Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beddargraff 2
Gwedd
← Beddargraff | Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1 golygwyd gan John Thomas (Eifionydd) |
Beddargraff Alawydd Menai → |
Beddargraff
Egyr Ion, â gair o'i enau,—hen borth
Y bedd oer ryw forau:
O'i fynwes deuaf finau,
Heb ei ol, wedi'm bywhau.
—Richard Jones (Penrhyn Fardd),
Wern, Coedpoeth