Prif Feirdd Eifionydd/Ffon y bardd

Oddi ar Wicidestun
Beddargraff Prif Feirdd Eifionydd

gan Edward David Rowlands

Pedr Fardd

Ffon y Bardd.

Digwyddodd i Ddewi Wyn, wrth gyd—deithio â R. ap Gwilym Ddu, ryw dro, ofyn iddo paham y cariai ffon mor geinciog, ac atebodd yntau mewn englyn:—

NID arwain Ynn na Deri—Eifionydd
A fynnaf eleni;
Pren Celydd, prin y coeli,
A phen aur yw fy ffon i.

Nodiadau[golygu]