Sŵn y Gwynt Sy'n Chwythu/Rhagair

Oddi ar Wicidestun
Sŵn y Gwynt Sy'n Chwythu Sŵn y Gwynt Sy'n Chwythu

gan James Kitchener Davies

Sŵn y Gwynt Sy'n Chwythu (y gerdd)


RHAGAIR

Bu canmol ar sylwadau Aneirin Talfan ar Kitchener Davies ar y Radio y nos Lun ar ôl ei farw, ac ar gais rhai cyfeillion argreffir hwy yma:

Kitchener Davies. Kitchener! Paradocs o enw, ond enw digon gweddus i filwr. A milwr oedd 'Kitch'. Brwydrodd yn anialwch Y Rhondda. Gorymdeithiodd ei strydoedd tan faner Y Ddraig Goch. Arweiniodd ei fyddin fechan i'r gad "yn erbyn Goliath." A gellir dweud amdano yn ei eiriau ef ei hun a glywyd yn ei Bryddest Radio nos Fercher ddiwethaf:

Doedd dim taro arnat ti orymdeithio yn rhengoedd y di-waith,
Dy ddraig-rampant yn hobnobio a'r morthwyl a'r cryman..


Na, 'doedd dim taro, efallai, pe bait wedi bodloni ar fod yn daeog a gwerthu dy enedigaeth—fraint am seigiau swyddi bras y gallet ti a'th dalent a'th athrylith fod wedi'u cipio yn hawdd. Brwydrodd a syrthiodd yn y gad dros yr unig beth a oedd, yn ei olwg ef, yn werth ymladd drosto. Ond er iddo frwydro, er iddo ymladd yn ddiflino—nid anobeithiodd, ac ni chwerwodd. Yr oedd yn gymeriad annwyl iawn hyd y diwedd.

Kitchener Davies—y garddwr: Yn ei eiriau ef ei hun eto:

Wel na, a 'does arna' i ddim cywilydd cael arddel bod yr ardd wrth y tŷ wedi'i phalu drwy'r blynyddoedd a'i chwynnu yn ddygn nes bod y cefn ar gracio.

Rhan o ardd Cymru oedd Cwm Rhondda iddo ef, ac ymdrechodd i'w chadw yn lân; ymdrechodd i ddadwreiddio'r confolfiwlws a oedd, fel y cancr a'i lladdodd yntau, "yn ymgordeddu drwy'r ymysgaroedd." Mynnai gadw Cwm Rhondda i'r genedl, a'r genedl hithau yn ardd gan ffrwythlondeb. Ac yn yr ardd dwt honno o flaen ei gartref, Aeron, ar y Brithweunydd yn y Rhondda, y gwelodd ddarlun o'i deulu bach yntau, yr ynys unig o Gymreigrwydd yng nghanol môr o Seisnigrwydd yr unig wely heb ei ddifa yn yr ardd—"fy aelwyd, fy mhriod a'r tair croten fach." Bellach, y mae'r garddwr yn llonydd, a'r gaib a'r rhaw wedi'u gosod o'r neilltu.

Kitchener Davies—yr artist. Pan dreuliais brynhawn gydag ef ddydd Sadwrn diwethaf, ychydig oriau cyn ei farw, y peth cyntaf a wnaeth, bron, oedd estyn darn o'i waith imi. "Cymer olwg ar hwn." A dyna fynd ati i drafod drama o'i eiddo. Yna tro dros Eisteddfod Aberystwyth a'i chyfansoddiadau a'i beirniadaethau, a phob hyn a hyn, y llygaid yn goleuo, a gwên yn dyfod i'r gwefusau, a chysgod yr hen Kitchener a adwaenwn, ac a adwaenai llaweroedd o'i gydnabod ar hyd a lled Cymru, yn dyfod i'r golwg. Y 'Kitch' hwnnw a welsom ar dân ar lwyfannau; y Kitchener a roes sioc i gynulleidfaoedd rispectabl-foethus gyda'i Gwm Glo; Kitchener y Cardi o Gors Caron a roes inni ias o hyfrydwch oer-gyda'i Feini Gwagedd; y Kitchener a gyflwynodd ei destament olaf i wrandawyr Cymru mewn Pryddest Radio, a hynny o'i wely angau, pan oedd ei ddwylo'n rhy fusgrell i ddal ei bin-'sgrifennu. Yn Kitchener Davies collodd Cymru wladgarwr ac artist diffuant; ni all Cymru fforddio colli ei debyg.

Boed y Nef yn dyner wrth ei briod annwyl a'i "dywysogesi balch" ei dair croten fach.

Dylid diolch i Aneirin Talfan am roddi i'r beirdd gyfle i lunio Pryddestau, a chyfrwng i'w hadrodd, a gall fod yn well symbyliad i'r beirdd na chystadleuaeth yr Eisteddfod Genedlaethol. Y mae Pryddest Kitchener Davies yn unig wedi cyfiawnhau'r antur. Pan adroddwyd ei Bryddest y tro cyntaf ar y Radio aeth y Wasg ati ar unwaith i lunio rhamant; disgrifiwyd hi fel testament olaf y bardd ar ei wely angau. Gofynnodd Aneirin Talfan i Kitchener Davies am Bryddest Radio, tua gwyliau Nadolig 1951, a bu ef a'i wraig yn trin a thrafod y Bryddest cyn iddo gael ei daro'n sâl, ac ar ôl iddo gael ei daro'n sâl a chyn myned i'r ysbyty. Rhwng dwy operesion yn yr ysbyty, tua phump o'r gloch y bore ar ôl y golchi a chyn brecwast, y cyfansoddwyd hi, a phan ymwelai ei wraig ag ef y nos darllenai'r darn a gyfansoddodd y bore er mwyn iddo gael gwrando ar ruthm ei linellau. Newidiodd rai llinellau ac ychwanegwyd darnau, a gorffennwyd hi ymhen wythnos. Wrth gwrs, y mae ôl yr ysbyty a'i glefyd ar y Bryddest, ond yr oedd ei deunydd hi yn ffrwyth darllen a myfyrdod blynyddoedd.

Fel y gwelir wrth ddarllen ei bennod, "Saunders Lewis a'r Ddrama Gymraeg" yn y llyfr, Saunders Lewis Ei Feddwl a'i Waith a olygwyd gan Pennar Davies, gwnaeth Kitchener Davies astudiaeth arbennig o ddramâu Saunders Lewis, ac iddo ef y ddrama bwysicaf oedd Amlyn Ac Amig. "Argyfwng a throedigaeth Amlyn" meddai Saunders Lewis yn y Rhagair i'w ddrama, "yw pwnc fy nrama i." 'R oedd Kitchener Davies hefyd yn hyddysg yng ngwaith T. S. Eliot. Ychydig cyn iddo farw darllenodd lyfr diwethaf T. S. Eliot, Poetry and Drama, a dywedodd fod Eliot yn pregethu ynddo rai syniadau ynglŷn â thechneg a iaith drama y bu ef ei hun yn eu pregethu cyn hynny, a cheir rhai ohonynt yn y bennod ar ddramâu Saunders Lewis. Iddo ef drama bwysicaf Eliot oedd Lladd wrth yr Allor. Aman Eliot yn ei ddrama oedd. llunio merthyr ac amcan Saunders Lewis yn Amlyn ac Amig oedd llunio sant. Pwrpas Kitchener Davies yn y Bryddest hon oedd 'creu sant'.

..... creu sant o'm priddyn anwadal.

Myfyrdod yw'r Bryddest ar ferthyrdod a santeiddrwydd. Llunio sant hefyd oedd amcan Pantycelyn yn Theomemphus.

Darganfyddiad mwyaf Kitchener Davies, mewn llenyddiaeth a Christionogaeth, oedd darganfod Pantycelyn. 'R oedd y darganfyddiad hwn yn argyfwng ac yn dröedigaeth. Gwnaeth ymchwil am flynyddoedd i weithiau Pantycelyn. Ai i Lyfrgell Rydd Caerdydd i ddarllen yr holl lyfrau gan Bantycelyn yno, a darllenodd. bob dim arno, a chymaint oedd ei ymchwil fel y tybiai rhai ohonom ei fod yn bwriadu cyhoeddi cyfrol o feirniadaeth lenyddol ar ei weithiau, neu ar rai ohonynt. Cyfeiriai at Bantycelyn, a dyfynnai ohono, yn ei ymddiddanion â chyfeillion, a'i ddwyn i mewn hyd yn oed i'w areithiau gwleidyddol. Nid ymchwil ymchwilydd academig, ymchwil myfyriwr yn hoffi pwnc, oedd ei ymchwil ef, ond ymchwil dramäwr, ymchwil bardd ac ymchwil Cristion. Wrth astudio Pantycelyn yr oedd yn ei astudio ei hun. Yr astudiaeth hon yw Sŵn y Gwynt sy'n Chwythu.

Tregaron a Threalaw oedd dau ganolbwynt ei fywyd. 'R oedd mor gyfarwydd â bywyd gwledig Tregaron a'r cylch fel y medrai ddal ymddiddan â'r gwladwr symlaf am ei bethau ei hun ac yn ei iaith ei hun, a'r un modd â'r glöwr symlaf yn Nhrealaw. 'R oedd ganddo gyfoeth o eiriau tafodiaith, ac yr oedd y cyfoeth hwn, weithiau, iddo yn fagl. Ei wendid oedd amleiriogrwydd. Yn y Bryddest hon trechodd y gwendid hwn i raddau helaeth, ond dylid cofio na chafodd hamdden i'w thrwsio a'i newid fel y dymunai. Ni ellir mewn Rhagair byr ymdrin â'i rhuthmau, ei chymariaethau, ei hiaith a'r ddawn disgrifio. Digon yw dywedyd iddo gael y sumbol sydd yn clymu'r gerdd gan Bantycelyn, fel, er enghraifft, yn y ddwy linell yn y Chweched Bennod, yn Bywyd a Marwolaeth Theomemphus, sef y bennodd sydd yn rhoi Hanes Abasis:

'R oedd yno un Abasis; a daeth yr awel gref,
Pereiddiaf wynt yr Ysbryd, yn gadarn ato ef; ..

a gellid rhoddi enghreifftiau eraill lawer, canys y mae'r gwynt' a'r 'awel' yn chwythu drwy holl gerddi Pantycelyn.

Disgrifiad o'i lencyndod yn Nhregaron a geir yn y rhan gyntaf o'i Bryddest; y llanc yn wylo ei ddagrau melodramatig uwch gofidiau a galar pobl eraill, ond perthi ei dylwyth a'i deulu yn ei gadw ef rhag profiadau bywyd, fel Abasis:

Heb gael un prawf o ofid, heb gael un prawf o wae, ...

Yng Nghwm Rhondda nid oedd perthi i gadw'r gwynt rhagddo. Gwyddom oll am ei frwydr ddiflino dros Gymru yng Nghwm Rhondda ac mai ef oedd un o arweinwyr mwyaf didwyll Plaid Cymru, ond dysgodd Pantycelyn ef i chwilio ei gymhellion gwleidyddol.

'R oeddit tithau wrth dy fodd yn pryfocio'r corwyntoedd
gan ddanglo'n gellweirus i ddifyrru'r rabl geg-agored.

Gwelodd yn ei areithiau gwleidyddol yr 'hunan-dosturi celwyddog a'r 'human-fost seimllyd o ffals. Cymysg oedd y cymhellion. Creadur brith yw dyn.

'R oedd yn aelod gweithgar ym Methania, Tonypandy, ac âi i bregethu yng nghapeli'r Cwm a chymoedd eraill, pan na fedrai Capel gael neb arall i lanw pulpud. Ei bregeth fawr oedd y bregeth ar hanes Pedr yn pysgota, yn y bennod olaf o Efengyl Sant Ioan. Tynnai ei ferched ei goes ynglŷn â phregeth y pysgota.' Yn niwedd ei Bryddest troes y bregeth yn gân. Yn y darn hwn eto fe geir chwilio cymhellion; y cymhellion y tu ôl i'r 'pulpuda, y canu emynau a'r gweddïo ar Dduw. Un cymhelliad oedd yr awydd am grefydd feddal y diletant, y grefydd oedd fel tŷ wedi ei godi ar 'chimera awr iasber llencyndod'; a'r llall oedd yr ymwingo rhag y grefydd galed' (chwedl Pantycelyn yn Theomemphus). Crefydd Abasis oedd y naill a chrefydd San Pedr oedd y llall. Meddai Pantycelyn am Abasis:

Fe gafodd wraig o'r diwedd, ei grefydd ro'dd e' bant,
Ac enw gŵr ddaeth arno, fe gollodd enw sant.

Dymunai'r Pryddestwr fel Abasis gael aros gyda'r teulu a'r tylwyth ac yn y gymdogaeth a chael ysgwyd 'cocktails' yn y parlwr:

Ond gad imi, atolwg, er pob archoll a fai erchyll
gael colli bod yn sant.

Canlynodd Pedr Grist gan adael ar ei ôl y teulu, y tylwyth, y cychod, y rhwydi ac oriau 'iasber llencyndod'. Y gwahaniaeth rhwng Abasis a San Pedr yw'r gwahaniaeth rhwng crefyddolder a Christionogaeth.

Cafodd Pantycelyn yn ein cyfnod ni ac yn ein Cymru ni ddisgybl yn Kitchener Davies. Cerdd yn nhraddodiad Bywyd a Marwolaeth Theomemphus yw Sŵn y Gwynt sy'n Chwythu. Flynyddoedd yn ôl gofynnodd Aneirin Talfan iddo lunio rhaglen nodwedd ar Theomemphus; gofyn iddo foderneiddio Theomemphus, sef ei godi o'r ddeunawfed ganrif a'i blanu yn yr ugeinfed. Ni chafodd hamdden i lunio'r rhaglen nodwedd, ond dyna a wnaeth yn y Bryddest hon. Yn Theomemphus y bennod bwysicaf iddo ef oedd y Chweched, sef Hanes Abasis. 'R oedd crefydd a thynged. Abasis iddo yn argyfwng ac yn dröedigaeth. Y mae i'r Bryddest yr un nodweddion â Theomemphus, sef 'unplygrwydd ymroad', ymholi cïaidd a gonestrwydd caled. Ni ddylid edrych ar y Brydd- est fel cerdd gwbl oddrychol am ei fod yn siarad yn y person cyntaf, gan mai llunio patrwm o sant oedd ei amcan ef, patrwm iddo ef ac i bawb arall. Y mae yn Bywyd a Marwolaeth Theomemphus brofiadau Pantycelyn, ond nid Pantycelyn yw Theomemphus.

Yn y Llethr Ddu, y fynwent gogyfer â'i gartref, y claddwyd penteulu balch, cenedlaetholwr ymdreulgar a Christion uniongred, ond yn ein hiraeth a'n colled dylem ddiolch i'r Gwynt, sef yr Ysbryd Glân, am iddo adael ar ei ôl un o gerddi mwyaf barddoniaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif.

D. GWENALLT JONES.