Prif Feirdd Eifionydd/Gweddi

Oddi ar Wicidestun
Pilat yn y farn Prif Feirdd Eifionydd

gan Edward David Rowlands

Ateb i Ddewi Wyni

Gweddi.

GWIR wylaf ddagrau heli,—o lwyr och,.
I lawr af dan waeddi
At ei orsedd, mewn gweddi,
A gwaed y Mab gyda mi.

Drwy'r hoelion, a'r coroni,—draw, a'i gur,
Drwy y gwawd a'r poeri,
Drwy y gwinegr, dir gyni,
Drwy ei boen fawr, derbyn fi.


Nodiadau[golygu]