Rhobat Wyn/Ar Ddydd o Awst

Oddi ar Wicidestun
Nos Da Rhobat Wyn

gan Awena Rhun

Gwas y Neidr

AR DDYDD O AWST

DOE, 'roedd iti lwyth o flodau gwyn,
A minnau'n meddwi'n lân o'u drachtiau;
Pêr oedd oedi tan y cangau hyn,
A hud y nant yn creu dyrïau.

Gynneu, oedais eilwaith wrth dy fôn,
A'th flodau gylch fy nhraed yn disgyn;
Am fwyneiddiach cawod ni cheir son,
Ni phlygwyd tani'r un glaswelltyn.

Heddiw, mae it' sypiau cochion llawn
A gudd holl chwerwedd oes mewn tlysni;
Gwledd i lygaid yw dy lwyth o rawn,—
Di, goeden dal yr allt a'r drysi.


Nodiadau[golygu]