Neidio i'r cynnwys

Storïau o Hanes Cymru cyf I/Caradog

Oddi ar Wicidestun
Dechrau Byw yng Nghymru Storïau o Hanes Cymru cyf I

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

Buddug

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Caradog
ar Wicipedia





2.
Caradog.
Brenin o flaen Brenin.

1. Bu'r Hen Gymry'n byw am amser hir gyda'i gilydd yn y wlad hon cyn i neb arall ddyfod atynt.

2. Yn ystod yr amser hwn daethant i wybod mwy ac i fyw'n well.

3. Clywodd pobl eraill am y wlad hon, ac am y tir da a'r copr a'r alcam a oedd ynddi.

4. Daeth awydd ar rai ohonynt ddyfod yma i fyw. Ond yr oedd y Cymry'n caru eu gwlad, ac ni fynnent i neb arall ei chael.

5. Yr oedd pobl ddewr iawn yn byw yn Rhufain. Daethant hwy yma tua dwy fil o flynyddoedd yn ôl.

6. Ond yr oedd pobl ddewr yn byw yng Nghymru hefyd. Caradog oedd yn ben arnynt yr amser hwnnw.

7. Bu raid i bobl Rhufain ymladd yn galed ac yn hir cyn cael aros yn y wlad. Y Cymry oedd y dewraf, ond pobl Rhufain a wyddai orau sut i ymladd.

8. Er hynny, yr oedd Caradog a'i lu yn drech na hwy o hyd.

9. "Y mae'r Caradog yna," meddent, yn ddigon i beri ofn ar bob milwr o Rufain."

10. "Pe caem ef o'r ffordd, ni byddem yn hir cyn cael y wlad hon yn eiddo i ni."

11. Daeth hynny i ben cyn hir. Ar ôl brwydr galed, collodd Caradog y dydd. Aeth i ddwylo'r gelyn.

12. Aed ag ef, a'i wraig a'i ferch i Rufain bell, mewn cadwynau. Bu raid iddynt gerdded drwy brif heol y ddinas fawr, er mwyn i bawb eu gweld.

13. "Dacw Caradog, a fu'n ymladd mor hir yn erbyn Rhufain," ebr un. "Y mae mor ben-uchel ag erioed, ebr un arall.

14. "Caiff dalu am ei falchter," ebr un arall. "Yn wir, un dewr ydyw. Nid oes ofn dim na neb arno," ebr un arall.

15. Yna aed â hwy o flaen yr ymherodr. Aeth pob un ar ei lin ond Caradog. Safai ef yn syth.

16. "Dos ar dy lin o'm blaen," ebe'r ymherodr. "Na wnaf byth," ebe Caradog. "Brenin wyf fi fel tithau." "Cei dy ladd yn awr, oni phlygi," ebe'r ymherodr.

17. "Yr wyt wedi dwyn fy ngwlad oddi arnaf, a gelli fy lladd, ond ni wnei i mi blygu i ti," ebe Caradog. 18. "Allan ag ef i'w ladd!" ebe'r dyrfa, ac edrych yn wyllt ar y Cymro dewr.

19. "Os lleddi fi," ebe Caradog, "ni bydd hynny fawr o glod i ti, ond os cedwi fi'n fyw, a minnau heb blygu i ti, cei glod am hynny gan bawb am byth.

20. "Ni ellir lladd dyn mor ddewr â hwn," ebe'r ymherodr. "Brenin yw, yn wir. Datodwch ei gadwynau. Caiff ef a'i deulu fod yn rhydd."

21. Yn Rhufain y bu ef a'i wraig a'i ferch yn byw ar ôl hyn. Ni chafodd Caradog eto weld ei wlad ei hun.

22. Ond nid anghofiodd Gymru. Nid yw Cymru wedi ei anghofio yntau.

CARADOG YN RHUFAIN

Nodiadau[golygu]