Prif Feirdd Eifionydd/Y Gwanwyn
Gwedd
← Craig yr Imbill | Prif Feirdd Eifionydd gan Edward David Rowlands |
Y cnu gwlân → |
Englynion.
Y Gwanwyn.
MAE ael Anian yn ymlonni,—mae'n brain
Mewn brys am ddeori,
Mae ein hadar yn mwyn nodi
Miwsig y nef yn ein mysg ni.
Mae ein gwanwyn yn min geni—y myrdd
Myrddiwn math o dlysni;
Mor wyrdd, lân, mor hardd eleni,
Mae tir a mòr i'm trem i.
Main laswellt mynn ail oesi—man lle bu
Mewn lliw balch yn codi;
Mae allan drefn meillion di ri',
Mae ail olwg am y lili.
Mae'r eigion yn ymrywiogi—mae'r donn
Mor deneu'n ymlenwi;
Moddion tyner!—meddant ini,—
"Mae yn y nef Un mwy na ni."