Salm i Famon a Marwnad Grey/Salm i Famon III

Oddi ar Wicidestun
Salm i Famon II Salm i Famon a Marwnad Grey

gan John Morris-Jones

Marwnad Grey

III.

Dy gymydog," eb Nebun,
"Geri fel tydi dy hun."
Breuddwydwr a bardd ydoedd,
A rhyw wyllt ddychmygwr oedd,
Ar fyr, "anymarferol"—
Nid un hawdd rhodio'n ei ôl.

Ond am efengyl Mamon,
Mor hollol wahanol hon!
Mor fawr, mor "ymarferol";
Nid an—hawdd rhodio'n ei hôl.

"Pawb ei siawns" gysurlawn sydd
Ddigrifiaith ei hardd grefydd:
O chei fantais, ti dreisi;
Os methi, trengi—wyt rydd!

"Trecha' treisied,
"Gwanna' gwaedded," gain egwyddor;
Ni ddaw iti,
Oni threisi, aur na thrysor.

Rhyddid i bawb a rodier—yw rheol
Ei athrawon tyner;
Yn eu cain iaith datganer
Y ddilys ffydd—laissez faire!

Rhodder i eiddo ryddid—i elwa
Lle gwŷl angenoctid;
Ac i'r tlawd, O, pob siawns bid—
Iawnach, callach nis gellid.

Cafwyd athrawiaeth gyfiawn—
Seinied pob sant "pawb ei siawns!"
Rhyfeddod o adnod yw,
Athrawiaeth odiaeth ydyw.

Athrawiaeth iachus, a grymusaf
Er dwyn y gweithiwr dan iau gaethaf,
A thwyllo llibin werin araf
O ffrwyth ei llafur a'i chur chwerwaf,—
Canys dyna'r hawddgaraf—alluoedd
A ddwg ei filoedd i gyfalaf.

O dduw cyfoeth, doeth wyt ti;
On'd oedd elwach d'addoli?
Ac nid duw dig, eiddig wyd;
Duw odiaeth haelfryd ydwyd.
Yn lle cenfigen y Llall,
Ti ni ddori Dduw arall.
Dywaid y Llall heb dewi—
"Nid cyson Mamon â Mi":
Tithau, "Y gorau i gyd,
Yn ddifai, gwnewch o'r ddeufyd."
O dduw gwych, bonheddig wyt,
Caredig—gorau ydwyt.

Onid hawdd it ei oddef,
A gwenhieithio iddo Ef?
Ac onid hoff gennyt ti
I ddyliaid ei addoli?
Da odiaeth i'th benaethiaid
Weled coel y taeog haid;

Gado'r ffydd i gyd i'r ffŵl,
A da fydd i'r difeddwl;
A bryd calon dynion doeth,
Ti a'i cefaist, duw cyfoeth.

Pa raid malio fod Prydain
Ar y Sul, â syberw sain,
Yn rhyw ffugiol addoli
Y Gelyn sy'n d'erlyn di?

Pob ffalster rhodder iddo,-neu salmau
Ac emynau mwynion;
Beth yw i ti byth eu tôn?
Gwelaist pwy piau'r galon.

A thi dy hun, ddoeth dduw da,
Hoff gennyt y ffug yna;
Byddi'n ei ffugiol foli
Yn dy deg adnodau di:
"Pob un drosto'i hun," yna-
Ba beth?" Duw dros bawb! " A ha!
Ni wybu llofrudd Abel
Mo'r ffordd i'w glymu mor ffel.

O mor ddoeth, a choeth, a chall,
D'eiriau am y Duw arall;
Nid ffrochi gan genfigen,
Na, "Duw dros bawb,"-Da dros ben.

Llwyr hawdd y gellir addef,
Wyt gryfach, gallach nag Ef.

Yn gyfrwys i'w eglwysi,
Yn ddistaw iawn treiddiaist ti;
Ni thynnaist yn wrthwyneb,
Ond yn gu, na wybu neb,
Cynhyddaist, gan ei oddef,
Onis di—feddiennaist Ef.

Yna troaisti weini trefn.
Yn ddidrwst ar ei ddodrefn:
Rhoist y rhain "ar osod" draw—
Am arian y mae'u huriaw;
Wrth rif y'u trethir hefyd,
Fel siopau, neu bethau'r byd.
Os oedd dewisol seddau,
Fe'u rhoist oll i'th ffafrweis tau;
I dorf o'th ddeiliaid eurfawr
Y mynnaist fainc mewn sêt fawr;
Yna'i dlodion Ef hefyd,
O'th ras, a gafas i gyd
Ryw gonglau a seddau sydd
Oerach gwaelach na'i gilydd.

I gyd? Na; mewn gwŷd yn gwau,
Mae rhai is, mawr eu heisiau,
Heb ran na chyfran ychwaith
Yn ei delaid adeilwaith.
O fewn i'w glaer drigfan gled,
Pa fan i garpiau fyned?

Y Gŵr a ddaeth i gyrrau
Rheidusa 'rioed i'w sarhau,

Yn wr tlawd gyda'r tlodion,
Ar ei hynt trwy'r ddaear hon,
I ddwyn newyddion iddynt.
O obaith gwell i'w bath gynt,—
Erbyn hyn, i'r rhai hynny,
Wele nid oes le'n ei dŷ.

Y frwydr fawr i'w dir Ef aeth,
A chefaist oruchafiaeth!
Wele un o'i ganlynwyr,
Un o'r deuddeg, wiwdeg wŷr,
Yn dyfod i'w draddodi,
O fawr chwant dy ariant di:
Fe'i gwerthodd er rhodd o'r rhain,
Rhyw hygar ddeg ar hugain!

Ti enillaist yn hollol,
A'i wyrda Ef aeth ar d'ôl.
Onid dinod bysgodwyr
A rifai Ef yn brif wŷr?
Rhoddaist o'th drysor iddynt
Radau gwell na'u rhwydi gynt;
A phrifiodd, drwy dy roddiad,
Y rheini'n arglwyddi gwlad;
Yn y Senedd eisteddant,
A thrawster noeth a rhwystr wnânt,—
Dilynwyr pysgodwyr gynt,
Goludog lywiau ydynt.

Gwir, rhaid i gurad gwirion—fyw'n o fain
Ei fyd, ar ryw loffion;
Ond hynny sydd (tawn a sôn!)—er amlhau
Braisg wobr o sgubau i'r esgobion.


Be gwneid i bob gweinidog—yn ei dŷ
Fod o'r da'n gyfrannog,
Ystyr pwy o'i holl wŷr llog
A ai fyth yn gyfoethog!

Nid dyna mo ddull Mamon;—y dull yw
Bod llawer yn dlodion,
I'r chydig etholedigion—fyw'n wych,
Yn uchel degwch oludogion.

Ond Iesu, ceisio lluoedd
I wych stad mawrhad yr oedd;
Dyfod a wnaeth i'w codi
O dlodi i oludoedd.

I'w rhoi'n fonheddig ddigoll
Ei dda'i Hun a wariodd oll.

Ond pa ryw ddrud oludoedd,
Pa ryw eiddo iddo oedd?
Iddo nid oedd ond ei wan,
Ei wael anadl ei Hunan.

A'r Gŵr ei Hun ar y groes,—ynghanol
Ing enaid a chwerwloes,
Yn ddewr a rhydd, wir, y rhoes
Ei hoedl, anadl ei einioes.

Yr eiddo oll a roddes,
Ie'n hael iawn; ond pa les?
Wedi'i ddiarbed ddirboen,
I ba beth y bu ei boen?


Be delai i̇'r byd eilwaith,
A cheisio gweithio'r un gwaith;
Annerch uchelwr gwrol
A lleferydd ei ffydd ffôl:
Gwerth bob rheufedd a feddi
Yn y fan, a chanlyn fi."
Haws i'r camel bwrnelaidd
Yrru naid drwy grau nodwydd.
Nag i ŵr ag aur gyrraedd
I nwyfiant teyrnas nefoedd."

A chyfarch clerigol urddasolion—
"Chwi ragrithwyr, twyllwyr, ffyliaid, deillion,
Cadw rhyw ffurfiau, defodau ynfydion,
Llu o fân wyliau, a'ch holl fanylion,
A gadaw'r pethau mawrion—bendigaid—
Rhannu i weiniaid, gwneuthur barn union.

Ni laddasech chwi'r proffwydi gwirion?
O, ragrithwyr, twyllwyr, ffyliaid, deillion,
Dywedaf, chwai'r haeraf, mai chwi'r awron
Ydyw cywir hil eu lleiddiaid creulon,
Ufuddaf etifeddion—i'ch tadau,
Ac i'w traddodiadau hwythau weithion."

Och! bwy a'i hachubai Ef?
Oni haeddai ddioddef?

Pa esgob coeth cyfoethog—a drôi draw
Drem o'i esmwythbluog
Gerbyd glanwedd mawreddog
Tua rhyw Grist ar ei grôg?


Diau y dywedai, "Adyn
Anfoddog, diog, yw'r dyn;
Ar ei barabl yn cablu—
Cablwr a therfysgwr fu;
Drwy wydiau chwyldroadol
Rhedai rhyw haid ar ei ôl;
Da gweled gwayw a hoelion
Fyth i daro'i fath,—Drive on!"

Y frwydr fawr i'w dir Ef aeth,
A chefaist oruchafiaeth.

Ti'n uchaf a ddyrchafwyd,—a'th gryfion.
Alon a ddymchwelwyd,
A duw drud a hydr ydwyd—
Diau, duw y duwiau wyd.

I Famon fawr f'emyn fydd;
Yn fore dof, wawr y dydd,
Cludaf ei wiwdeg glodydd.

Ac eto, eto, beth ytwyd?—Mamon,
Mae imi ryw arswyd,—
Er o druth a daer draethwyd,
A'm hodlau oll,—mai diawl wyd.


Nodiadau[golygu]