Rebel Mewn Siwt

Oddi ar Wicidestun
Claf o Gariad Rebel Mewn Siwt

gan Robin Llwyd ab Owain

I Eirian
Cyhoeddwyd gyntaf yn Barddas, Mai 1987. Ffynhonnell: [1] gwefan Rebel ar y We / Rhedeg ar Wydr. Sgwennwyd pan oedd y bardd yn brifathro yn Ysgol Llangwm.

Trosglwyddodd y bardd ei gerddi ar drwydded agored yn Ebrill 2020.


O dan y siwt
mae mellt yr ofnau'n
sigo'r colofnau clud.

O dan y wên denau, gadwynog
mae adenydd o dân a chogau
a lluchedau ar chwal
a chalon onest yn ymestyn am aer.

O dan fy siwt lwyd
mae breuddwydion aflonydd
fel chwa newydd
yn chwipio'r nos.

O dan y mor pwyllgorau
mae ffiws denau
o dân yn mudlosgi, llosgi,
ond heb losgi'n llwyr.

O dan fy siwt o dwyll
(a nillad parch o gelwydd du)
mae sgrech anarchydd
wedi'i fygu
ymysg y gwreichion erchyll,
ymysg y colofnau mân.

Yn fy nhawelwch canaid
mae llef hen elyn;
yn fy nghrys gwyn
mae fy nghroes goch;
o fewn fy nghlochdar parchus
wyf blentyn yn chwarae;
o fewn fy "Ie!" lofr
mae fy "Na!" ieuanc,
ac o fewn y llanc hwn
mae gwallgofrwydd y lloer.
O fewn gwawr y distawrwydd,
storm.

Un dyn, dau wyneb:
monswn o rebel mewn siwt.