Rhanau o'r Corff (Fanny Edwards)
← | Rhanau o'r Corff (Fanny Edwards) gan Fanny Winifred Edwards |
→ |
RHANAU O'R CORFF.[1]
MAE genyf ddau lygad i weled yn glir,
Dwy glust i glywed ar fôr a thir;
Dwy ffroen i arogli y blodau bob amser,
Dwy lin i blygu er d'weyd fy mhader;
Dwy fraich a dwy law i sgrifenu'n awr,
Wnant hefyd i weithio pan ddof yn fawr ;
Dwy res o ddanedd, gên, a dwy foch,
Dwy ysgwydd, gwddf, a dwy wefus goch;
Dwy ffêr, dau sawdl, dwy goes, a dau droed,
Ni fu eu rhagorach gan neb erioed;
Ac ond cau fy nwylaw, bydd genyf ddau ddwrn,
Eto yn ymyl y mae fy nau arddwrn ;
A dau benelin heb fod yn mhell,
Na raid o gwbl ddymuno eu gwell;
Hefyd, ugain o fysedd a roddwyd i mi,
Ac wrth dd'od i'r ysgol mi ddysgaf eu cyfri'.
Cymaint o bethau gefais gan Dduw,
Diolchaf am danynt tra byddaf byw.
——FANNY EDWARDS.
Allan o Y Cenad Hedd, Cyf. XXX rhif. 358 - Hydref 1910, tudalen 320.
Argraffwyd gan Swyddfa'r Tyst a'r Dydd, Merthyr Tydfil.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Rhannau o'r corff
Cyhoeddwyd y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1929, ac mae felly yn y parth cyhoeddus o dan gyfreithiau hawlfraint UDA, y wlad lle mae Wicidestun yn cael ei gyhoeddi. |