Prif Feirdd Eifionydd/Annerch i Thomas Gwynedd
Gwedd
← Anerchiad i Dewi Wyn a Robert ap Gwilym Ddu | Prif Feirdd Eifionydd gan Edward David Rowlands |
Dewi Wyn o Eifion → |
Annerch i Thomas Gwynedd,
Bardd Cymdeithas y Cymreigyddion yn Llynlleifiad.
HA was! ai Tomas wyt ti—a godwyd
I gadair uchelfri?
Minnau sydd ym min soddi,
Tan y dwr y'm tynnwyd i.
Ti, wr, haeddit eu rhoddion,—rhugl wiwddoeth,
Rhyglyddai obrwyon:
Gwyddant y Cymreigyddion
Rin gwledd yr Awen, aig lon.
Enw i'th ber awenwaith bu:—yn deg lon
Dy glod aeth drwy Gymru,
A chefaist dy ddyrchafu
A nawdd coedd, awenydd cu.
Ni chefais innau uchafiaeth—na chêd,
Na chodiad ysywaeth;
Mwyn nawdd am awenyddiaeth
Ar un pwnc, neu lwnc o laeth.
A fu'r ddawn o farddoni—o un lles
A llaesiad i'm cyni?
Dwy geiniog i'm digoni
O les hon ni welais i.
Mewn brywes, mwynber awen—eres hael
Ni roes i'm fy halen;
Trengaf cyn y tyr angen
Nag y rhydd geiniog i'r hen.