Purdeb (Mynyddog)
(Arddull T. Carew).
- Y sawl a fynn y rudd sydd goch
- A gwefus gwrel, llygad du,
- Y gwddw gwyn, y rhosawg foch
- I gynneu fflam ei gariad cu,—
- Daw amser hen i wywo’r gruddiau,
- A diffydd fflam ei lygad yntau.
- Ond y meddwl tawel, pur,
- Gyda ffyddlon dwyfron lân,
- Calon gara fel y dur,
- Hyn sy’n cynneu bythol dân;
- Lle na cheir hyn, peth eithaf annghall
- Yw caru llygad, boch, na grudd, nac arall.