Saith o Farwnadau/Y Parch William Davies, Castellnedd
← Y Parch H Davies, Penfro | Saith o Farwnadau gan William Williams, Pantycelyn golygwyd gan David Morris, Capel Hendre |
Mrs Grace Price, Watford → |
Y PARCH. WILLIAM DAVIES,
CASTELLNEDD,
Yr hwn a fu farw Awst 17, 1787, yn 60ain mlwydd oed, wedi bod
yn pregethu yr efengyl am 30 mlynedd.
P'AM y mae'r medelwyr bywiog
Yn ffarwelo a'r meusydd ŷd,
Fel pe byddai bro a bryniau
Wedi eu casglu'n gryno nghyd?
P'am y dianc y rhai gwrol,
P'am y rho'nt eu harfau i lawr,
Fel pe byddai wedi darfod
Ddyddiau'r rhyfel yma'n awr?
Pan mae 'redig, hau, a chwynu,
Medu, cludo'r 'sgubau'n dwr,
Heddyw'n llanw bro a blaenau
Brydain, a thu draw i'r dwr;
Pan mae rhyfel yn cynyddu,
Pan mae saethau blin heb ball
O un cwr i'r gwersyll tanbaid
Yn ehedeg draw i'r llall.
De' a Gogledd sydd i'w galw,
Dwyrain a Gorllewin bell;
Ni bydd cwr o'r ddae'r heb glywed
Adsain y newyddion gwell:
Rhaid cael gweithwyr i'r cynauaf,
Mae yn helaeth, mae yn fawr,
Ddalio'r gwres, a ddalio'r lludded,
Ac heb ddodi clun i lawr.
P'am y tynodd angau diried
DDAVIES fwyn oddiwrth ei waith?
Pwy sy i gario mlaen ei ystod
Addfed ar y meusydd maith?
Pwy heb flino, megys yntau,
Ac heb orphwys, gasgla'n nghyd,
Yn ddiachwyn, yn ddiduchan,
Feichiau mawrion trymion ŷd?
Y mae'r nefoedd fawr yn trefnu
Oll fel myno hi ei hun,
Ac nid yw yn gofyn cyngor
Nac i angel, nac i ddyn;
Pethau dirgel, nid i'w chwilio,
Ydyw cyngor Duwdod mawr,
Synu, caru, a rhyfeddu,
Yw dyledswydd llwch y llawr.
Y mae'n drosedd i ni ofyn
P'am 'raeth DAVIES fwyn i'r nef,
P'am mae'n aros yma lawer
Llai defnyddiol nag oedd ef:
Dae'r a nef sy wrth amnaid Duwdod,
Byw a marw sy'n ei law,
Pob dygwyddiad 'gylch y ddaear
Yw ei drefniad yma thraw.
Dyn na chwilied i ddyfnderoedd
Dirgel gwnsel Tri yn Un,
Myrdd o bethau sy ar y ddaear,
P'am, wyr neb ond ef ei hun;
Ni all rheswm dall ei ganfod,
Dim o gamrau'r santaidd dro'd,
Ac ni wêl mo lygad natur
P'am mae pethau'n llyn yn bod,
'Roedd yr awr, y lle, a'r cystudd,
A'r cymdeithion oedd yn nghyd,
Pan y t'rawodd angau DAVIES,
Wedi 'u trefnu cyn bod byd;
Nid oedd physygwriaeth ddynol,
Nid oedd meddyg îs y nef,
Pe buasent fil o filoedd,
Yn abl cadw 'i fywyd ef.
Yn ei rym, ac yn ei hoywder,
Galwyd ffrynd y nef i'r lan:
Trugain mlynedd ar y ddaear
Drefnodd arfaeth idd ei ran;
Yna rhaid oedd iddo newid
Ei berth'nasau, ei ffryns, a'i le,
A rhoi ei gorph i'r ddae'r i gadw
Nes glanhau 'i fudreddi e'.
Castell Nedd, mewn mynwent eang,
'Roedd rhaid iddo lechu 'lawr,
Lle mae dengmil, neu fyrddiynau,
Yn ei gwmp'ni ef yn awr;
Ond fe gwyd wrth lais yr angel,
Bloedd yr udgorn gryna'r byd,
A'i holl lwch, b'le bynag taenir,
Gesglir yno'n gryno'n nghyd.
Ond ei enaid ef esgynodd
Yn llaw seraphim i'r lan,
Ac fe gafodd byrth y ddinas
Yn agored yn y fan;
"Groesaw 'mewn, ti fendigedig,"
Ebe'r Brenin rodd ei wa'd,
"A pherch'noga'r wlad it' roddwyd,
Cyn bod daear gan fy Nhad.
"Ti mewn llafur, ti mewn lludded,
Ti yn eithaf gwres a ga'd;
Swm dy athrawiaethau cywir
Oedd fy iachawdwriaeth rad:
Buost ffyddlawn, buost ddiwyd,
Buost syml, gonest iawn,
Ni w'radwyddaist fy efengyl,
Foreu'th fywyd na phrydnawn.
"Ti ddyoddefaist pan f'ai gwasgfa,
Ac er clywed 'ro'et yn fud,
Ni ddialaist, ac ni thelaist
Ddrwg am ddrwg i neb o'r byd;
Oen diniwed, dystaw, tyner,
Diddadleugar, a distwr,
Yn mhob terfysg a gwrthryfel,
Y llarieiddaf, mwynaf wr.
"Cariad oedd dy fwyd a'th ddiod,
Serchog oedd dy eiriau gyd,
Dy addfwynder sugnodd ysbryd
Rhai o oerion blant y byd;
Treuliaist d' amser mewn ffyddlondeb,
Trwy dy yrfa îs y nen,
Mae dy goron geny'n nghadw.
Heddyw gwisg hi ar dy ben.
"De'st i mewn i wlad o heddwch
Ga'dd ei sylfaen cyn bod byd,
Perffaith gariad a llawenydd
Sydd yma yn teyrnasu gyd;
Ni ddaw tristwch mud a galar,
Poen nac ofn, nac un wae,
I dy flino, canys heddwch
Sy yma fythol yn parhau.
"Ti gei dreulio tragwyddoldeb
Maith diddiwedd yma'n rhad,
Yfed o ffynonau cariad
Dardd o honof fi a 'Nhad;
Edrych, synu, ar ddyfnderoedd
Dwyfol gariad Tri yn Un,
Drefnodd brynu myrdd myrddiynau,
A dy hunan ydoedd un.
"Mil o weithiau darfu it' ofni
Dy bechodau ffiaidd cas,
Ofni gan eu grym a'u nhifer
Na chait fyth i gario'r ma's;
Ond fe'i rhwymwyd hwy mewn cadwyn
Oedd gadarnach na'u holl lid,
Yn yr awr ar ben Calfaria
Bum i farw dros y byd.
"Swm d' euogrwydd a feddyliaist
Ganwaith fod yn fwy na'r ne',
Gym'rais arnaf fi fy hunan,
Ac a delais yn dy le;
Fe foddlonodd nefoedd i mi,
'Nawr mae 'i phyrth hi nos a dydd
Yn llawn agor i'r rhai hyny
Rodd fy Ysbryd i yn rhydd.
"Derbyn bellach d' enw newydd,
Newydd bethau sy yma i gyd,
Fyrdd o weithiau sy'n rhagori
Ar ddim enwau sy'n y byd;
Merch y Brenin mawr anfeidrol,
Dde'st fod felly drwy fy nghlwy',
Priodas-ferch T'wysog bywyd
Fydd dy enw bellach mwy.
"Ti gei aros fil neu ddwyfil
O flynyddau yn fy hedd,
Cyn im' alw'th gorph i fynu,
Sydd yn gorwedd yn y bedd;
Ond pan dêl bydd fel yr haulwen,
Heb un pechod ynddo'n fyw,
Ac fe dderbyn d' enaid canaidd
Bellach fyth ar ddelw Duw."
Dyma'r modd, medd fy nychymyg,
Y croesawyd ef i'r nef,
I blith miloedd o rai perffaith
Ag oedd yn ei 'nabod ef;
Whitfield, Davies fwyn, a Harris,
A phregethwyr gwresog iawn,
Wedi gorphen ar eu llafur
Er y cynar hir brydnawn.
Richard Hughes a welodd yno,
Deithiodd holl fynyddau maith
Arfon arw, a Meirionydd,
Flint, a Dinbych lawer gwaith;
Ac amgylchodd dir y Deheu
Gydag awel bur y nef,
Fel dyn addfed i'r wlad nefol,
'Chydig cyn ei symud ef.
Pecwel[1] yntau a'i croesawodd,
Wr ffyddlona' erioed a ga'd,
Newydd fyn'd, a newydd ddysgu
Pur ganiadau'r nefol wlad;
Wedi gadael Llundain boblog,
Dengmil ynddi'n athrist iawn,
Heb un gobaith mwy o'i glywed
Fyth, na boreu na phrydnawn.
Deugain agos o bregethwyr
Oedd e'n 'nabod yn y nef,
Ac fu'n seinio'r jubil hyfryd
Yn ei ddyddiau byrion ef,
Oll a'u t'lynau aur yn canu
Yr un mesur a'r un gân,
Ag a ganodd y côr nefol
I'r bugeiliaid gwych o'r bla'n.
Fe gyfarfu â gwragedd serchog,
Cywir, diwair, fu'n y byd
Yn famaethod pur i'r eglwys,
Yno yn molianu'n nghyd;
Mrs. Watkins, Pal o'r D'ryslwyn,
Prisi yn eu plith hwy gaed,
Wedi cànu eu mantelli,
Fel yr eira, yn y gwaed.
Fy nychymyg sydd yn haeru
Iddo weled maes o law,
Yn mhlith myrddiwn pur o wragedd,
Hoff Jane Jones o'r Bala draw,
Wedi derbyn myrdd o wobrau,
Am y myrdd o seigiau llawn
Rodd hi i'r pregethwyr ffyddlon
Oedd yn passo foreu a nawn.
Chwe chant leia' oedd hi'n fwyda,
Bob rhyw Gymdeithasfa fawr,
Gwyr a gwragedd, meibion, merched,
Llanw'r lloft, a llanw'r llawr;
Aeth ei chariad a'i helusen
Yn finteioedd ar ei hol,
Ac fe gym'rodd y côr nefol
Hi a hwythau yn eu côl.
Ac mae heddyw yn ffieiddio
Dim ymddiried dirgel fu
Ganddi ar ei holl haelioni
I bwrcasu gwobr fry;
Dim ond Iesu sy'n ei meddwl,
Duw yn dyoddef aeth a'i bryd,
Cariad, heddwch, a llawenydd,
Sy'n ei llanw'n awr i gyd.
D'wed fy ffansi bod hi'n erfyn
Tros ei phriod sy'n y byd,
Os prioda, i gael mamaeth
Fo i'r eglwysi'n famaeth glyd;
Addfwyn, isel, ostyngedig,
Wnelo o'i feddianau'n ffri,
Fel derbyniont hwynt eill deuoedd
Yno mewn i'r man mae hi.
Fe ga'dd weled yno Abra'm,
Wr ffyddlona' gaed erio'd,
Isaac, unwaith fu ar yr allor,
Yn etifedd oedd i fod;
Jacob a orchfygodd angel,
Joseph fu'n y pydew 'lawr,
Hwy a'u hil grediniol ffyddlon,
'Nawr o fewn y ddinas fawr.
Fe ga'dd weled mil o filoedd
O ferthyron c'lonog hy',
Aeth drwy ddyoddefiadau mawrion,
Ar eu taith i'r nefoedd fry;
Maith, amrywiol, oedd eu poenau,
Concwerasant oll drwy ffydd,
Y maent yno heddyw'n canu,
Wedi myn'd yn hollol rydd.
Fe ga'dd weled Paul lafurus,
Lanwodd 'byd â'i 'fengyl bur;
Ioan garodd Iesu'n fwyaf,
Pan oedd yn yr anial dir;
Fe ga'dd weled Pedr g'lonog,
Taran annghrediniol rai;
Ac Apolos, pan y plenid
Efengyl, fyddai'n dyfrhau.
Fe gaidd weled Mrs. Edward,
O Abermeirig gynhes glyd,
A wnaeth ddefnydd o'i thalentau,
Hyd yr eithaf, yn y byd;
Am ei rhyfedd garedigrwydd,
A lletya myrdd o saint,
Yno'n derbyn mawr ogoniant,
Nad oes neb fynega ei faint.
Ffynon bywyd oedd hi'n yfed,
Heb ddim tristwch heb ddim poen,
Cariad dwyfol annhraethadwy
Duw a'r croeshoeliedig Oen;
Treulio deng mil o flynyddau,
Mawrion meithion gyda ni,
Megys mynud fach yw hyny
Heddyw yn ei chyfrif hi.
Ac ni chym'rai India'r Dwyrain
A'r Gorllewin fawr, am dd'od
Yma i'r ddaear, lle mae satan
A'i bicellau tân yn bod;
Colli'r presenoldeb dwyfol,
Ddim ond haner mynud awr,
Fyddai'n golled gan yr addfwyn,
Fwy na cholli'r ddaear fawr.
Ond rhyfeddu'r ydwyf bellach,
P'odd 'rym ni'n cael aros c'yd
Yn yr anial mae gelynion
Yn byddino'n dorf yn nghyd;
Myrdd o demtasiynau tanllyd,
A'r rhai'n beunydd yn parhau,
A phob rhwyd a myrdd o edau,
Uffern ddwfwn yn eu gwau.
Eto rhaid in' aros gronyn,
I hela praidd o'u tyllau maes,
Rhaid pysgota'r llynoedd dyfnion,
Y mae'r rhwydau eto'n llaes;
Mae'n rhaid chwilio â lanterni
Holl gornelau Cymru lawn,
I gael allan briod Iesu,
O lochesau dyrys iawn.
Er in' golli DAVIES ffyddlon,
Cyfyd Duw saith yn ei le,
Ag arweinia gaethion Babel
Yn finteioedd maith i dre';
Y cloff, y dall, a'r feichiog ofnus,
Hi sy'n esgor ar unwaith,
Ddylyn troed bugeiliaid c'lonog,
Trwy'r anialwch dyrys maith.
Mae'r Deheudir fawr yn feichiog,
Hi gaiff esgor yn y man,
Rhaid bydwragedd, rhaid mamaethod
I ymgeleddu'r epil gwan;
Pâr y nef i'r ddaear dyfu,
Rhaid crymanau 'fedi'r ŷd,
Rhaid bugeiliaid gwych i'w gadw,
Cludwyr da i'w gasglu'n nghyd.
Mae'r athrawon sy'n amgylchu
Cymru, yn eu rhwysg a'u grym,
Gan y gwres, y chwys, a'r lludded,
Bron a threulio eu nerth yn ddim;
Rhaid cael bechgyn gwrol bellach,
Wedi eu gwneyd o loyw bres,
Allo ddyodde'r rhew a'r eira,
Gwyntoedd 'stormus, tarth a gwres.
Mi debygwn 'mod i'n clywed
Pur ganiadau'r addfwyn O'n,
O Plinlimon faith ei sylfaen,
I Gaergybi draw yn Môn;
Y mae adsain fwyn Calfaria
Tros y Wyddfa wen ei brig,
I ni'n tystio nad yw'n Harglwydd
Ddim wrth Wynedd heddyw'n ddig.
Na alerwch mwy am DDAVIES,
Ond dihatrwch at eich gwaith,
Y mae'r meusydd mawr yn wynion,
Mae llafurwaith Duw yn faith;
Pob un bellach at ei arfau,
Aml yw talentau'r nef,
Sawl sy'n ffyddlon gaiff ei dalu
Ar ei ganfed ganddo ef.
Doed i wared i'r Deheudir
Ddoniau Gwynedd fel yn lli',
Aed torfeydd o dir y Dehau
Trwy Feirionydd fynu fry;
Fel bo cymysg ddoniau nefol
Yn rhoi'r gwleddoedd yn fwy llawn, '
Falau a photelau llawnion,
O las foreu hyd brydnawn.
'Rwy'n rhoi cynghor byr i'w briod.
Gafodd golled uwch ei ffydd,
'Mofyn rhagor o gyfeillach
Pur â'r Iesu mawr bob dydd;
Fyth ni sugna laeth yr eglwys,
Trwy un moddion îs y ne',
Ond drwy aros mewn cymundeb
Glân nefolaidd âg efe.
Nodiadau
[golygu]- ↑ H. Pecwel, D.D., Ficar Bloxham, Sir Lincoln.