moesol, a phe buasai i ni fentro i'r tir yna a maddau ein rhan ni o'r dyledion, onid oedd yn bosibl y buasai eraill yn dilyn ein hesiampl? Atebodd:

"Y mae rhywbeth yn hynny. Bargeinwyr caled yw'r Americanwyr, ond pan welont rywun yn gwneuthur y Big Thing daw rhyw awydd ynddynt i fyned ymhellach. Ceisiwch gael yr hen Archesgob i godi'r mater trwy'r eglwysi fel mater o faddeuant."

Yn rhyfedd ddigon, dyna ydoedd sylw Arglwydd D'Abernon, llysgennad Prydain yn Berlin, na byddai i'r iawndal gael ei setlo ond trwy "genhadaeth trwy'r eglwysi." Ond parhaodd yr eglwysi'n fud a byddar i achos ac effaith gwrthgiliad y genedl o egwyddor sylfaenol gweddi pob Cristion, "Maddau i ni ein dyledion fel y maddeuwn ninnau i'n dyledwyr," a thaliad drud dioddefaint y De oedd pris ein difaterwch ac anwybodaeth o natur rhyfel a dial.

Mor ddiweddar â 1929, yn adroddiad blynyddol Cwmni y Powell Dyffryn Steam Coal, y pwysicaf yng Nghymru, fe esboniwyd y golled o 231,000p. ar waith y flwyddyn yn y geiriau a ganlyn:

"Elfen bwysig arall sydd wedi peri cynnydd anferth i'n hanawsterau yw cwestiwn yr iawndal. Y mae'n ffaith nas cydnabyddir yn ddigonol fod y trefniadau am iawndal mewn nwyddau wedi niweidio'n ddirfawr ddiwydiannau'r wlad hon. O'r holl ddiwydiannau, y fasnach lo a ddioddefodd fwyaf, ac o'r holl feysydd glo, De Cymru a orfu ddwyn y rhan fwyaf o'r baich, gan fod glo iawndal yr Almaen wedi treiddio i farchnadoedd a dderbyniai gynt y rhan fwyaf o'u cyflenwad glo o Ddeheudir Cymru."

Rhyfedd hefyd ydyw cofio bod y "deyrnas, y nerth a'r gogoniant" yn nwylo Cymro yn ystod y rhyfel, ac arglwyddiaeth cyfoeth y pyllau glo yn y dyddiau hynny yn eiddo i grefyddwyr Cymreig, a bod y naill a'r llall yn cael parch Sasiynau heb unrhyw rybudd iddynt am beryglon y "nerth a'r llu," na chyfarwyddyd yn y rhyfel dosbarth a andwyodd fywyd gwerin Cymru. Yn y dirwasgiad economaidd a'r rhyfel mewn diwydiannaeth yng Nghymru y magwyd gwŷr eithafol y Dde a'r Aswy; o'r un achosion ac anobaith, y chwe miliwn o wŷr di-waith yn yr Almaen, y cyfodwyd "gwylliaid" y Blaid Naziaidd.

NORTHCLIFFE

Un o'r dylanwadau mwyaf dirywiol ar y "farn gyhoeddus" ydoedd Gwasg Northcliffe, a fu'n brif foddion i wyro barn yn rhyfel De Affrica, ac i ddifetha amcanion teg Lloyd George i wneuthur heddwch cyfiawn yn Fersai. Pan gyhoeddwyd pamffled W. T. Stead gyda'r teitl "A laddaf fi fy mrawd-y Boer?" sylw un o'r papurau ydoedd, "Gwnaf, ac mor ddideimlad a phe lladdaswn lygoden fawr yn cario'r pla." Cyd-genedl Botha a Smuts oedd y Boeriaid, a bu farw 20,000 o'u gwragedd a'u plant yn ein "Concentration Camps."

Sylw y diweddar Brif Weinidog Arglwydd Salisbury am ei wasg geiniog a'i bapurau lluniau oedd "fod Harmsworth eisoes wedi dyfeisio papur i'r rhai na allent feddwl, ac wedi hynny i'r rhai na allent ddarllen." Bachgen tlawd o Iwerddon ydoedd, a lwyddodd yn ei flynyddoedd cynnar gyda phapurau fel y Sunday Companion, Puck, The Girls' Friend a Comic Cuts. Cipiodd lwyddiant trwy ei ddawn ddigywilydd i chwarae ar deimladau arwynebol plant dynion. Erbyn y rhyfel olaf, yr oedd yn rheoli y Times a'r Daily Mail a phapurau eraill. Y mae ei hanes i'w gael gan hen Olygydd y Daily Mail, dan y teitl My Northcliffe Diary (Tom Clarke).

Yn Awst 1914 dywedodd wrtho, "Beth yw hyn a glywais am anfon Byddin Brydeinig i Ffrainc? Ffwlbri yw. Nid â'r un milwr yno gyda'm caniatad. Dywedwch hynny yn y papur yfory." Ym Medi 1914 ei gri oedd: "Geilw'r genedl am Arglwydd Kitchener"; ym Mai 1915, "Rhaid i Kitchener fynd," ac yn yr un mis, "Yn sicr daeth yn bryd i ni baratoi nwy i gynorthwyo ein hymdaith i'r Almaen." Pan fynnodd gael gwared ag Asquith yn 1916, dywedodd, "Ceisiwch ddarlun o Lloyd George yn gwenu, a thano 'Gwnewch yn Awr,' a'r darlun hyllaf sydd bosibl o Asquith, a thano Arhoswch a Gwelwch'." Cyn pen yr wythnos ysgrifennodd erthygl, dan y pennawd "Arglwydd Northcliffe ar Lloyd George," wedi ei hysgrifennu i "80,000,000 o ddarllenwyr" i'w hanfon i bapurau America a Chanada. Dywedodd fod Lloyd George "yn myned yn rhy gyfeillgar â Winston Churchill; ni faddeuaf iddo am amryfusedd Antwerp a Gallipoli." Yn 1917 ysgrifennodd, "Y mae gormod o lawer o drafod heddwch yn y papurau; y mae'n creu awyrgylch heddwch. Ni all heddwch fod eto." Penodwyd ef yn Weinidog Propaganda; yr oedd ei gyflog o'r papurau yn 25,000p. yn y flwyddyn. Pan ymddangosodd apêl Arglwydd Lansdowne am gyhoeddi telerau heddwch yn 1917, yr oedd effaith dirywiad y Wasg yn amlwg yn ein bywyd cyhoeddus. "Ni bu enllib erioed mor haerllug, a direswm erioed mor wyllt, drwgdybiaeth erioed mor greulon" (Bywyd C. P. Scott). Wedi iddo lwyddo yn ei fwriad i gael Lloyd George yn Brif Weinidog yn 1916, teimlai fod ganddo hawl arno, a mynnodd gael myned i Fersai yn un o gynrychiolwyr Prydain. Yn ôl adroddiad Tom Clarke o'r hanes mewnol, a gafodd gan Lloyd George: "Pan ofynnodd Northcliffe i mi ei osod ar y Dirprwyaeth Heddwch dywedais wrtho am 'fynd i uffern.' Torrais oddi wrth Northcliffe. Gwrthodais yn llwyr ei oddaf yn y Gynhadledd Heddwch. Dioddefais ef am bedair blynedd. Yr oedd yn rhaid torri ag ef pan fyn- nodd orchymyn i mi. Fel Prif Weinidog, ni allwn oddef hynny. Credai Northcliffe y gallai lywodraethu'r wlad. Yr oedd ei farwolaeth yn ergyd drom i Poincare." Yr oedd ei benarglwyddiaeth yr un mor llym a chreulon a mympwyol gyda'i wasanaethyddion ei hun, a'i bolisi yn hollol ddiegwyddor. Pan gododd streic ymhlith gweithwyr y Pearl Insurance Co. am isrif cyflog, addawodd y Daily Mail gyfrannu 1,000p. yn yr wythnos at gronfa'r streic. Dywedodd wrth Tom Clarke: "Ni wêl rhai pobl beth mor fawr sydd yn hyn fy machgen i; y maent yn brin o weledigaeth. Yr ydym yn ennill ymddiriedaeth Llafur wrth gefnogi'r dynion hyn."

Pan aeth Ffrainc i'r Ruhr gyda'i byddinoedd duon, ac yn hollol groes i'r Cytundeb Heddwch, slogan y Daily Mail ydoedd Hats off to France. Felly y cyflawnwyd cwrs ofnadwy'r baganiaeth modern; gellid defnyddio geiriau'r Salmydd amdano:

"Y rhai y mae eu genau yn llawn melltith a chwerwedd. Buain yw eu traed i dywallt gwaed. Distryw ac aflwydd sydd yn eu ffyrdd a ffordd tangnefedd ni adnabuant."

Terfynodd megalomania y gŵr hwn mewn gwallgofrwydd. Ei neges olaf drwy'r teliffon i swyddfa'r Daily Mail ydoedd: "Y mae'r meddygon yn fy ngwylio, dywedant fy mod yn mynd yn wallgof; anfonwch eich reporter gorau am y stori."

Nodiadau[golygu]