Rhyfeddodau'r Cread/"Lliw" Sain

Oddi ar Wicidestun
Cyd-Ysgogiad Rhyfeddodau'r Cread

gan Gwilym Owen (1880 - 1940)

Gwyddoniaeth a Chrefydd

PENNOD XIII

"LLIW" SAIN

Bwriadwn yn y bennod hon ddywedyd ychydig am y deddfau sydd yn rheoli seiniau tannau'r delyn, y piano a'r organ. Ceisiwn ateb hefyd y cwestiwn diddorol— pa fodd y gellir dywedyd pa offeryn sydd yn cael ei chwarae er nad ydym yn ei weled.

Dechreuwn gyda'r tannau. Dibynna sain tant telyn ar dri pheth: (1) hyd y llinyn, (2) ei dyndra, (3) ei braffter. Syml iawn yw'r cysylltiad rhwng hyd y llinyn a chyflymder ei ysgogiadau. Byrhaer y llinyn i hanner ei hyd gwreiddiol, ac y mae'n siglo ddwywaith yn gyflymach nag o'r blaen. Ceir felly nodyn wythfed yn uwch na'r nodyn gwreiddiol. Byrhaer y llinyn i'r drydedd ran o'i hyd gwreiddiol, ac y mae'n ysgogi dair gwaith yn gyflymach, ac felly ymlaen. Mewn gair, po fyrraf y llinyn, cyflymaf y sigla ac uchaf yw cywair ei sain. A'r un modd hefyd, wrth dynhau'r tant, fe esgyn cywair ei nodyn. I'r gwrthwyneb, po fwyaf fo pwysau a phraffter y tant, isaf fydd ei gywair. Gwelir esiampl dda o weithiad y deddfau hyn yn y piano. Y mae'r tannau yn y trebl yn fyrrach, yn dynnach, ac yn feinach o lawer na'r llinynnau yn y bas. Daw'r un peth i'r golwg hefyd yn y delyn. Yn y crwth y mae'r pedwar llinyn oll o'r un hyd, er nad ydynt oll mor dynn nac mor braff â'i gilydd, ac y mae'n hysbys i bawb fod y crythor yn cael ugeiniau o wahanol seiniau allan o'r pedwar tant hyn trwy newid â bysedd ei law chwith hyd y rhan o'r llinyn sydd yn ysgogi. Trown ein sylw am foment at bibelli'r organ. Dibynna'r nodyn a geir o bibell organ ar faint y bibell. Po fyrraf y bibell, uchaf fydd cywair ei sain—deddf gyffelyb i'r hon a geir gyda thannau'r delyn. Ond dylid sylwi bod rhai pibelli yn agored yn y pen uchaf, tra y mae eraill ynghau, ac y mae hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr yng nghywair y nodyn. Er enghraifft, rhydd pibell wedi ei chau nodyn wythfed yn is na phibell agored o'r un hyd. Ffordd arall o ddywedyd hyn yw fod pibell wedi ei chau o 8 troedfedd a phibell agored o 16 troedfedd yn rhoi'r un nodyn. Os felly, medd y darllenydd, paham y defnyddir pibelli agored o gwbl, os gwna rhai wedi eu cau a hanner eu maint y tro. Yr ateb yw: er bod y ddwy bibell a nodwyd yn rhoi seiniau o'r un cywair, eto y mae nodyn y bibell agored o nodwedd dlysach a chyfoethocach. Y mae iddo "liw" (quality timbre) gwahanol a gwell nag eiddo'r bibell sy wedi ei chau. Arweinia hyn' ni at y cwestiwn diddorol a phwysig, sef ansawdd neu "liw" sain, hynny yw, y nodweddion hynny sy'n ein galluogi i wahaniaethu rhwng sain o gywair arbennig pan seinier hi gan wahanol offerynnau. Tybier, er enghraifft, fod y darllenydd wrth basio heibio i ryw dŷ yn clywed merch yn canu oddi mewn, a bod gwahanol offerynnau —y piano a'r crwth, dyweder—yn ei chyfeilio. Hysbys yw i bawb fod y gwrandawr oddi allan yn alluog i ddywedyd pan glywo unrhyw nodyn arbennig, pa un ai r gantores, ai'r piano, ai'r crwth a'i "canodd." Sut felly, gan mai yr un nodyn oedd? Yr ateb yw: fod gan bob offeryn ei " liw " arbennig ei hun. Ceisiwn egluro'r rheswm am hyn. Rhaid sylweddoli i ddechrau nad un sain seml a phur yw nodyn cerdd yn gyffredin, ond yn hytrach sain gymysg yw. Er mwyn hwyluso'r eglurhad, cyfyngwn ein sylw i ddechrau i un o nodau'r piano, C (256), sef y C yng nghanol y rhestr. O daro'r nodyn hwn â'r bys, dechreua'r llinyn ysgogi'n gyflym o un ochr i'r llall 256 o weithiau mewn eiliad. Wrth wneuthur hyn, ysgoga'r llinyn fel un darn. Ond yn ychwaneg na hyn—y mae'r llinyn hefyd yr un pryd yn ysgogi yn ddau ddarn, gan gynhyrchu sain o fynychder 2 x 256, sef 512. Hefyd yn dri darn, gan gynhyrchu sain o fynychter 3 x 256, sef 768, ac felly ymlaen. (Hwyrach y bydd atgoffa'r darllenydd o'r ffaith y gwelir crychdonnau (ripples) yn chwarae ar donnau mawr y môr, yn help iddo ddeall hyn.) Gan hynny, nid sain bur a seml o fynychder 256 yn unig yw'r sain a geir o'r llinyn, ond sain gymysg yn cynnwys cyfres o wahanol seiniau ac y mae mynychder eu sigliadau yn dal y perthnasau canlynol: 1 : 2: 3: 4: 5: 6, etc.

Gelwir y gyfres hon y gyfres harmoniaidd a'r gwahanol nodau ynddi, y cytseiniaid (harmonics neu overtones) Sylwer hefyd fod yr holl nodau hyn (o leiaf cyn belled â'r chweched) mewn cytgord â'i gilydd, oblegid yn y nodyn C ceir y gyfres C, C', G', C'', E'', G'' . . . Nid yw'r glust yn gyffredin yn gwrando ond yn unig ar y nodyn isaf yn y rhestr, y sylfaen gan mai hwn yw'r cryfaf o lawer. Serch hynny, y mae'r nodau eraill yn bresennol, a phresenoldeb y nodau ychwanegol hyn sydd yn rhoi i'r sain y timbre arbennig a berthyn iddo. Hefyd, po gryfaf a lluosocaf y nodau eraill—y cytseiniaid,— cyfoethocaf a choethaf fydd y sain. Yn awr, y mae cryfder cymharol y gwahanol gytseiniaid yn dibynnu ar amryw bethau. Yn eu mysg (i) ffurf a chaledwch y morthwyl â'r hwn y trewir y tant; (2) y pellter o ben y llinyn lle y trewir ef; (3) defnydd y llinyn, ai dur ai gyt yw; (4) y moddion a ddefnyddir i ysgogi'r tant—pa un ai trwy ei daro â "morthwyl" (fel yn y piano), ai trwy ei blicio â'r bŷs (fel yn y delyn), ai trwy ei rwbio â bwa (fel yn y crwth). Gwelir yn awr yn eglur y rheswm paham y mae'r fath wahaniaeth rhwng "lliw" seiniau'r piano, y crwth a'r delyn—y cytseiniaid sydd yn wahanol iawn yn y gwahanol offerynnau.

Nid nodau pur a syml ychwaith yw eiddo pibelli'r organ. Ynddynt hwythau hefyd ceir y cytseiniaid, ond nid yw cytseiniaid pibell agored yr un â'r rhai a geir mewn pibell wedi ei chau. Er enghraifft, yn yr olaf ni cheir ond y rhestr 1 : 3 : 5 : 7 - - - - etc., tra yn y bibell agored y ceir y rhestr yn gyfan, 1 : 2 : 3 : 4 : 5 : 6 : 7 - - - - etc. Dyma felly y rheswm paham y mae nodyn y bibell agored yn gyfoethocach ac yn fwy "diddorol" i'r glust na sain y bibell sy wedi ei chau. A'r un modd, y rheswm fod lleisiau gwahanol bersonau (o'r un rhyw, wrth gwrs) yn gwahaniaethu cymaint yw fod y cytseiniaid yn wahanol ynddynt. Na thybied y darllenydd mai damcaniaeth noeth yw'r eglurhad uchod. Fe ellir profi'r gosodiad mai cymysgedd yw nodyn cerdd o nifer o seiniau gwahanol. Awgrymwn i'r darllenydd wneuthur yr arbrawf canlynol:

Mynd at y piano a phwyso i lawr yn ofalus (heb beri iddo seinio) y nodyn C' yn y trebl. Yna taro yn gryf amryw weithiau y nodyn C wythfed yn is, ac yna godi'r bys i atal sain C. Fe sylwir bod C' yn seinio'n gryf er nad yw wedi ei daro. Y mae wedi ei gynhyrfu (yn rhinwedd egwyddor cyd-ysgogiad a eglurwyd yn y bennod flaenorol) gan y sain C' oedd yn gymysg â'r nodyn C a drawyd. Eto pwyso i lawr yn ofalus a "distaw" y nodyn G', a tharo C drachefn amryw weithiau yn staccato. Ceir clywed G' yn seinio. Neu os mynnir, pwyso i lawr yn ddistaw yr holl nodau C', G', C'', E'', G'', ac yna daro C yn gryf amryw weithiau. Ar ôl atal sain C clywir y pum nodyn uchod yn seinio gyda'i gilydd gan ffurfio cord Harminaidd. Fe brofa hyn y gosodiad.

Gyda llaw, fe wêl y darllenydd yn awr y rheswm paham y mae pwyso i lawr y pedal de yn cryfhau sŵn y piano. Tybia llawer mai amcan y pedal de yw (trwy godi'r dampers} caniatáu i'r llinynnau barhai i ysgogi ar ôl codi'r bysedd oddi ar y nodau (hynny yw, legato) ond nid yw'r eglurhad yna yn gyflawn. Pan drewir cord yn y bas, yna, yn rhinwedd yr hyn a ddywedwyd uchod, y mae amryw o'r llinynnau yn y trebl hefyd yn dechrau seinio trwy eu bod yn cyd-ysgogi â'r cytseiniaid yn y nodau yn y bas. Oherwydd hynny, y mae'r cord nid yn unig yn cael ei gryfhau ond hefyd yn cael ei gyfoethogi a'i brydferthu.

Nodiadau[golygu]