Prif Feirdd Eifionydd/I'r Llinell

Oddi ar Wicidestun
Cof Goronwy Owen Prif Feirdd Eifionydd

gan Edward David Rowlands

Sion Wyn o Eifion

I'r Llinell.

POB llinell dywell a adawo—'r gwr
A'i gwel i betruso,
A'r llinell yn fusgrell fo,
Ym mhell bo'r llinell honno.

Amglygrwydd gwiwrwydd mewn geiriau,—y sai
A'r synnwyr yn olau,
Cyngan hyfryd i gyd gau,
Oll yn oll y llinellau.


Nodiadau[golygu]