Rhyfeddodau'r Cread/Y Raddfa Gerddorol
← Natur Sain | Rhyfeddodau'r Cread gan Gwilym Owen (1880 - 1940) |
Cyd-Ysgogiad → |
PENNOD XI
Y RADDFA GERDDOROL
Fe ŵyr y darllenydd yn dda fod pob cân, pob darn o gerddoriaeth, melodi a chynghanedd, wedi eu sefydlu a'u hadeiladu ar ris neu raddfa gerddorol. Meddylier am y llinell gyntaf yn yr alaw, "Hen wlad fy nhadau." O'i newid mewn nodyn neu ddau gellir ei hysgrifennu fel hyn:
{:d |n :r :d |s :f :n |d' :d' :l .t |d' ||
Gwelir bod yma wyth nodyn gwahanol, sef d, r, m, f, s, l, t, d'. Ffurfia'r rhestr hon yr hyn a elwir y raddfa neu y ris cerddorol a'r raddfa hon a ddefnyddir y dyddiau hyn gan gerddorion ym mhob gwlad wâr. Gelwir hi y raddfa ddiatonig.
Gŵyr pob plentyn ysgol fod y nodau hyn yn dilyn ei gilydd o ran cywair mewn modd arbennig, ac fe all lamu o doh i soh, neu o lah i re heb unrhyw betruso nac anhawster.
Yn araf iawn y daethpwyd i fabwysiadu'r raddfa hon yn ei ffurf bresennol. Y mae gwahaniaeth pwysig rhyngddi a'r grisiau cerdd a ddefnyddid gan yr hen Roegwyr yn amser Pythagoras yn y chweched ganrif cyn Crist, neu gan Ambrose, Esgob Milan (340—397 a.d.), neu gan y Pab Gregori Fawr (540—604 a.d.), neu gan Palestrina yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Dyna'r rheswm fod y côr-ganeuon gregoraidd a cherddoriaeth Palestrina yn taro'n ddieithr i'n clustiau ni y dyddiau hyn. Ni chaniatâ gofod i mi geisio dilyn hanes datblygiad y raddfa gerddorol gyffredin. Yr hyn y mae arnaf eisiau ei egluro a'i bwysleisio ynglŷn â hi yw: Allan o'r miloedd gwahanol nodau hynny y gallesid eu gosod o fewn cylch yr "wythfed " (octave) ni ddewisir yn naturiol gan y glust ond yr ychydig nodau hynny sydd yn dal perthynas syml â'i gilydd o ran rhif eu tonnau.
Er gweled ystyr hyn yn fwy eglur, sylwer ar y ffeithiau a ganlyn. (Y mae'r darllenydd eisoes yn deall bod cywair pob nodyn yn dibynnu ar fynychder ei donnau; po fwyaf o donnau mewn eiliad a gynhyrchir gan yr offeryn, uchaf fydd cywair y sain.) Yn awr, y naid (interval) symlaf yn y raddfa yw'r wythfed, ac fe welir y berthynas rhwng y ddau nodyn wrth gofio bod dyblu nifer y tonnau yn peri i'r nodyn esgyn wythfed mewn cywair, o doh i doh' dyweder. A'r un modd trwy amlhau mynychder yr ysgogiadau yn ôl y cyfartaledd 3/2, esgyn y sain drwy'r naid a elwir y pumed, sef o doh i soh. Ar ôl hyn o eglurhad, gall y darllenydd ddeall yn rhwydd ystyr y rhestr ganlynol:
Sylwer mai perthynasau syml (simple ratios) ydynt oll. Rhai syml fel hyn yn unig y gall y glust eu goddef. Pe byddai'r berthynas rhwng y nodau heb fod yn syml, megis 53/37 neu 69/50, yna anhyfryd i'r glust ac annerbyniol iawn ganddi fyddai naid o'r fath. Pwysig hefyd yw sylwi bod y nodau hynny sydd gyda'i gilydd yn ffurfio'r cytgord mwyaf swynol, sef d, m, s, d' yn perthyn i'w gilydd o ran rhif eu tonnau yn ôl y ffigurau syml 4 : 5 : 6 : 8.
Yr un modd yn hollol ag y mae symlrwydd a chymesuredd mewn adeiladwaith ac arluniaeth yn apelio at y llygad ac yn ei foddhau, felly hefyd y seiniau hynny sydd yn dal perthynas syml â'i gilydd o ran mynychder y tonnau a rydd y mwynhad llawnaf i'r glust.
Tybiwn, unwaith eto, fod y nodyn isaf yn y raddfa— y cyweirnod doh yn cael ei gynhyrchu gan dant sydd yn ysgogi dyweder 240 o weithiau mewn eiliad. Darlunir gan y rhestr a ganlyn rif yr ysgogiadau sy'n nodweddu'r seiniau eraill yn y raddfa.
Gwêl y darllenydd fod y rhestr hon yn hollol gyson â'r un a roddwyd yn flaenorol. Sylwer, er enghraifft, fod
s/d = 360/240 = 3/2
fel y dylai fod. A'r un modd
d'/d = 480/240 = 2/1
ac felly ymlaen.
Yn awr, gofidus gennyf orfod dywedyd, er mai'r raddfa uchod yw'r un sydd yn apelio'n naturiol at y glust ac er mai yn ôl hon y cân y cerddor, ac y chwery'r crythor pan fo heb gyfeilydd gyda'r piano, nid hon yn hollol yw'r raddfa a geir ar y piano ac ar yr organ ac offerynnau nodol (keyed) eraill. Oblegid er mwyn amrywiaeth y mae dernyn o gerddoriaeth yn cynnwys nifer o drawsgyweiriadau. Er mwyn caniatáu gwneuthur y trawsgyweiriadau hyn yn ôl y raddfa naturiol (true intonation) golygai hynny fod i'r piano ac i'r organ gannoedd o wahanol nodau (keys) o fewn eu cylch presennol. Amhosibl fyddai chwarae offerynnau o'r fath. Rhaid rhoi heibio'r raddfa naturiol a derbyn un "annaturiol" a chelfyddydol. Rhennir yr octave yn ddeuddeg rhan, y cwbl yr un faint. Gelwir y raddfa hon the equal temperament scale a hon a geir ar y piano a'r organ.
Darlunir y prif nodau ynddi fel hyn:
Y mae'r symlrwydd perffaith sydd yn nodweddu'r raddfa naturiol yn absennol o hon. Ond yn ffodus, nid yw'r gwahaniaeth rhyngddynt yn fawr. Erbyn hyn y mae ein clustiau wedi cynefino â'r raddfa gelfyddydol "annaturiol" hon, ac nid oes braidd neb yn sylweddoli yr hyn a gollwyd mewn gwir a pherffaith gytgord pan roddwyd o'r neilltu y raddfa naturiol.
Yr ydym eisoes wedi dywedyd nad yw'r glust yn mwynhau trefniant y nodau mewn melodi ond pan fo'r nodau yn perthyn yn syml i'w gilydd o ran mynychder y tonnau a'u cyfansodda. Nid oes eglurhad boddhaol ar hyn, ond y mae eglurhad boddhaol wedi ei roi gan Helmholtz ar fod rhai nodau, o'u seinio gyda'i gilydd (C ac G, neu C ac E) yn ffurfio cytgord swynol i'r glust, tra y mae nodau eraill (C a C#) gyda'i gilydd yn anhyfryd iawn i wrando arnynt. Dyma'r eglurhad: Tybier bod dwy seinfforch yn hollol gytsain yn cael eu seinio a'u dal ochr yn ochr yn ymyl y glust. Clywir sŵn hyfryd, sŵn gwastad, cyson a boddhaus. Y mae'r ddwy fforch yn parhau i gyd-ysgogi, i gyd-gerdded megis, gam a cham, gan gynorthwyo'i gilydd bob moment. Ond os caiff cywair un ohonynt ei ostwng ychydig trwy ddodi dernyn o gŵyr ar ei phigau, sŵn anhyfryd a glywir ar y ddwy fforch. Y mae'r sain megis yn crynu, weithiau'n gryf, weithiau'n wan. Y rheswm am hyn yw: Tybiwn fod un fforch (C#) yn ysgogi 500 o weithiau mewn eiliad, a'r llall (C) 480. Y mae'r gyntaf, felly, yn ennill ar yr ail ugain o ysgogiadau bob eiliad. Eglur gan hynny yw bod pigau'r ffyrch ar rai adegau yn symud yn yr un modd (i gyfeiriad ei gilydd, dyweder), tra ar adegau eraill y maent yn ysgogi mewn modd gwrthgyferbyniol—pigau un fforch yn agosáu, a phigau'r llall yn pellhau. Mewn geiriau eraill, y mae'r seinffyrch ar rai adegau yn cryfhau sŵn ei gilydd, ond ar adegau eraill yn gwanhau ei gilydd. Y mae'n amlwg, gan hynny, y bydd y sŵn weithiau yn gryf ac weithiau yn wan, yn crynu neu yn curo ugain o weithiau bob eiliad. Yn awr, yn ôl Helmholtz, y mae'r curiadau (beats) hyn, y cryndod yn nerth y sŵn, yn anhyfryd iawn i'r glust, ac oherwydd hynny yn cynhyrchu yr hyn a elwir anghytgord (dissonance). Nid oes amheuaeth nad yw'r eglurhad hwn yn gywir.
Dychmygaf glywed y darllenydd yn gofyn yn awr: Onid yw effaith cyffelyb yn digwydd pan seinier doh (480) a soh (720)? Oni fydd nerth y sŵn yn crynu 720—480, sef 240 o weithiau bob eiliad? Atebwn, y bydd. Ond y mae gwahaniaeth pwysig rhwng yr esiampl hon a'r un flaenorol (C a C#). Ni all y glust ddilyn yr ysgogiadau hyn yng nghryfder y sŵn pan fônt mor gyflym â 240 mewn eiliad, ac felly ni chynhyrchir unrhyw effaith anhyfryd ar y glust. Yn hytrach y mae'r ddau nodyn hyn gyda'i gilydd yn ffurfio cytgord neilltuol o swynol fel y gŵyr y darllenydd yn dda.
Er mwyn pwysleisio'r egwyddor hon—fod anghytgord i'w briodoli i beats i ysgogiadau yn nerth y sŵn, caniataer i mi ddywedyd gair ar effaith debyg ynglŷn â'r llygad.
Tybier ein bod mewn ystafell dywyll, a bod llusern drydan yn taflu pelydr o oleuni cryf a llachar ar y pared gwyn. Tra erys y goleuni yn sefydlog, gallwn syllu arno heb flinder i'r llygad, ond os trefnir i'r goleuni fynd a dod bump o weithiau, dyweder, mewn eiliad, yna blin ac annymunol iawn yw edrych ar y pared. (Tebyg yw hyn i effaith doh a de gyda'i gilydd ar y glust.) Os trefnir i'r goleuni fynd a dod 20 neu 30 o weithiau mewn eiliad, yna nid yw effaith un fflach wedi diflannu cyn dyfod yr un nesaf, ac felly ni chenfydd y llygaid yr ysbaid byr o dywyllwch rhwng y fflachiadau. Y mae'r llewych ar y pared yn ymddangos yn awr yn hollol ddidor, ac o ganlyniad, nid yw'n flin i'r llygad syllu arno. Nid rhaid dywedyd mai hon yw'r egwyddor sydd wrth wraidd y "darluniau byw " yn y cinema.