Rhobat Wyn/Arthur
Gwedd
← Gwelais | Rhobat Wyn gan Awena Rhun |
Fy Nghlomen Fach Ddu → |
ARTHUR
(MAB Y PARCH. J. H. A MRS. WILLIAMS, STOCKPORT).
DAN gwmwl rhyfel hwyliais draw
Yn llon fy mryd i Singapôr;
Mewn antur nid oedd unryw fraw
I lanc a garodd longau'r môr.
Yn ôl i Loegr y cipiwyd fi
Un dydd o Singapôr drwy'r nen,
I geisio'r meddyg mwya'i fri
A fedrai wella briw fy mhen.
Os methodd llaw y meddyg hy,
A gorau cariad tad a mam,
Ces fêl o swcwr ffrindiau cu
Cyn rhoi fy nghorff i fynwes fflam.
Ar fynydd Môn y mae fy llwch,
Ymhell o awyr Singapôr;—
Bob haf bydd aur yr eithin fflwch
Ar wely hedd yng ngolwg môr.