Marwnad Siôn Eos

Oddi ar Wicidestun
(Ailgyfeiriad o Siôn Eos)

gan Dafydd ab Edmwnd

Drwg i neb a drigo’ n ôi
cost am un cas damweiniol;
y drwg lleia o’r drygwaith
yn orau oll yn yr iaith.
O wŷr, pam na bai orau,
o lleddid un na lladd dau?
Dwyn ein gelynwaed a wnaeth,
dial ein dwy elyniaeth.
Oedd oer ladd y ddeuwr lân
heb achos ond un bychan
Er briwio’r gŵr, heb air gwad,
o’I farw ni bu fwriad.
Yr oedd y diffyg ar rai
am adladd mewn siawns medlai;
ymrysonam yr oesau
a’r ing a ddaeth rhwng y ddau.
Odd yna lladd y naill ŵr
a’i ddial, lladd y ddeuwr.
Y corff deros y corff os caid,
yr iawn oedd well i’r enaid.
Oedd, wedi, addedidion,
ei bwys o aur er byw Siôn.
Sorrais wrth gyfraith sarrug;
Swydd y Waun Eos a ddug.
Y swydd, pam na roit dan sêl
i’th Eos gyfraith Hywel?
Ar hwn wedi cael o rhain
ffrwythlonder cyfraith Lundain,
ni mynnen am ei einioes
noethu crair na thorri croes.
Y gŵr oedd dad y gerrd dant
yn oeswr ni barnasant;
dueddeg yn un oeddyn,
Duw deg, ar fywyd y dyn.
Wedi Siôn nid oes synnwyr
aa i gerdd na dyn a’i gŵyr;
torres braich tŵr eos brig,
torred mesur troed miwsig,
torred ysgol tŷ’r desgant,
torred dysg fal torri tant.
Oes mwyr ehwng Eaus a Môn
o’r dysg abl i’r disgyblion?
Rheinallt nis gŵyr ei hunan,
rhan gŵr er hynny a gân.
Fe aeth dy gymar yn fud,
yn dortwll delyn Deirtud.
Ti y sy’n twei â sôn,
telyn aur y telynorion.
Bu’n dwyn dan bob ewin dant,
bysedd llef gŵr neu basdant;
myfyrdawd rhwng bawd a bys,
main a thebl mwyn â thribys.
Oes dyn wedi’r Eos deg
yn gystal a gân gosteg
a phrofiad neu ganiad gŵr,
a chwlwm ger bron uchelwr?
Pwy’r awron mewn puroriaeth,
pe na bai a wnâi, a wnaeth?
Ag atgas ni wn gytgerdd,
eisieu gwawd eos y gerrd.
nid oes nac angel na dyn
nad ŵyl pan gano delyn.
Och henu rhag ei chanu,
wedi’r farn ar awdur fu.
Eu barn ym mhoreth nef ni bydd,
Wŷr y Waun, ar awenydd.
Os iawn farn a fu arno,
yr un farn aenyn a fo.
fô a gaiff ei fywyd,
nid o’u barn newidio byd.
Oes fy nyn y sy yn nos,
oes fy Nuw i Siôn Eos!