Neidio i'r cynnwys

Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Beddargraff y Parchedig John Elias o Fon

Oddi ar Wicidestun
Beddargraff y Parchedig David Griffith, Bethel, Arfon Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1


golygwyd gan John Thomas (Eifionydd)
Beddargraff y Parchedig John Elias o Fon (2)

Beddargraff y Parchedig John Elias o Fon,
yn mynwent Llanfaes, ger Beaumaris.

Dan urddas, a Duw yn arddel,—tystiai
Ar y testyn uchel:
Llefarai, a'r fintai fel
Yn hongian wrth fin angel.

Robert Owen (Eryron Gwyllt Walia)


Nodiadau

[golygu]