Rhyfel

Oddi ar Wicidestun

gan Hedd Wyn (Ellis Humphrey Evans).

Gwae fi fy myw mewn oes mor ddreng,
A Duw ar drai ar orwel pell;
O'i ol mae dyn, yn deyrn a gwreng,
Yn codi ei awdurdod hell.


Pan deimlodd fyned ymaith Dduw
Cyfododd gledd i ladd ei frawd;
Mae swn yr ymladd ar ein clyw,
A'i gysgod ar fythynnod tlawd.


Mae'r hen delynau genid gynt,
Ynghrog ar gangau'r helyg draw,
A gwaedd y bechgyn lond y gwynt,
A'u gwaed yn gymysg efo'r glaw.