Seren Tan Gwmwl/Esgobion ac Offeiriaid
← Y Senedd Gyffredin | Seren Tan Gwmwl gan John Jones (Jac Glan y Gors) |
America a Ffrainc → |
Esgobion ac Offeiriaid
Bellach daliaf ychydig sylw ar y pethau rhyfeddaf ag sydd yn perthyn i lywodraeth Lloegr.
Yn gyntaf, peth rhyfedd fod y cyffredin yn
gorfod talu myrddiwn o bunnau yn y flwyddyn i
gadw un dyn. Ni ddichon un dyn fwyta, nac
yfed na gwisgo mo werth y ganfed ran o'r arian.
Yn ail, peth rhyfedd i ddyn a fo'n cadw gwraig
a phlant yn lân ac yn drefnus, ac yn ennill dim
ond pum swllt neu chwech yn yr wythnos feddwl
fod Tywysog Cymru wedi rhedeg i filoedd o ddyled
er ei fod e'n cael ychwaneg na phedwar cant o
bunnau yn ddyddiol at ei gadw.
Ond y peth rhyfeddaf a glybuwyd erioed ymhlith pobl wylltion ddi-gred, ragor Cristnogion, fod pedwar esgob yn cael taledigaeth fawr am gymryd arnynt bregethu i bobl, na fedr yr esgob ddarllen mo'i bader yn eu hiaith hwy; ac er nad ydyw'r esgob yn deall mo iaith y bobl, na'r bobl iaith yr esgob, mae e'n deall pa fodd i dderbyn eu harian hwy; ac wrth hynny yn tylodi'r wlad, ac yn cadw'r bobl mewn tywyllwch o anwybodaeth, oherwydd mi wnai'r arian yr ydys yn ei dalu at gadw esgobion ac offeiriadau ag sydd yn gweled yn ormod poen ddarllen a phregethu eu hunain lawer mwy o les o'u rhoi'n dâl am ddysg plant dlodion Cymru; pa rai sy'r awrhon yn cael eu cadw mewn cwmwl o anwybodaeth i weithio ac i ymboeni i gadw estron genedl.
Mae'n gywilydd i foneddigion ac offeiriadau Cymru na fyddent yn barod i gynhyddu ac i gynorthwyo ysgolion Cymraeg er mwyn plant y Cymry uniaith; ond am un a fo'n barod i ddysgu ac i gynhyddu gwybodaeth, mae deg o offeiriadau na fynnant ddim sôn am y fath beth; ac ambell gecryn o offeiriad dideimlad yn erbyn rhoi eglwys ei blwyf i ryw ddynan synhwyrol dysgedig, yn ddiddos iddo i ddysgu plant ddarllen ac ysgrifennu Cymraeg, fel y gallont gael ychydig o wybodaeth pa fodd i ymddwyn yma ar y ddaear, ac i ymbaratoi erbyn myned oddi yma.
Pan fo cyfraith yn cael ei gwneud i godi arian i gadw pobl am gymryd arnynt hyrddu rhyw grefydd i'r byd mae'n eglur ddigon mai arian ydyw'r erthygl gyntaf yn y grefydd honno. Ni fu erioed, ac nid oes yr awr hon, ac ni fydd byth, na phab, na brenin, nac esgob, nag offeiriedyn a fedrant sefydlu rhyw grefydd i barhau am byth, nag i ddyfod a dynolryw i'r un feddwl, er iddynt (i ddangos gwychder eu crefydd eu hunain) ladd a llosgi, a thynnu eu cydgreaduriaid yn aelodau i geisio gwneuthur hynny; a chwedi iddynt fethu, darfynt gymryd ffordd weddeiddiach, a gadael i bawb gael rhyddid cydwybod i addoli wrth eu meddyliau eu hunain.
Ond yn amser y diwygiad, mi gymerodd yr esgobion hynod o ofal rhag diwygio'r gyfraith a oedd mewn grym i godi tâl iddynt hwy oddi ar bob dull o grefyddwyr yn y deyrnas; a thrwy nerth y gyfraith uchod mae esgobion ac offeiriadau yn cael lle i lechu yng nghysgod darnau o hen furiau gwaedlyd eglwys Rhufain; pa rai y mae mellt cyfiawnder a tharanau arfau rhyddid yn barod i ddryllio eu sylfaenau hwy, ac i'w chwalu yn chwilfriw.
Ond i ddal ychydig sylw ymhellach ar grefyddau enwedigol. Os cymerwch chwi farn pob un am ei grefydd ei hun, mae pob crefydd yn ei lle; ond os cymerwch chwi farn y naill grefydd am y llall, nid oes yr un grefydd yn ei lle; felly, yn ôl barn crefyddwyr am danynt eu hunain, mae crefyddau yr holl fyd yn eu lle; ac yn ôl barn y naill am y llall nid oes un grefydd yn y byd yn ei lle.
Ond ym mherthynas i grefydd ei hun, a gadael yr enwau o'r neilltu, fel ped fai holl deulu dynolryw yn hyfforddi eu meddyliau i wrthrych pob addoliad, dyn yn tywallt ffrwythau ei galon o flaen ei greawdwr ydyw crefydd, ac er ei bod yn rhagori fel ffrwythau'r ddaear, gallant i gyd fod yn dderbyniol gan awdur y byd. Ni bydd esgob ddim yn gwrthod ysgub o wenith o eisiau ei bod hi'n fwdwl o wair, na mwdwl gwair o eisiau ei fod yn ysgub wenith, nac oen oherwydd nad ydyw yr un o'r ddau; eto nid yw'r difynydd yma ddim yn fodlon i'r Hollalluog dderbyn ffrwythau calon dyn trwy amrywiol ddull o addoliad.