Neidio i'r cynnwys

Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1/Rhagdraeth

Oddi ar Wicidestun
Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1 Pigion Englynion Fy Ngwlad Casgliad 1


golygwyd gan John Thomas (Eifionydd)
Cynwysiad

RHAGDRAETH I'R ARGRAFFIAD CYNTAF.

GYDWLADWYR AWENGAR,

WRTH gyfarfod ohonof, o bryd i bryd, âg englynion gwych, yma a thraw, tarewid fi mai nid annyddorol a fyddai casgliad argraffedig o'r cyfryw, modd y gellid troi iddo, yn awr ac eilwaith, am yr englynion rhagoraf ar amrywiol destynau. Ymgais anmherffaith i geisio llanw y bwlch yna yn ein llenyddiaeth yw y Casgliad hwn.

Gwelir fod y Casgliad yn cynwys rhai cnglynion heb feddu teilyngdod llenyddol cyn uched, nac ychwaith mor gynghaneddol gywir, a'r mwyafrif sydd ynddto: ond gwybydder mai nid prinder defnyddiau at y gwaith, mewn un modd, a barodd i mi ddethol y cyfryw (gan nad ydyw y llyfryn hwn yn cynwys traian yr englynion gwych a gesglais); eithr yn hytrach credu yr oeddwn fod rhyw hynodrwydd neu gilydd yn perthyn i'r cyfryw englynion ag a gyfreithlonai eu dodiad yn y Casgliad. Diau y dichon i englyn fod yn benigamp serch iddo gynwys y gwall o dor mesur," neu "drwm ac ysgafn," neu "west awdl," & Dylid, yn ddiamhen, gadw at y rhecolau gwarantedig; ond y mac eithriad i bob rheol; ac eithriadau yw y gwallau cynghaneddol sydd yn y detholiad hwn.

Prin y rhaid sylwi fod prinder uen helaethrwydd y detholion o waith awdwyr a geir yn y Casgliad hwn i'w ystyried yn un prawf oddiwrthym o deilyngdod y cyfryw fel beirdd yn ystyr eangaf y gair: ac yr ydym yn sicr na bydd neb parotach i gydnabod teilyngdod englynion fel yr eiddo Trebor Mai, &c., nag awdlwyr a phryddestwyr cadeiriol ac ariandlysog.

Gan i mi fod wrthi yn casglu defnyddiau y llyfryn hwn, wrth fy hamdden, am dros ddeuddeng mlynedd, a hyny o luaws o wahanol ffynonellau, megys llyfrau, newyddiaduron, llafar gwlad, &c., diau yr esgusodir fi gan gyfeillion os defnyddiais eu cynyrchion heb eu caniatad: ac i'r cyfryw, yn nghyda phawb a estynasant unrhyw gynorthwy tuag at gwblhad y gwaith anmherffaith hwn, y dymunaf gyflwyno fy niolchgarwch mwyaf diffuant.

Yr eiddoch,

EIFIONYDD.

YR AIL ARGRAFFIAD.

YCHYDIG o gyfnewidiadau a wnaed yn yr argraffiad hwn rhagor y cyntaf oddigerth yn enwau awdwyr rhai o'r englynion. Gadawsom yr "Ychwanegiad" fel yr oedd rhag peri dyryswch rhwng y ddau argraffiad. Yn chwanegol at y cywiriadau a grybwyllwyd yn enwau yr awduron, dymunwn hysbysu mai awdwr y 7fed englyn yn tudal. 10, yw Thos. Llwyd, o Benmaen, Meirionydd; y 4ydd yn tudal. 15, Tegerin; yr olaf yn 19, Meirchion a Thalhaiarn rhyngddynt; yr olaf yn 20, Ieuan Awst, yr hwn a gyfansoddodd efe yn feddargraff i'w briod; yr 2il yn 23, Eryron Gwyllt Walia; y бed yn 25, Nicander; y 5ed yn 39, Hugh Maurice Hughes; y 5ed yn 40, Dewi Medi, Llanelli; y 6ed yn 41, Dewi Havhesp; y 5ed yn 44, Ieuan Awst; y 6ed yn yr un tudal., Twrog; y 3ydd yn 50, W. Eilir Evans; y 5ed yn 71, Dewi Wnion, Dolgellau; yr 2il yn 102, Huw Derfel; yr olaf yn 108, Thomas Prys o Blasiolyn; y 5ed yn 125, Meiriadog; a'r 6ed yn 137, Dewi Havhesp. Digwyddodd ychydig fân wallau hefyd yn y prawfleni, ond y pwysicaf ohonynt efallai ydoedd dodi y yn lle u yn englyn prydferth R. ab Gwilym Dda yn tudal, 101; ac hefyd ddodi a yn lle e i ddiweddu y gair carne yn yr ail englyn yn tudal, 139,

Gan ddiolch am y gefnogaeth a gafodd yr argraffiad cyntaf, ac yn arbenig i olygwyr y gwahanol gylchbgronau a newyddiaduron am eu sylwadau caredig arno,

Y gorphwysa yr eiddoch,

EIFIONYDD.

CAERNARFON, Awst 7fed, 1882.

Nodiadau[golygu]