Rhobat Wyn/Cân
Gwedd
← Gwas y Neidr | Rhobat Wyn gan Awena Rhun |
Prydferthwch → |
CÂN
Mi wn ei bod yn crwydro ddydd a nos
Yn noeth—a hoff yw hi o flodau'r drain;
Ar dro caf gip ar liw ei gwedd mewn rhos,
Ac ar ei chysgod draw ar ambell lain.
Mi glywais dinc o'i thannau ysgafn hi
Yn siant y nennig loyw ar yr allt,
A theimlais rym ei hangerdd yn y lli
Pan ruthrai'r glaw a'r gwyntoedd drwy fy ngwallt;
Caf beth o iaith ei llygad rhwng yr hesg
Yn 'sgil y "Nad-fi'n-angof" teg ei wawr,
Ac er na ddaw yn ôl i'm calon lesg
Yr hyn a roes un tro ddyhead mawr,
Ni flinaf ddim ar boen y chwilio hir
Tra bo rhyw gysgod glwys ar lwybrau'r tir.