Rhai o Gymry Lerpwl/Edward Lloyd

Oddi ar Wicidestun
David Powell Rhai o Gymry Lerpwl

gan Anhysbys

Hugh Jones

Edward Lloyd

Ni wyr Cymry Lerpwl ond am un Edward Lloyd. Os crybwyllir yr enw, rhed y meddwl yn uniongyrchol at y boneddwr haelfrydig a chenedlgarol sydd yn preswylio yn Falkner Square. Beth sydd wedi gwneyd y gŵr wisga'r enw yn gymeriad mor adnabyddus ymhlith ei gydgenedl yn Lerpwl? Hawdd yw ateb y gofyniad. Y mae yn fasnachwr llwyddiannus yn y ddinas. Ganed ef yn agos i Benbont Fawr ychydig dros drigain mlynedd yn ol. Rhwymwyd ef yn egwyddorwas fel brethynwr yn Llanfyllin. Yna daeth i'r ddinas hon, ac yn fuan dechreuodd fusnes ar ei gyfrifoldeb ei hun yn Falkner Street. Gyda diwydrwydd a deheurwydd y mae wedi dyfod yn farsiandwr ar raddfa eang, ac yn cynhyddu felly o'r naill flwyddyn i'r llall.


Y mae wedi parhau yn Ymneillduwr selog, cyson, ac o argyhoeddiad dwfn. Gresyn yw canfod llawer o'n cydgenedl y'Nghymru yn gwadu eu Hymneillduaeth ar ol i Dduw yn ei Ragluniaeth wenu arnynt. Nid felly Mr. Edward Lloyd, ac nid felly y gwna ein prif farsiandwyr yn Lerpwl. Hyn sydd yn cyfrif am nerth a haelioni Ymneillduaeth yn ein dinas. Y mae Mr. Lloyd yn flaenor a thrysorydd yr Eglwys Anibynnol Gymreig yn Grove Street. Efe yw swyddog hynaf yr eglwys, ac y mae parch ei gydaelodau iddo bron yn ddiderfyn.

Y mae yn drwyadl genedlgarol. Y mae yn aros yn Gymro o dafod a nodweddion. Ni fedd y Gymdeithas Genedlaethol Gymreig aelod mwy selog na Mr. Lloyd, na'r Eisteddfod Genedlaethol ddilynydd mwy ffyddlon, os na wnawn eithrio Mrs. Lloyd ei hun. Y mae yn bleidiwr ymarferol i bob sefydliad Cymreig yn ein dinas. Un o'r profion diweddaf o hyn yw ei sel ef a Mrs. Lloyd dros lwyddiant "Y Cartref Cymreig i Ferched Gweini" yn Lerpwl.

Y mae yn haelionus yn ei gyfraniadau at bob achos teilwng yn Lerpwl ac oddi allan iddi. Nid yn fynych y cyfarfyddir a neb mor galon dyner a llaw agored i gynorthwyo achosion teilwng. Ychydig sydd yn cyfrannu mwy nag ef yn flynyddol at achosion Eglwysig, os cymerir i fewn ei gyfraniadau i Grove Street ac i eglwys y Wesleyaid ym Mynydd Seion (yr eglwys y mae Mrs. Lloyd yn aelod mor ddefnyddiol o honi) ac eglwysi Pen y Garnedd a Phenbont Fawr, lle y treulia'r teulu fisoedd yr haf. Gofod a balla i ni fanylu ar ei gyfraniadau i eglwysi gweiniaid perthynol i'r Annibynwyr yn Lerpwl ac Y'nghymru. Y mae yn ddirwestwr selog ac egwyddorol. Diau ei fod yn teimlo fod ei iechyd corfforol a'i lwyddiant masnachol ef ei hun wedi cael eu cynnorthwyo yn fawr gan ei arferion dirwestol. Dyna un rheswm mawr am ei sel drosti. Wedi ei ddyrchafu i'r Fainc Ynadol yn y ddinas y mae yn bleidiwr selog i ddirwest, a defnyddia bob gallu cyfansoddiadol i gyfyngu ar y fasnach mewn diodydd meddwol, a lleihau drwy hynny brofedigaethau i ddiota a meddwdod.

Pan yr ychwanegir at hyn ei grefyddolder dwfn, ond syml a naturiol, hawdd yw deall y parch a deimlir ato gan ei gydgenedl yn Lerpwl. Ar iddo gael hir flynyddoedd eto i wasanaethu ei gyd- genedl yw dymuniad diffuant pawb sydd yn ei adwaen.