Storïau o Hanes Cymru cyf I/Llywelyn, ein Llyw Olaf

Oddi ar Wicidestun
Yr Arglwydd Rhys Storïau o Hanes Cymru cyf I

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

Owen Glyn Dŵr

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Llywelyn ap Gruffudd
ar Wicipedia





OGOF LLYWELYN

9.
Llywelyn, ein Llyw Olaf.
"Gwell Angau na Chywilydd."

1. Yr oedd y Cymry yma o flaen y Rhufeiniaid, o flaen y Saeson, o flaen y Normaniaid.

2. Er iddynt ymladd yn galed, gyrrwyd hwy, o gam i gam, o flaen y gelyn, i gwr pell o'r Ynys, i Gymru.

3. Cadw y rhan hon o'r wlad iddynt eu hunain oedd eu hamcan mwy. Er mwyn hynny y brwydrodd eu dewrion oes ar ôl oes.

4. Rhai o'r un gwaed â hwy oedd eu Tywysogion. Ni fynnent estron i lywodraethu arnynt.

5. Ond yr oedd un bai amlwg ar y Cymry erioed; yr oeddynt yn rhy hoff o ymladd â'i gilydd, yn lle sefyll fel un gŵr o flaen y gelyn.

6. Pan oedd Edwart y Cyntaf yn frenin Lloegr, bu y rhyfel rhwng y Saeson a'r Cymry yn boethach nag erioed.

7. Llywelyn ap Gruffydd oedd Tywysog y Cymry'r amser hwn. Dyn dewr iawn oedd ef, a mawr ei barch gan ei bobl.

8. Yr oedd llu o filwyr gan frenin Lloegr, ond bu raid iddo ymladd am amser hir cyn concro'r Cymry.

9. Pan oedd Dafydd ei frawd yn arwain y fyddin yn y Gogledd, aeth Llywelyn a'i wŷr i'r De i ymosod ar ei elynion yno.

10. Ar ei ffordd yn ôl daeth at Afon Irfon, gerllaw Llanfair ym Muallt. Yr oedd castell Norman yn y dref honno.

11. Gadawodd Llywelyn ei wŷr wrth Bont Orewyn, ac aeth ef a'i was ar ryw neges i'r cwm yr ochr arall i'r afon.

12. Daeth byddin y Norman at y bont. Ofer a fu eu cais i'w chroesi.

13. Yna aeth rhai ohonynt yn nes i lawr, lle'r oedd rhyd. Aethant drosodd i'r lan arall.

14. Daethant at y ddau Gymro yn y cwm. Lladdwyd y gwas ar unwaith. Yr oedd Llywelyn wedi dechrau ei ffordd yn ôl at y bont, ond yr oedd ceffyl y Norman yn gynt nag ef.

15. Trywanodd y marchog ef, a'i adael yno i farw.

16. Ymhen oriau ar ôl hynny, y gwelwyd mai Llywelyn, Tywysog Cymru, oedd yr un a laddesid felly.

17. Ar yr unfed dydd ar ddeg o Ragfyr, 1282, y bu hyn. Dydd tywyll iawn oedd hwnnw yn hanes Cymru.

18. Collodd ei hannibyniaeth, y peth y bu ei dewrion yn ymladd drosto o oes i oes.

19. O hynny hyd heddiw nid yw Cymru'n ddim ond rhan o Loegr, a chanddi'r un brenin a'r un deddfau.

20. Llywelyn oedd yr olaf o linach hen Dywysogion Cymru i fod ar yr orsedd. Am hynny y gelwir ef yn Llywelyn, ein Llyw Olaf."

21. Er plygu i frenin Lloegr, a derbyn ei ddeddfau, Cymry yw'r Cymry o hyd.

22. Nid anghofiant ogoniant eu gorffennol. Carant eu gwlad a chadwant eu hiaith.

Nodiadau[golygu]