Neidio i'r cynnwys

Prif Feirdd Eifionydd/Er nad wyf fi ond plentyn

Oddi ar Wicidestun
Mi âf ymlaen o nerth i nerth Prif Feirdd Eifionydd

gan Edward David Rowlands

O am râs i garu Iesu

Mawl Plentyn.

ER nad wyf fi ond plentyn,
Dan erfyn dof yn awr,
O flaen fy mwyn Greawdwr,
Sy'n Lluniwr nef a llawr;
Am gymorth llawn i'w gofio
Neu dreulio f'amser drud,
I'w ogoneddu'n ddyfal,
O fewn yr anial fyd.

Ei drugareddau'n gyson,
Sy'n dirion nos a dydd;
I'm rhyfedd amgylchynu,
Ei santaidd allu sydd:
'Rwy'n derbyn fy nghysuron
Sy'n rhoddion gwerthfawr rhad,
A phopeth angenrheidiol,
O law y dwyfol Dad.

Fe drefnodd rai o'm deutu,
I'm caru ar bob cam,
A'm hymgeleddu'n dyner
Ynghyd â mwynder mam;
Ymdrechant fy addysgu
I anrhydeddu Duw,
A'i achos gogoneddus,
Yn barchus tra f'wyf byw.

O boed i'm henaid egwan,
Ro'i cân o foliant cu,
Mawl peraidd fel melyswin,
I Frenin nefoedd fry;
Rhoes imi ddeall eglur,
Cymesur à fy maint,
A chalon i dymuno,
Byth seinio gyda'i saint.

—SION WYN.


Nodiadau

[golygu]