Rhobat Wyn/Rhew

Oddi ar Wicidestun
Mawrth 1943 Rhobat Wyn

gan Awena Rhun

Coelio Blodyn

RHEW

TEG oedd fy mro dan ei byclau
O wydrau disglair yr iâ;
Ei choedydd noeth yn ymhoywi
Fel petaent dan flodau'r ha'.

Hardd ar y drain fu'r ymdrwsio,
Pob pigyn mewn arian blisg;
A llwyni gardd fel rhyw ddelwau
Digyffro dan loywder gwisg.

Go oer oedd miwsig y crinsian.
Ar hyd y ffordd o dan draed,
Ac ni cheid o dincial coeden
Un nodyn i dwymo gwaed.

Safai fy mro yn ei thegwch,
Fel duwies o fyd yr iâ;
Ac er i'w gwychder fy synnu,
Hiraethwn am wisg yr ha'.


Nodiadau[golygu]