Prif Feirdd Eifionydd/Englynion a gânt y bardd i'w nai

Oddi ar Wicidestun
Verses composed on the death of Mrs Ellis Nanney Prif Feirdd Eifionydd

gan Edward David Rowlands

Beddargraff Mrs Jones, Abercin, Llanystumdwy

Englynion
A gant y bardd i'w nai.


SIONYN bach i swn ein byd—y daethost
I deithio ffordd tristyd;
Dy yrfa mewn daearfyd,
Hyd fedd a fo'n hedd o hyd.

Hynod ddigrif a heini—dy araith
Fwyn dirion ddiwegi;
Mynych ca'm bron ei llonni,
Drwy'th gampau a d'eiriau di.

Gwenu o'm deutu bob dydd—a dadwrdd,
Onid ydwyt beunydd?
Dy lonaid o lawenydd,
Yn wastad, a siarad sydd.

Cain faban mwynlan i'n mysg—ar redfa
Dy yrfa ddiderfysg;
Doed i'th hawl weddawl addysg,
Gan fwynhau doniau a dysg.

Rhoed Ner ras i'th addasu—i rodio
Puredig ffyrdd Iesu:
Cynnar boed it' amcanu
At ei waith, a'i gyfraith gu.


Nodiadau[golygu]