Rhyfeddodau'r Cread/Trosglwyddiad Sŵn
← Natur Sŵn | Rhyfeddodau'r Cread gan Gwilym Owen (1880 - 1940) |
Natur Sain → |
PENNOD IX
TROSGLWYDDIAD SŴN
Yn y bennod o'r blaen eglurwyd bod pob ffynhonnell sŵn yn ysgogi neu yn siglo'n gyflym, a bod yr ysgogiadau yn creu tonnau yn yr awyr, a adnabyddir ac a ddehonglir fel sŵn pan gyrhaeddant y glust.
Cyfyngwn ein sylw am foment i offeryn arbennig— utgorn, dyweder. A yw'n hollol gywir dywedyd bod yr utgorn, wrth gael ei chwythu, yn anfon allan sŵn? Y mae'n ddigon tebyg yr etyb y darllenydd ei fod. Ond nid wyf yn hollol sicr fod yr ateb yn gywir, oblegid y gwir yw mai'r hyn sydd yn dylifo allan o'r utgorn yw cynyrfiadau yn yr awyr. Ac nid yw'r cynyrfiadau hyn yn troi'n sŵn hyd nes y cyrhaeddant glust rhywun a all eu clywed. Os yw'r hwn sy'n chwythu'r utgorn yn hollol fyddar, ac onid oes neb arall mewn cyrraedd, yna distawrwydd ac nid sŵn sydd yn bod. Yr un modd ag y mae ystafell wedi ei goleuo yn hollol dywyll i ddyn dall, felly hefyd distawrwydd sydd yn teyrnasu mewn ystafell heb ynddi glust i dderbyn a dehongli'r cynyrfiadau yn yr awyr. Mewn geiriau eraill, nid yw sŵn yn bod ar wahân i glust yn gwrando, ond y mae ysgogiadau'r awyr yn yr utgorn ac o'i amgylch yn bod yn wir ar wahân i bresenoldeb unrhyw wrandawr. Y mae geiriau'r Athro Percy C. Buck, o Brifysgol Dublin, yn bur drawiadol ar y testun yma. Dywed yr awdurdod cerddorol hwn:
Ewch ar eich pen eich hun at yr organ mewn eglwys wag, tynnwch allan yr holl stopiau a threfnwch rywbeth i bwyso i lawr yr holl nodau; y canlyniad fydd y sŵn mwyaf byddarol. Yna ewch allan o'r adeilad gan ei adael yn wag fel o'r blaen. Amdanoch chwi, fe glywch sŵn yr organ, ond oddi mewn i'r adeilad ei hun nid oes ond distawrwydd perffaith. Y mae'r awyr yn y pibellau yn ysgogi, ac y mae'r awyr yn yr adeilad yn trosglwyddo'r cynyrfiadau hyn i bob cyfeiriad, ond nid ydynt yn troi'n sŵn hyd nes y cyrhaeddant yr offeryn byw (y glust) sydd wedi ei chynllunio i dderbyn a dehongli'r cynyrfiadau hyn.
Yr ydym wedi ymdrin braidd yn helaeth â'r mater oherwydd diddordeb y cwestiwn ei hun, a hefyd oherwydd y cyfleustra a roddir drwy'r ymresymiad i bwysleisio natur sŵn a'r modd y cynhyrchir ac y trosglwyddir ef.
Trown ein sylw yn awr at fater arall. Fe ddywedwyd yn y bennod o'r blaen fod tonnau sŵn yn teithio trwy'r awyr mor gyflym â chwarter milltir mewn eiliad. Gofynnwn a yw pob math o sŵn yn teithio yr un mor gyflym—sŵn persain tant telyn, a sŵn brawychus taran? Yr ateb yw—ydynt yn hollol yr un fath. Ac y mae i hyn ganlyniadau pwysig, oblegid hawdd yw dychmygu beth a allasai ddigwydd pe na byddai hyn yn wir. Tybier ein bod yn un pen i neuadd fawr yn gwrando ar seindorf yn perfformio yn y pen arall. Pe na byddai seiniau'r gwahanol offerynnau—"y cornet, y chwibanogl, y delyn, y dulsimer, y saltring, y symphon, a phob rhyw gerdd "-yn cyd-deithio yn hollol â'i gilydd, yna (serch i'r cerddorion gyd-chwarae yn berffaith) ni fuasai'r gwahanol seiniau yn cyrraedd cwr pellaf yr adeilad yn hollol yr un pryd ac y mae'n eglur mai sŵn anhyfryd ac aflafar iawn a glywid yno oherwydd hynny.
Eto, onid yw'n rhyfedd (a pho fwyaf y meddyliwn am y peth, mwy rhyfeddod yw) fod y gwahanol donnau hyn yn gallu cyd-deithio yn yr awyr, gan groesi llwybrau ei gilydd fyth a hefyd, heb ymyrryd ai gilydd yn y radd leiaf. Gallesid disgwyl y buasai tonnau'r crwth, dyweder, yn cyd-daro ac anghytuno â thonnau'r bib; ond na, y maent yn teithio drwy'r awyr gyda'i gilydd heb yr ymyrraeth lleiaf rhyngddynt. Ânt yn eu blaen yn berffaith annibynnol ar ei gilydd. A'r hyn sydd yn fwy rhyfedd fyth yw fod y glust (gerddorol) yn gallu dewis allan, o'r llu o donnau sydd yn ei chyrraedd, y rhai hynny a berthyn i ryw un offeryn arbennig, ac i glustfeinio yn unig ar hwnnw, os mynnir. Yn hyn o beth y mae'r glust yn fwy cywrain o lawer na'r llygad. Fel y gŵyr pawb, cymysgedd yw goleuni "gwyn," goleuni'r haul, dyweder, o wahanol fathau o donnau: hynny yw, o wahanol liwiau, ond ni all y llygad noeth ddadelfennu'r goleuni i'w wahanol liwiau fel y gall y glust ei wneuthur gyda chymysgedd enfawr o wahanol fathau o seiniau. Yn wir, po lwyraf y ceisiwn astudio'r glust a'i gallu, dyfnaf oll yw ein syndod at ei chywreinrwydd, a mwyaf oll yw ein hedmygedd ohoni fel dyfais.