Rhyfedd na buaswn nawr

Oddi ar Wicidestun

Mae Dydd y Farn yn emyn gan Dr George Lewis DD (1763 – 1822).

Rhyfedd na buaswn nawr
Yn y fflamau,
Wedi cael fy nhorri i lawr
Am fy meiau;
Gan fy mod i heddiw'n fwy,
Mi rof deyrnged
O glod a mawl i'm Harglwydd Dduw
Am fy arbed.


Rhyfedd yw i Dduw erioed
Edrych arnaf;

Mawr fy rhwymau i roi clod

I'r goruwchaf
Os ca'i 'nwyn i ben fy nhaith
Yn ddihangol,
Moli Iesu fydd fy ngwaith
Yn dragwyddol.