Rho im yr hedd na ŵyr y byd amdano

Oddi ar Wicidestun

Mae Rho im yr hedd na ŵyr y byd amdano yn emyn gan Howell Elvet Lewis (Elfed) (1860-1953)

Rho im yr hedd na ŵyr y byd amdano,
hedd, nefol hedd, a ddaeth drwy ddwyfol loes;
pan fyddo’r don ar f’enaid gwan yn curo
mae’n dawel gyda’r Iesu wrth y groes.


O rho yr hedd na all y stormydd garwaf
ei flino byth na chwerwi ei fwynhad
pan fyddo’r enaid ar y noson dduaf
yn gwneud ei nyth ym mynwes Duw ein Tad.


Rho brofi’r hedd a wna im weithio’n dawel
yng ngwaith y nef dan siomedigaeth flin;
heb ofni dim, ond aros byth yn ddiogel
yng nghariad Duw, er garwed fyddo’r hin.


O am yr hedd sy’n llifo megis afon
drwy ddinas Duw, dan gangau’r bywiol bren:
hedd wedi’r loes i dyrfa’r pererinion
heb gwmwl byth na nos, tu hwnt i’r llen.


Ffynhonnell[golygu]

Gobaith Cymru