Straeon y Pentan/At y Darllenydd

Oddi ar Wicidestun
Straeon y Pentan Straeon y Pentan

gan Daniel Owen

Cynwysiad

AT Y DARLLENYDD

Mae amryw o'r straeon hyn wedi ymddangos eisoes mewn gwahanol gylchgronau, a'r lleill yn ymddangos yn awr am y tro cyntaf. O herwydd fy mod wedi cyhoeddi amryw nofelau, hwyrach y dylwn ddweud mai straeon gwir ydyw y rhai hyn. Gosodais yr hanesion yn ngenau F'ewyrth Edward, er mwyn ysgafnhau yr arddull a'u gwneud yn fwy darllenadwy i bawb. Mi a wn yn burion fod y stori am Twm Cynah yn cael ei hadrodd am Bendigo, Tom Spring ac eraill. Am a wn i, y mae gan Twm Cynah gystal hawl iddi a neb arall. Mi gredaf y caiff y llyfr y derbyniad a haedda — beth bynag fydd hyny. Nid llawer o lyfrau cyffelyb i STRAEON Y PENTAN sydd yn Gymraeg, o leiaf, ni wn i ond am ychydig, ac os bydd ei ymddangosiad yn gymhelliad i rywrai eraill i wneud casgliad gwell o straeon sydd yn berffaith wir, bydd un amcan da wedi ei gyrhaeddyd. Hwyrach y bydd ambell frawd go solet yn tynu cuchiau uwchben rhai o'r tudalenau, ac yn sibrwd—"gwirion hen," er hyny, hyderaf fod i bob un o'r straeon ei hergud, ac nad oes dim yn un o honynt i iselu tôn moesoldeb y darllenydd.

DANIEL OWEN.

WYDDGRUG

Mai, 1895.