Siom Serch (Mynyddog)

Oddi ar Wicidestun
Daeth ef i geisio denu’r ferch,
A phlannu’i galon yn ei bron;
Cyn iddi ddysgu pwyso serch,
Fe ddysgodd garu’r llencyn llon;
Aeth ef a’r lili dyner, wen,
Oedd ar ei bron, angyles ne,
A phlannai’n ol ar galon Gwen
Hardd rosyn cariad yn ei lle.


Rhodd iddo’r cyfan feddai’n awr,
Ei geiriau mêl a’i gwenau drud,
Rhodd iddo hefyd galon fawr
Yn llawn o gariad byw i gyd;
Cydwylai hi fel gwlith y nef
Pan wylai ef o dan ryw gur,
A chwarddai pan y chwarddai ef,
A’r cyfan er mwyn cariad pur.


Ond oerodd bron y llanc cyn hir,
Ac ymaith aeth gan adael hon,
Heb feddwl fawr fel treiddiai cur
Fel saeth i lawr i’w gwaedlyd fron;
Diangai gobaith têg ei wawr
’Run fath a’r lili oddiar y ferch,
Gan adael iddi hi yn awr
Wywedig ros twyllodrus serch.