Storïau o Hanes Cymru cyf I/Gwilym Hiraethog

Oddi ar Wicidestun
Ieuan Gwynedd Storïau o Hanes Cymru cyf I

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

Hugh Owen

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
William Rees (Gwilym Hiraethog)
ar Wicipedia






GWILYM HIRAETHOG

20.
Gwilym Hiraethog.
Codi'r Werin.

1. Yr oedd bachgen o Gymro'n edrych ar ôl defaid ei dad ar un o fryniau Cymru.

2. Dim ond y defaid, a'i gi Tango, oedd ei gwmni bob dydd o'r bore bach tan nos.

3. Yr oedd yno un ddafad ungorn yn rhoi tipyn o waith iddo ef a'i gi, ond, er hynny, câi ddigon o amser i feddwl.

4. Am ba beth yr oedd y llanc yn meddwl ar hyd y dydd hir? Am fyw i wneud gwaith mawr dros Gymru. Ni wyddai eto pa waith oedd hwnnw i fod.

5. Daeth i wybod yn fuan iawn. Daeth Cymru a'r byd i wybod hefyd. Y llanc hwnnw oedd William Rees—Gwilym Hiraethog.

6. Yn 1802 y ganed ef. Nid oedd eisiau neb i ymladd dros Gymru â'r bwa neu â'r cleddyf erbyn hyn.

7. Pa beth oedd angen Cymru'r pryd hwnnw? Yr oedd eisiau deffro'r bobl, a'u dysgu i feddwl drostynt eu hunain.

8. Saesneg oedd iaith pob papur newydd oedd yng Nghymru. Nid llawer o Gymry'r pryd hwnnw oedd yn deall Saesneg, felly ni wyddent beth oedd yn mynd ymlaen yn y byd.

9. Caent eu cadw ar lawr a chaent lawer o gam gan rai oedd yn gwybod mwy na hwy. Helpu'r bobl oedd ar lawr a fu gwaith mawr Gwilym Hiraethog.

10. Nid rhoi arian iddynt a wnaeth, ac nid dysgu Saesneg iddynt. Rhoddodd bapur newydd iddynt yn eu hiaith eu hunain.

11. Gallent ddarllen hwn, ac yn fuan iawn daethant i wybod llawer am y byd. Daethant i ddeall popeth yn well.

12. Ar ôl hyn nid oedd mor hawdd i'r rhai oedd uwchlaw iddynt wneud cam â hwy fel o'r blaen.

13. Daeth y llanc o fugail yn ddyn enwog iawn. Yr oedd pawb yn ei barchu am ei fod yn rhoi ei holl amser i helpu codi ei gyd-genedl.

14. Gweithiodd yn galed heb gael llawer o dâl gan neb am hynny. Y tâl gorau iddo ef oedd gweld y Cymry'n dyfod yn bobl effro a deallus, i feddwl a barnu drostynt eu hunain.

15. Nid dros ei genedl ei hun yn unig y gweithiai. Câi pawb o dan orthrwm, mewn unrhyw wlad, ei sylw a'i help.

16. Tynnodd ei lyfrau a'i ysgrifau sylw rhai o bobl orau'r byd. Aeth ei ddylanwad ymhell tuhwnt i Gymru.

17. Yr oedd yn bregethwr mawr hefyd, ac yn un o feirdd mwyaf ei oes.

18. Yr oedd beirdd yr amser hwnnw'n aml yn rhoi enw arall, neu ffug-enw, arnynt eu hunain.

19. Ffug-enw William Rees oedd Gwilym Hiraethog, am mai ar fynydd Hiraethog y bu gynt yn bugeilio'r defaid. "Yr Amserau" oedd enw ei bapur.

Nodiadau[golygu]