Perspectif

Oddi ar Wicidestun
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Llio Eiry yn 21 Oed Perspectif

gan Robin Llwyd ab Owain
Wrth Sbio Drwy'r Ffenest Mewn Storm, efo Eirian
Cyhoeddwyd gyntaf ar y We, Rhagfyr, 1996.

Ffynhonnell: [1] gwefan Rebel ar y We / Rhedeg ar Wydr. Trosglwyddodd y bardd ei gerddi ar drwydded agored yn Ebrill 2020.



Sgynai'm ots (a gwyn 'y myd) - be ydwi,
Ydwi'n bod? Am ennyd
Dwi ar gi strae ar wag stryd:
Chwanen ar bawen bywyd.