Rhigymau'r Ffordd Fawr/Yn yr Ydlan
Gwedd
← Ar y Traeth | Rhigymau'r Ffordd Fawr gan Dewi Emrys |
Y Bwthyn → |
YN YR YDLAN.
Mi drois i'r ydlan gyda'r nos,
Yn oer a thlawd fy myd;
A chollais mewn anghofrwydd llwyr
Hen daith fu'n gŵyn i gyd.
Mi gefais ogofeydd o berl
A gwychter gwledd a chân;
Ac ar fy ngwddf hongianai bun,
A'i chnawd mor wyn â'r gwlân.
O'i thresi aur dôi persawr myrr
A gwreichion llawer gem;
Ond taerach oedd y medd-dod mwyn
A bylai dân ei threm.
Yn ddengar wrth fy ngwefus dwym,
Hi ddaliai ffiol win;
A minnau'n gweld uwch gwrid y grawn
Mor addfed oedd ei min.
Nid yfais ddim. Taranodd teyrn
Im sarnu'r gwair a'r yd;
A throis o'r ydlan gyda'r wawr
Yn oer a thlawd fy myd.