Rhobat Wyn/Ei Hen Gynefin
Gwedd
← Coelio Blodyn | Rhobat Wyn gan Awena Rhun |
Y Llwybr Gynt → |
EI HEN GYNEFIN
PETAI o'n ffoi ar ddydd o haf,
Ac aros oriau hir
I grwydro'r llwybrau culion, braf
A geir ymhleth drwy'r tir.
Petai o'n troi at furiau'r bwth
Na ŵyr y byd mo'i oed—
Sy'n llechu dan y mwsog glwth
Gerllaw y bryn a'r coed.
Petai o'n mynd i godi dŵr
O'r ffynnon yn y ddôl,
I ddwfn ei drych dôi llun hen ŵr
A'i gyrrai'n brudd yn ôl.