Rhyfeddodau'r Cread/Y Mawr

Oddi ar Wicidestun
Cynnwys Rhyfeddodau'r Cread

gan Gwilym Owen (1880 - 1940)

Y Bach

RHAN I

Y MAWR A'R BACH YN Y
GREADIGAETH

PENNOD I

Y MAWR A ' R BACH YN Y
GREADIGAETH

i. Y Mawr

YN ystod y pum mlynedd ar hugain diwethaf, y mae'n gwybodaeth wedi cynyddu'n ddirfawr mewn dau gyfeiriad cyferbyn. Ar un llaw y mae seryddwyr, trwy eu dyfeisiau cywrain i blymio i ddyfnderoedd y ffurfafen, wedi ennill profion newydd o fawredd annirnad y Greadigaeth; ac ar y llaw arall, y mae gwyddonwyr, trwy eu hymchwil ynglŷn â chyfansoddiad yr atomau, wedi profi bod gronynau (sef electronau) annisgrifiadwy o fychan—miloedd o weithiau'n llai na'r atom lleiaf.

Bwriadaf yn y bennod hon sôn yn unig am y Mawr a cheisio dywedyd ychydig ar y syniadau diweddaraf am ehangder a maint byd y sêr.

Y mae Dyn (am a wyddom ni) yn gyfyngedig i'r ddaear hon, un o naw planed yn troi o amgylch seren fechan —yr Haul. Ond ni ddywedaf ddim yn y bennod hon am beth mor lleol â'r teulu bach hwn—Cysawd yr Haul. Afresymol fyddai sôn am John Jones a'i deulu pan fôm yn ymdrin â dynoliaeth yn gyffredinol. Yr un mor afresymol fyddai sôn am yr Haul a'i deulu a'r cyfanfyd yn destun ein hymddiddan ar hyn o bryd.

Tybiwn, gan hynny, fod y darllenydd allan yn yr awyr agored ar noson glir, serennog, ddileuad. Fe wêl sêr i'r gogledd, sêr i'r de, sêr uwch ei ben ac ym mhob cyfeiriad. Ac nid yw i'w feio os cred eu bod yn aneirif. Yn wir, dyna yw'r syniad cyffredin. Ond camgymeriad ydyw. Ni ellir gweld â'r llygad noeth ond tua 4,000 o sêr fel pwyntiau golau ar wahân. Wedi'r cyfan, bychan yw cannwyll y llygad, ac felly ychydig o oleuni a â i mewn iddi. Ond os delir mwy o oleuni'r seren drwy ddefnyddio telesgôp bychan, yna fe welir, yn rhwydd, gan mil o sêr. Gyda'r telesgôp cryfaf fe welir can miliwn, a thrwy gyfrwng y telesgôp a ffotograffiaeth fe argreffir ar y plât oddeutu dwy fil o filiynau. Cofier bod pob un o'r pwyntiau golau hyn yn golygu corff tanllyd, eiriasboeth, y mwyafrif ohonynt filoedd o weithiau'n fwy eu maint a'u tanbeidrwydd na'n haul ni. (Gwêl yr wyneb-ddarlun}.

Ond camgymeriad fyddai meddwl bod y greadigaeth yn gyfyngedig i'r hyn y gellir ei weled trwy gyfrwng y telesgôp. Oblegid y mae'n fwy na thebyg bod llawer o'r sêr yn llywodraethu ar deuluoedd eraill— planedau a chomedau—na ellir eu gweled o gwbl. Hefyd, beth am yr heuliau sydd wedi oeri a marw? Y mae lle i gredu bod nifer y rhai hyn yn llawn cymaint (a dywedyd y lleiaf) â'r cyrff golau. Fel y dywed un awdur —camgymeriad dybryd fyddai amcangyfrif pa faint o bedolau ceffyl sydd ar y ddaear yma oddi wrth y nifer sydd yn digwydd bod yn eiriasboeth ar ryw adeg neilltuol. Felly hefyd gyda rhif y sêr.

Fe gyfyd y cwestiwn yn naturiol, gan hynny—beth yw rhif y sêr? A yw'r cyrff wybrennol yn anfeidrol ac annherfynol eu rhif? Fe ddywedwyd uchod fod oddeutu dwy fil o filiynau o sêr yn eu hargraffu eu hunain ar y plât, a chyfrifir gan Syr Arthur Eddington nad yw hyn ond un rhan o dair miliwn o'r holl heuliau yn y greadigaeth. Beth yw ystyr rhoi i lawr mewn du a gwyn ffigur o'r fath? A yw hyn yn golygu bod terfynau i'r bydysawd? Ai ynteu awgrymu y mae fod terfyn i allu'n dyfeisiau a'n hofferynnau ni? Dyma gwestiwn anodd ei ateb. Fe fernir gan rai gwyddonwyr nad yw'r cyfanfyd adnabyddus yn ddiderfyn, nad yw rhif y sêr yn wir anfeidrol, a bod ein hofferynnau yn medru tremio bron i gyrrau eithaf y greadigaeth, ond ni ellir ateb y cwestiwn hwn ar hyn o bryd.

Maint y Cyfanfyd

Trown yn awr at agwedd arall i'r testun. Gofynnwn a ellir dywedyd, gyda rhyw gymaint o sicrwydd, beth yw maint y cyfanfyd, neu mewn geiriau eraill, pa mor bell oddi wrthym yw cyrrau eithaf cysawd y sêr? Fe ŵyr pawb fod pellter y sêr mor arswydus fel y caiff y meddwl dynol gryn anhawster i'w amgyffred, os gall o gwbl. Nid yw o un pwrpas inni geisio disgrifio'r pellteroedd hyn mewn milltiroedd. Byddai'r rhes ffigurau'n afresymol o hir ac yn berffaith ddiystyr. Mi sylwais yn yr Almaen fod y pellter o un pentref i'r llall yn cael ei sgrifennu ar y mynecbost, nid mewn milltiroedd, ond mewn munudau neu oriau. Golyga hyn yr amser a gymerir i gerdded rhwng y ddau le. Cynllun cyffelyb a ddefnyddir gan seryddwyr i ddisgrifio pellteroedd yr wybren. Ond yma, nid dyn gyda'i gerdded araf yw'r trafaeliwr, ond goleuni—y negesydd cyflymaf mewn bod. Fe ŵyr pawb fod goleuni'n gwibio 186,000 o filltiroedd (seithwaith o amgylch y ddaear) mewn un eiliad, ac felly mewn blwyddyn fe gyflawna'r daith aruthrol o chwe miliwn o filiynau (6,000,000,000,000) o filltiroedd. A dyna yw'r "llathen-fesur" a ddefnyddir gan seryddwyr— "blwyddyn oleuni" (light-year).

Awn yn ôl at y cwestiwn—beth yw pellter y sêr? Y maent yn gwahaniaethu'n ddirfawr yn eu pellter. Y seren nesaf atom, wrth gwrs, yw'r Haul, 93 miliwn o filltiroedd oddi wrthym. Cyflawna goleuni y daith faith hon mewn wyth munud. Ond ac eithrio'r Haul, y seren nesaf yw Proxima Centauri. Ei phellter hi yw pedair blwyddyn oleuni. Yna ceir y seren fwyaf disglair Sirius (seren y Ci), naw mlynedd oddi wrthym. Ond wedi'r cyfan cymharol agos yw'r rhain. Y mae sêr yr Arth Fawr bedwar ugain mlynedd oddi wrthym, clwstwr Twr Tewdws (Pleiades) dri chant a hanner, y cytser gogoneddus Orion chwe chan mlynedd. Arhosed y darllenydd am foment yn ystyriol uwchben y ffigurau hyn. Y mae'n wir na all amgyffred yr eangderau mewn milltiroedd, ond gall sylweddoli pan fo'n edmygu gogoniant Orion fod ei oleuni wedi cychwyn ar ei daith hirfaith 600 mlynedd yn ôl, ac nad yw gan hynny yn gweled y cytser ardderchog hwn yn ei gyflwr a'i ffurf bresennol ond fel yr oedd ganrifoedd yn ôl— tuag adeg geni Tywysog cyntaf Cymru. Ond beth wyf yn sôn? Cymdogion agos i ni yw'r rhain. Y mae profion cryf fod rhai o'r sêr-glystyrau 20,000, ie, 200,000 o "flynyddoedd-goleuni" oddi wrthym. Yn sicr, ni ellir meddwl yn ystyriol uwchben y ffeithiau hyn heb gael ein gorchfygu gan wylder a pharchedig ofn.

—————————————

Arsyllfa Mount Wilson.

Y Nifwl M 81 yn yr Arth Fawr.

Dyma un o'r gwrthrychau godidocaf yn y ffurfafen. Lle geni teulu o filiynau o sêr. Fe gymer ei oleuni 1,600,000 o flynyddoedd i'n cyrraedd. Sylwer ar ei ffurf droellog. Dengys hyn ei fod yn troi fel olwyn ar ei echel.

—————————————

Cwestiwn arall o ddiddordeb mawr yw hwn: A oes siâp neu ffurf arbennig i'r cyfanfyd? Ac os oes, beth yw? Ai crwn, fflat, ai beth?

Gwahoddwn y darllenydd unwaith eto i edrych i fyny i'r wybren ar noson glir. Pa beth a wêl? Fe wêl sêr yn disgleirio yma ac acw ym mhob cyfeiriad ac felly gallesid tybio ar yr olwg gyntaf fod y cyfanfyd yn grwn. Ond rhaid aros am foment. Beth yw'r Llwybr Llaethog—y rhuban golau a welir yn croesi'r ffurfafen gan amgylchu ein daear fel gwregys o oleuni? Pan gymerir ffotograff o'r rhan hon o'r wybren, ymddengys y plât fel pe wedi ei orchuddio gan nifer dirifedi o sêr, mor agos at ei gilydd fel mai prin y gellir rhoi blaen pin rhyngddynt. Nid yw'r un peth yn wir wrth droi'r telesgôp at ran o'r wybren y naill ochr i'r Llwybr Llaethog. Cymharol brin ac anaml ydynt yno. Dengys hyn yn glir fod y mwyafrif mawr o'r bydoedd uwchben wedi eu crynhoi at ei gilydd ar ffurf disg neu blât enfawr. Bernir bod ei drawsfesur o un ymyl i'r llall yn 500,000 o flynyddoedd-goleuni, tra nad yw ei drwch ond tua 5,000. Y mae lle i gredu hefyd nad yw'r Haul (ac felly y Ddaear) ymhell o ganol trwch y disg. Yng nghyfeiriad ymylon y disg felly y gwelir mwyafrif y sêr. Dyna sy'n cyfrif am ymddangosiad y Llwybr Llaethog. Y mae'n sicr fod y disg mawr hwn yn troi yn gyflym ar ei echel fel olwyn, ac, yn wir, mai oherwydd ei chwyrnelliad cyflym y cymerodd y cwbl y ffurf arbennig a nodwyd.

Nid dychmygion rhyfygus a diwerth yw'r gosodiadau uchod. Y mae cryn sail iddynt, oblegid fe ddengys y telesgôp nifer mawr (miliynau) o wrthrychau yn y ffurfafen—y nifylau troellog (spiral nebulae) sy'n cyfateb yn hollol i'r darlun uchod o'r Llwybr Llaethog. [Gwel darlun I] Y mae iddynt ffurf disg. Y mae eu maintioli'n aruthrol, eu pellter yn anfesurol, ac y maent yn troi yn gyflym ar eu hechel. Am y rheswm hwn cred llawer o seryddwyr o fri mai nifwl troellog oedd y Llwybr Llaethog ar un adeg a'r sêr y gwyddom amdanynt, ac na pherthyn y nifylau troellog eraill o gwbl i'n "cyfanfyd ni," yn hytrach "ynysgreadigaethau" ydynt, ynghrog yma ac acw yn y gwagle, bellteroedd anfesurol ar wahân oddi wrth ein "cyfanfyd lleol," ac yn cynnwys miloedd o filiynau o heuliau, neu ddigon o fater i gynhyrchu'r heuliau hyn yn ystod treigliad oesau i ddod. Ceir ymdriniaeth bellach ar y cwestiwn hwn yn y bennod ar "Ddatblygiad ym myd y Sêr."

Nodiadau[golygu]