Storïau o Hanes Cymru cyf I/Mari Jones

Oddi ar Wicidestun
Charles o'r Bala Storïau o Hanes Cymru cyf I

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

Williams Pantycelyn

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Mari Jones
ar Wicipedia





MARI JONES YN MYNED I'R BALA

16.
Mari Jones.
"Beibl i Bawb o Bobl y Byd."

1. Yn amser Charles o'r Bala yr oedd merch fach yn byw gyda'i thad a'i mam mewn bwthyn wrth droed Cader Idris. Mari Jones oedd ei henw.

2. Teulu tlawd oeddynt. Er hynny daeth y ferch fach honno'n enwog iawn.

3. Aeth sôn amdani trwy Gymru gyfan, a thrwy lawer rhan arall o'r byd. Beth a wnaeth, ynteu?

4. Fel y gwelsom yr oedd rhai ysgolion i blant tlawd yng Nghymru erbyn hyn. Daeth ysgol i ardal Mari Jones hefyd.

5. Daeth hi i fedru darllen yn fuan iawn. Yr oedd yn hoff iawn o ddarllen y Beibl. Ond nid oedd digon o arian gan dad a mam Mari Jones i brynu Beibl.

6. Yr oedd Beibl mewn fferm tua dwy filltir o'i chartref. Dywedodd pobl y fferm wrthi y câi hi ddyfod yno bryd y mynnai i'w ddarllen.

7. Bob dydd ar bob tywydd âi'r eneth fach, ar hyd y ffordd arw a phell, i'r fferm hon er mwyn darllen y Beibl. Dim ond deg oed oedd pan aeth yno'r tro cyntaf.

8. "O, mi hoffwn gael Beibl i mi fy hun," meddai Mari. "Hoffwn hynny'n fwy na dim. Mi gadwaf bob dimai a enillaf nes bod gennyf ddigon o arian i brynu un."

9. Cyn i hynny ddyfod i ben, yr oedd wedi cerdded yn ôl a blaen i'r fferm am chwe blynedd.

10. Un dydd, wedi rhifo ei cheiniogau a'i dimeiau, gwelodd fod ganddi ddigon i dalu am Feibl. Dydd hapus oedd hwnnw iddi hi.

11. Ond nid oedd Beibl i'w gael yn nes na'r Bala lle'r oedd Thomas Charles yn byw. Yr oedd pum milltir ar hugain rhwng cartref Mari Jones a'r Bala.

12. Cerddodd yr holl ffordd heb esgidiau na hosanau! Pan ddaeth i'r Bala, dywedwyd wrthi nad oedd un Beibl ar ôl. Yr oedd yr olaf wedi ei werthu.

13. Wylodd Mari Jones yn chwerw. Yr oedd Thomas Charles bron ag wylo hefyd wrth edrych arni.

14. Aeth i ystafell arall a daeth yn ôl â Beibl yn ei law.

15. "Paid ag wylo, eneth fach," ebr ef. 'Rhaid i ti gael Beibl, wedi cerdded yr holl ffordd yna."

16. "Yr wyf wedi addo hwn i ffrind i mi. Rhaid iddo ef fod heb un y tro hwn eto. Dyma'r Beibl i ti."

17. Nid oedd ferch fach hapusach yng Nghymru na Mari Jones ar y funud honno.

18. Wedi iddi fynd bu Charles o'r Bala yn meddwl yn ddwys am aberth y ferch er mwyn cael Beibl.

19. "Rhaid rhoi Beibl i bob plentyn yng Nghymru," ebr ef. Aeth i Lundain, a dywedyd hanes Mari Jones.

20. Aeth yr hanes i galon pawb a'i clywodd. Cyn mynd yn ôl, yr oedd ef ac eraill wedi trefnu ffordd i roi—
"Beibl i bawb o bobl y byd."

21. Galwyd nifer o ddynion da o lawer gwlad at ei gilydd yn Llundain, a sefydlwyd Cymdeithas newydd.

22. "Cymdeithas y Beiblau" oedd ei henw. Ei hamcan oedd cyfieithu'r Beibl i bob iaith, a'i anfon i bob. gwlad.

23. Gan ei fod eisoes wedi ei gyfieithu i'r Gymraeg, cafodd Cymru ddigon o Feiblau yn fuan iawn, am bris llawer is na Beibl Mari Jones.

24. Y mae Cymdeithas y Beiblau wrth ei gwaith o hyd. Efallai na buasai'n bod onibai am aberth Mari. Jones er mwyn cael Beibl.

Nodiadau[golygu]